Arweinydd y Prosiect: Yr Athro Mark Humphries
Crynodeb o'r Prosiect
Nod y prosiect hwn yw datblygu ymagwedd fyd-eang, newydd sbon a chwbl radical at gyfnod yn hanes y Canoldir a elwir fel arfer yn ‘y cynfyd hwyr’ (200-800 OC) Yn aml, caiff y cyfnod hwn ei gysylltu â datgymalu gwleidyddol yr Ymerodraeth Rufeinig yn y Gorllewin a’i disodli gan deyrnasoedd yr oedd haenau uwch cymdeithas yn eu llywodraethu (yr is-dywedir ‘barbariaid’) a oedd wedi hanu o’r tu hwnt i ffiniau’r ymerodraeth â thiriogaethau sy’n estyn o afon Rhine yn y Gorllewin i ganolbarth Asia. Mae hyn yn cynrychioli hanesion y Canoldir a’r byd ehangach sy’n gorgyffwrdd yn aml iawn. Mae ysgolheictod diweddar yn dangos diddordeb cynyddol mewn rhyngweithio rhwng y byd Rhufeinig ac Ewrasia, yn ogystal â chysylltiadau yn y Gorllewin â gogledd Ewrop, ac ar draws y Sahara gyda throad Niger. Mae astudiaethau o’r fath yn agor ffenestri cwbl newydd ar y cynfyd hwyr, a nod y prosiect yw bod yn flaengar yn yr ailasesiad o bwys hwn.
Gall pynciau PhD posib gynnwys astudiaethau o gysylltedd pellter hir, dadansoddiadau cymharol neu ymchwiliadau i sut yr oedd byd byd-eang y cynfyd hwyr wedi’i gyfansoddi o hanesion lleol di-rif.
Goruchwylwyr: Bydd gan bob myfyriwr Dîm Goruchwylio sy'n cynnwys o leiaf ddau oruchwylydd cymwys a fydd yn cynnig goruchwyliaeth academaidd, bugeiliol a chymorth. Bydd timau goruchwylio’n cynnwys Mark Humphries fel goruchwyliwr cyntaf, a chaiff ail oruchwyliwr ei ddewis yn unol â natur pwnc ymchwil penodol y myfyriwr.
Cefndir
Mae ymchwil Mark Humphries ar agwedd fyd-eang y cynfyd hwyr wedi datblygu mewn cyfres o gyhoeddiadau dros y degawd diwethaf, megis ‘Late Antiquity and World History’ (2017), yr erthygl gyntaf a gyhoeddwyd yn fersiwn gyntaf y cyfnodolyn rhyngwladol Studies in Late Antiquity. Roedd yr erthygl hon yn pwysleisio’r croestoriadau rhwng rhwydweithiau pŵer, masnach a chyfnewid diwylliannol byd-eang, gan osod seiliau agenda ymchwil ar gyfer y dyfodol ar y pwnc hwn.
Mae’n mwynhau perthnasoedd cryf ac agos ag amrywiaeth o rwydweithiau ysgolheigaidd cenedlaethol a rhyngwladol. Mae wedi gweithio sawl tro ar waith cydweithredol agos gyda chlwstwr o gydweithwyr sy’n gweithio ar y cynfyd hwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, yn enwedig yr Athro Shaun Tougher a Dr Nic Baker-Brian, ac ar y cyd, maent wedi trefnu gweithdai a sesiynau cynhadledd ar brosiect cydweithredol ar brifddinasoedd ymerodrol yn ystod y cynfyd hwyr. Mae ei gysylltiadau rhyngwladol yn cynnwys ysgolheigion yng Ngogledd America, Ewrop ac Awstralia. Yn ogystal, mae ganddo gysylltiadau ymchwil sy’n parhau â Paris Sorbonne (gyda’r Athro Giusto Traina, ar Armenia Fawr yn ystod y cynfyd hwyr) a Ghent (gyda Dr Jeroen Wijnendaele, ar weddnewid arweinyddiaeth wleidyddol yn y cynfyd hwyr). Uwchben popeth, fel un o olygyddion cyffredinol y gyfres arobryn Translated Texts for Historians, sy’n astudio astudiaethau ar ffurf monograffau o ffynonellau’r cynfyd hwyr (https://liverpooluniversitypress.co.uk/collections/series-translated-texts-for-historians), mae ganddo gysylltiadau â rhwydwaith rhyngwladol o ysgolheigion sy’n gweithio ar amrywiaeth o lenyddiaeth o’r Canoldir a’r tu hwnt.
Prif gyhoeddiadau diweddar
‘Cities and the Meanings of Late Antiquity,’ Brill Research Perspectives in Ancient History 2.4 (2019), 1-112.
‘Narrative and Space in Christian Chronography: John of Biclaro on East, West, and Orthodoxy,’ yn P. Van Nuffelen (ed.), Historiography and Space in Late Antiquity (Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2019.
‘Late Antiquity and World History: Challenging Conventional Narratives and Analyses’, Studies in Late Antiquity: A Journal 1 (2017), 8-37.
Myfyrwyr PhD presennol: Joseph Moore, ‘The Court of the Theodosian Dynasty (379-455)’.