Y Prosiect
Mae'r prosiect peilot hwn yn canolbwyntio ar y broses o lunio polisïau sy'n sail i strategaethau rheoli opiwm sy'n aneffeithiol ar y cyfan, ac yn aml yn wrthgynhyrchiol, y cânt eu gweithredu yn Affganistan ers ymyriad y cynghreiriaid yn 2001.
Mae'n ymchwilio i'r deinamig sy'n berthnasol i gyfranogiad cyfyngedig rhanddeiliaid lleol, yn enwedig dadansoddwyr ac ysgolheigion, yn y broses honno. Yn y cyd-destun hwn, nod y prosiect yw datblygu gallu dadansoddi mewnol, creu cysylltiadau trawswladol a chynyddu gwerthfawrogiad mewn llunio a gwerthuso polisi ysgolheigion a dadansoddwyr Affganaidd, y mae ganddynt wybodaeth leol hynod werthfawr sy'n cael ei diystyried yn aml iawn.
Dr David Bewley-Taylor, sy'n arbenigo mewn polisi cyffuriau rhyngwladol, sy'n cynnal yr ymchwil hon.