Ynglŷn â'r prosiect
Pan ddechreuodd Amy Dilwyn gyfeirio at ei chyfaill, Olive Talbot, fel ei 'gwraig' ym 1872 yn ei dyddiaduron preifat, nid oedd y term 'lesbiad' ar gael iddi. Yn hwyrach yn ei bywyd, byddai Dilwyn yn dod i ymhyfrydu yn yr hyn a alwodd yn ei 'gwahaniaeth' ac y byddai'n ei bwysleisio drwy wisgo'n anghonfensiynol, ei harfer o ysmygu sigâr yn gyhoeddus a'i hannibyniaeth ddi-flewyn-ar-dafod.
Roedd yn ddiwydianwraig Brydeinig arloesol, gan drawsnewid gweithfeydd sinc a oedd yn methdalu yn fusnes gwerthfawr, gan arbed 300 o swyddi. Roedd hi hefyd yn adnabyddus am ei gwaith ym maes cyfiawnder cymdeithasol, gan gefnogi gwniadwragedd a oedd yn streicio ac yn ymgyrchu dros y bleidlais i fenywod.
Fel nofelydd, ymchwiliodd i densiynau dosbarthiadau cymdeithasol, gan fabwysiadu llais terfysgol dyn o'r dosbarth gweithiol mewn un nofel (a gafodd ei chyfieithu i'r Rwsieg yn gyflym a'i chyhoeddi mewn cyfnodolyn chwyldroadol blaenllaw o ganlyniad i'w radicaliaeth gymdeithasol). Mae ei gwaith ffuglen yn bwysig fel enghraifft gynnar o ysgrifennu ffeministaidd (Y Fenyw Newydd) ac mae'n enghraifft ragorol o 'ffuglen lesbiaidd' o Oes Fictoria, yn arloesol ac yn angerddol yn ei mynegiant o gariad at fenyw arall.
Mewn cyd-destun hanesyddol, mae ysgrifennu Dilwyn yn 'cyn-rhywoleg' (hynny yw, cyn y cyhoeddiadau pennaf am wrthdroad) ond hefyd yn gyfoes â datblygiad y patrymau hyn.
Bydd y prosiect ymchwil, dan arweiniad yr Athro Kirsti Bohata, yn arwain at lyfr sy'n cyflwyno astudiaeth fanwl o ffigwr lesbiaidd pwysig, gan ddefnyddio papurau personol i adolygu bywgraffiad cudd Amy Dilwyn. Bydd y papurau hyn, ynghyd â damcaniaethau llenyddol cyfoes, yn cyfrannu at allu darllen ei gwaith ffuglen fel enghraifft o lenyddiaeth 'lesbiaidd'. Yn ogystal â'i ffocws ar rywioldeb, bydd y llyfr hefyd yn trin a thrafod 'ffeministiaeth' a 'chenedlaetholdeb' Amy Dilwyn. Bydd yn adfyfyrio ar ei hymdeimlad problematig o berthyn i grŵp ethnig lleiafrifol ac, ar yr un pryd, i ddosbarth gormesol ac ecsbloetiol o dirfeddianwyr a gwleidyddion.