Prosiect DRAGON-S
Bob hanner eiliad, mae plentyn yn clicio ar-lein am y tro cyntaf. Er bod y rhyngrwyd yn cynnig cyfleoedd gwych i ddysgu a chysylltu ag eraill, mae ganddo ochr dywyll hefyd, lle mae plant yn agored i niwed. Amcangyfrifir ar unrhyw un adeg, bod tua 750,000 o unigolion yn ceisio cysylltu â phlant ar-lein at ddibenion rhywiol, gan gynnwys paratoi i bwrpas rhyw . Mae pobl sy'n paratoi plant i bwrpas rhyw ar-lein yn defnyddio iaith i feithrin perthynas â'r plant maent yn eu targedu, i ennill a bradychu ymddiriedaeth y plant, gan gamfanteisio ar natur gymdeithasol, caredig a chwilfrydig rhyfeddol plant. Mae prosiect DRAGON-S (sef Developing Resistance Against Grooming Online – Spotter and Shield ) yn gweithio i gadw plant yn ddiogel o'r cam-drin hwn â chymorth technoleg.
Yn ystod 2021-2022, datblygodd ein tîm ymchwil a datblygu offerynnau o'r radd flaenaf sy'n gyfrifol yn foesegol i helpu i ddatgelu paratoi i bwrpas rhyw ar-lein (DRAGON-Spotter) a'i atal (DRAGON-Shield). Yn 2023, rydym yn peilota ac yn gwerthuso'r offerynnau hyn. Rydym ni hefyd yn dechrau ar brosiectau newydd cysylltiedig: DRAGON+ (Developing Resistance Against Grooming Online – Stories Strengthened Safeguards) a C2CHAT.
Mae ein gwaith Prosiect DRAGON-S wedi'i atgyfnerthu gan ethos cyd-greu cryf a gweithio'n gydweithredol gyda mwy na 400 o unigolion (ymarferwyr diogelu plant, plant, arbenigwyr profiad personol, ymchwilwyr) a 25 o sefydliadau ledled Cymru, y DU, Ewrop, Ynysoedd y De a'r Amerig. Mae'r rhan fwyaf o'n hymchwil yn berthnasol i amgylcheddau Saesneg eu hiaith, wrth hefyd baratoi'r ffordd i'w hestyn i ieithoedd eraill. Er enghraifft, rydym ni'n cydweithio ar ymchwil i ddatblygu ffordd o ddatgelu paratoi i bwrpas rhyw ar-lein yn Sbaeneg ar y prosiect Project StopOnSexGroom (pencadlys yn Universitat Politécnica de València), ac mae DRAGON+ yn cynnwys datblygu ac ymchwil aml-iaith/amlddiwylliannol.