Fel myfyriwr, roedd y cyn-fyfyriwr Mike Johnson yn byw ym Mhreswylfeydd Lewis Jones yn ystod ei flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Abertawe. Un o'i atgofion hapusaf o'r cyfnod hwn oedd presenoldeb gwestai arbennig iawn ym mharti pen-blwydd ffrind.
Atgof Mike
Yr adeg pan wnaeth alarch enfawr ymweld â Neuaddau Preswyl Sibly yw un o'm hatgofion amlycaf o'm hamser ym Mhrifysgol Abertawe.
Ar 10 Mai 2002, roedd grŵp ohonom wedi mynd allan i ddathlu pen-blwydd ffrind. Pan ddaethon ni nôl i'n neuaddau (sef Lewis Jones), penderfynon ni y byddai'n syniad da i fenthyg alarch o Pub on the Pond fel anrheg pen-blwydd.
Mae'r atgofion braidd yn niwlog ar sut cafodd y cynllun ei lunio, ond gwirfoddolodd dau o'n grŵp – boed yn ddewr neu'n ddwl – i nofio draw i ynys ganolog y pwll, dadfachu alarch a'i bedlo draw atom ni.
Roedd tua hanner dwsin ohonom ni yno i'w gludo i lawr Ffordd y Mwmbwls ac i'r campws. Rwy'n dal i gofio pa mor drwm oedd yr alarch, hyd yn oed gyda chwech ohonom yn ei gludo, felly cymerodd sbel i gyrraedd y Brifysgol. Erbyn i ni gyrraedd y fynedfa i'r campws, gyda cheir yn canu eu cyrn i'n hannog yr holl ffordd, roeddem ni wedi cael digon ac aethon ni yn ôl i'n neuaddau i gael seibiant. Ychydig yn ddiweddarach, gwnaeth rhai o'n grŵp barhau â'r daith a chludo'r alarch yr holl ffordd i Neuaddau Preswyl Sibly.
Yn y cyfamser, roedd rhai myfyrwyr wedi cludo'r alarch ar draws y ffordd a cheisio ei roi yn y môr. Llwyddon ni i'w gael e'n ôl a mynd ag ef i Sibly. Roedd cynulleidfa barod. Roedd y porthorion yn meddwl ei bod hi'n ddoniol tu hwnt. Roedden nhw'n gwybod yn iawn mai ni oedd wedi ad-leoli'r alarch, er gwaethaf i ni brotestio fel arall.
Am y diwrnodau nesaf, byddai pobl yn dod i gael llun gyda'r alarch y tu allan i Sibly. Daeth yn dipyn o atyniad i dwristiaid yn ystod ei ymweliad!
Cyn yr oedd hi'n bosib i ni fynd â'r alarch yn ôl i'w gynefin naturiol yn y pwll, roedd rhywun arall wedi rhoi cynnig ar ei symud i'r traeth eto. Cawsant eu dal ac roedd yn rhaid iddynt fynd â'r alarch yn ôl i Pub on the Pond (heb unrhyw ddifrod, wrth reswm) a oedd yn wych gan y gwnaeth arbed jobyn i ni.
Gwnaeth un o'm ffrindiau fy annog i gyflwyno erthygl i bapur newydd y myfyrwyr. Nid oeddwn i'n meddwl y byddai byth yn cael ei chyhoeddi, ond gofynnwyd am luniau niwlog ac roedd ar y dudalen flaen!
Roedd yn beth dwl i wneud (fel llawer o'm hoff atgofion o fod yn ifanc yn y Brifysgol) ond mae bellach yn atgof melys iawn i mi a phawb arall a fu'n rhan o'r helynt oherwydd roedd yn amlygu pa mor dwp y gallem ni fod, a chymaint o hwyl a gawson ni gyda'n gilydd heb fod yn ddinistriol. Roedd popeth yn ddigon diniwed, roedd angen llawer o waith tîm, ac am y ddwy flynedd nesaf, ni oedd y bobl a gipiodd yr alarch. Hyd yn oed nawr, pan fyddwn yn cwrdd, mae'n anochel y caiff y stori honno ei hadrodd (er efallai yn llai cywir bob tro!)
Erbyn hyn, mae'r alarch yn byw bywyd tawel ar y pwll gyda'i ddiod - gadewch lonydd iddynt!