'Casglu a dadansoddi data a grëir gan farchnadoedd gamblo gwleidyddol ar-lein'
Mae Dr Matthew Wall, sy'n Ddarlithydd yn Adran Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol Prifysgol Abertawe, yn Brif Ymchwilydd ar brosiect a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) sy'n werth £76,001, ynghyd â'i Gyd-ymchwilwyr (Dr Stephen Lindsay, sy'n ddarlithydd yn Adran Gyfrifiadureg Prifysgol Abertawe a Dr Rory Costello, sy'n Ddarlithydd yn yr Adran Gwleidyddiaeth a Gweinyddu Cyhoeddus ym Mhrifysgol Limerick).
Bydd y prosiect 15 mis o hyd hwn, o'r enw 'Beth yw'r ods?' Yn casglu ac yn dadansoddi data a grëir gan farchnadoedd gamblo gwleidyddol ar-lein' yn datblygu'r reddf a gynigir ar farchnadoedd gamblo i roi gwybodaeth i ni am ganfyddiad cyfranogwyr o'r tebygolrwydd o ganlyniadau posib ar gyfer digwyddiad penodol. Mae ods ‘hir’, sy’n cynnig elw mawr, yn tueddu i gael eu cynnig ar ganlyniadau annhebygol (yn ôl canfyddiad), ac mae ods ‘byr’, sydd ond yn cynnig elw bach iawn, yn nodi bod canlyniad yn debygol. At hynny, mae’r ods ar gynnig yn amrywio dros amser wrth i wybodaeth newydd ddod i’r amlwg. Mae ‘Beth yw’r ods?’ yn canolbwyntio ar y ffaith bod y rhan fwyaf o wefannau gamblo ar-lein y dyddiau hyn yn cynnig ods ar ganlyniadau gwleidyddol. Gan y caiff yr ods hyn eu cyhoeddi ar-lein, mae’n bosib eu casglu’n awtomatig a choladu cofnodion o sut mae’r marchnadoedd yn amrywio dros amser. Bydd y prosiect hwn yn casglu ac yn dadansoddi data marchnadoedd gamblo sy’n ymwneud ag etholiadau a refferenda, sef y ffordd allweddol y mae dinasyddion yn dylanwadu ar bolisi mewn democratiaeth gynrychiadol.
O safbwynt academaidd, mae marchnadoedd gamblo gwleidyddol ar-lein yn cynnig data unigryw am y newidiadau sy’n digwydd yn ystod ymgyrchoedd etholiadol. Caiff newidiadau fel hyn eu mesur ar hyn o bryd drwy ddata arolygon pleidleisio. Fodd bynnag, mae arolygon o’r fath yn ddrud iawn i’w cynnal, maent yn tueddu i gael eu cynnal ar gyfnodau anrheolaidd, ac mae amrywiaeth o ran dulliau samplo a phwysoli mewn tai arolygon pleidleisio gwahanol. Mae’r marchnadoedd gamblo ar-lein yn cynnig ciplun munud-wrth-funud o ganlyniad tebygol etholiadau yn rhad ac am ddim yn ystod ymgyrch, pob un yn cael ei greu gan yr un mecanwaith. Mae marchnadoedd gamblo ar-lein hefyd ar gael ar gyfer ymgeiswyr unigol yn eu hetholaethau unigol yn aml iawn – sy’n adnodd newydd cyfoethog ar gyfer ysgolheigion ymgyrchu.
Fodd bynnag, nid yw’r broses o gasglu a threfnu data tebyg yn syml, yn enwedig o gofio nifer y gwefannau sy’n cynnig marchnadoedd gamblo gwleidyddol. Mae gan bob gwefan ei fformat a’i nodweddion unigryw, y mae’n rhaid eu hystyried. Serch hynny, mae’r rhain yn ‘fawr’ – o ran cyfaint (er enghraifft, amcangyfrifir mai maint set ddata etholiad cyffredinol yn y DU yw 9.5GB) a chyflymder (y cyflymder y gall marchnadoedd ymateb i ddigwyddiadau allanol). Mae angen dulliau a thechnegau pwrpasol i storio a dadansoddi data fel hyn. Am y rheswm hwn, mae ‘Beth yw’r ods?’ yn brosiect cydweithredol sy’n cynnwys gwyddonwyr gwleidyddol a chyfrifiadurwyr, a’u prif nod yw galluogi’r tîm ymchwil a’r ymchwilwyr eraill i gasglu a dadansoddi data a grëwyd ar-lein gan farchnadoedd gamblo gwleidyddol. Gwneir hyn drwy greu gwefan prosiect bwrpasol gydag wyneb ‘ymchwil’ sy’n cynnwys y dulliau, y technegau a’r data a grëir gan y prosiect ar ffurf ffynonellau agored.
Bydd ‘Beth yw’r ods?’ yn hwyluso gweithgareddau ymchwil sy’n rhyngddisgyblaethol yn eu hanfod, gan gyfuno diddordebau gwyddor wleidyddol (seffololeg, dadansoddi barn y cyhoedd a rhagolygon etholiadol) â materion sy’n ymwneud â chyfrifiadureg (rheoli cronfeydd data, datblygu algorithmau a delweddu data).
Derbyniodd prosiect peilot cam un, o’r enw ‘Rhagolygon etholiadol gan ddefnyddio data gamblo ar-lein’ yn 2013 £2,000 o gyllid gan Gyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) a ariannwyd gan Raglen Pontio’r Bylchau ym Mhrifysgol Abertawe. O ganlyniad i’r cyllid hwn, roedd yn bosib i Dr Wall a Dr Lindsay gyflogi Robert Rokosz (myfyriwr Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe) er mwyn datblygu a phrofi algorithm i gribo a dadansoddi data a grëir gan farchnadoedd gamblo gwleidyddol ar-lein.