Florence Mockeridge oedd un o’r academyddion mwyaf nodedig a weithiodd yng Ngholeg Prifysgol Abertawe. O’r 1920au cynnar, hi, ar ei phen ei hun, a ddatblygodd yr Adran Fioleg , gan ddod yn bennaeth adran arni. Yn ddiweddarach, daeth i fod yn Athro Botaneg. Fel gwyddonydd benywaidd, athro a phennaeth adran, roedd hi’n anarferol ac yn arloesol. Bu hefyd yn Ddirprwy Is-ganghellor y Coleg rhwng 1949 a 1951. Mockeridge a ddechreuodd y broses a fyddai’n arwain at yr adeilad academaidd pwrpasol cyntaf ar safle Singleton, y Gwyddorau Naturiol – sef adeilad Wallace erbyn hyn – ac mae’n parhau i fod yn un o adeiladau mwyaf ysblennydd y campws.
Agorodd y Gwyddorau Naturiol ym 1965. Yn y blynyddoedd cyntaf hynny, nid oedd gan yr adeilad yr esgyll ar ei ochrau dwyreiniol a gorllewinol fel sydd ganddo heddiw. Yng nghanol y 1950au, bu Coleg Prifysgol Abertawe yn gweithredu o’r Abaty, Llyfrgell 1937 a chyfres o ‘gabanau’ neu bafiliynau y gellid eu tynnu i lawr ar diroedd y parc.
Athro Florence Mockeridge, tua’r 1920au
Y Gwyddorau Naturiol oedd yr adeilad pwrpasol cyntaf ar gyfer adrannau academaidd. Yr adrannau cyntaf i gael eu lleoli yno oedd Botaneg, Daearyddiaeth, Daeareg a Sŵoleg. Mae’r symbolau sydd wedi’u cynnwys ym mlaen yr adeilad (daffodil, y ddaear, trilobit a baedd gwyllt) yn cynrychioli’r pedwar pwnc hwn. Fel Tŷ’r Coleg, dyluniwyd y Gwyddorau Naturiol gan y penseiri Percy Thomas a’i feibion. Dyluniwyd ei ffurf isel ond eang i gyd-fynd ag amlinellau’r parc a glan môr Bae Abertawe. Syniad Florence Mockeridge oedd yr adeilad. Fodd bynnag, roedd hithau’n gwybod na fyddai hi byth yn addysgu ynddo’n bersonol, oherwydd fe ymddeolodd cyn iddo agor. Fodd bynnag, ei hetifeddiaeth hi yw’r Gwyddorau Naturiol a’r gerddi botaneg ysblennydd a ddyluniwyd ddim yn hir wedi hynny. Mae ei phortread yn hongian yng nghyntedd Adeilad Wallace.
Athro Florence Mockeridge, tua’r 1950au
Ceir y deunyddiau drwy garedigrwydd Archifau Richard Burton, Prifysgol Abertawe.