DRAGON-Shield yn Fyw

DRAGON-Shield: Cwrs Hyfforddi

                                                         Cofrestriadau hyfforddi misol

Hyd

  • 8 modiwlau
  • 30-45 munudau i gwblhau pob modiwl - 4-5 awr
  • 3-mis i gwblhau o gofrestru

Taliad

Credwn na ddylai cost fyth fod yn rhwystr i gael mynediad at DRAGON - Shield. Mae’r hyfforddiant ar gael am gostau cystadleuol i ymarferwyr sy’n gweithio i gadw plant yn ddiogel ar-lein.

Ffi unigol: £125

Mae gostyngiadau Grŵp a Sefydliad ar gael. Cysylltwch â ni yn dragons@swansea.ac.uk i drafod yr opsiynau hyn ymhellach

Lleoliad

Ar-lein - Darperir mynediad i'r cwrs ar ôl cwblhau'r dilysu trwy ffurflen gymhwysedd

Ymrestru

Cwblhewch y ffurflen mynegi diddordeb yma: https://swanseasom.au1.qualtrics.com/jfe/form/SV_bl7tpJmZU6UIeWO

Yna byddwn yn eich arwain trwy broses gofrestru syml.

Mae DRAGON-Shield yn borth hyfforddi aml-gyfrwng a rhyngweithiol sy'n trosglwyddo gwybodaeth arbenigol i ymarferwyr diogelu plant am bobl sy'n paratoi i bwrpas rhyw ar-lein ac ymddygiad cyfathrebu plant yn ystod y broses hon.

Mae'r offeryn DRAGON-Shield yn cryfhau gallu ymarferwyr diogelu plant i atal plant rhag cael eu paratoi i bwrpas rhyw ar-lein. Bydd hyfforddeion sy'n defnyddio'r porth yn cael eu tywys drwy'r canlynol:

  • Y tactegau sy'n amlwg yn ystod y broses o baratoi i bwrpas rhyw ar-lein;
  • Sgyrsiau enghreifftiol sy'n deillio o drawsysgrifau go iawn rhwng pobl sy'n paratoi i bwrpas rhyw a dioddefwyr sy'n blant;
  • Asesiadau rhyngweithiol ar ddiwedd modiwlau i hyfforddeion brofi eu gwybodaeth;
  • Ein hefelychydd sgwrsio i weld y tactegau ar waith.

Bydd hyfforddeion yn derbyn tystysgrif y gellir ei lawrlwytho fel tystiolaeth o gwblhau eu portffolios datblygiad proffesiynol. Bydd hyfforddeion sy'n defnyddio'r offeryn hefyd yn cael mynediad at ganllaw defnyddwyr gwybodus a thrylwyr, siart lif cymorth diogelu, llyfrgell lles a phecyn adnoddau i'w ddefnyddio wrth weithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc.

Mae hyfforddiant DRAGON-Shield yn helpu i:

  • Gynyddu ymwybyddiaeth a chydnabyddiaeth o'r tactegau cyfathrebu mae pobl sy'n paratoi i bwrpas rhyw ar-lein yn eu defnyddio;
  • Cefnogi gwaith rhoi cyngor i blant a phobl ifanc ar y technegau paratoi i bwrpas rhyw ar-lein sy'n cael eu defnyddio, cynyddu ymwybyddiaeth a rhoi gwybodaeth am y risgiau o gam-drin plant yn rhywiol ar-lein;
  • Gwella a diweddaru polisïau ac arferion diogelu penodol mewn sefydliadau – llywio arfer gorau;
  • Profiad o lygad y ffynnon am sgyrsiau mewn amser go iawn drwy ein hefelychydd sgyrsiau DRAGON-Shield o safbwynt plentyn;
  • Cefnogi lles hyfforddai wrth iddo lywio drwy hyfforddiant DRAGON-Shield. Rydym ni'n cydnabod y cynnwys trallodus sydd yn y trawsysgrifiau paratoi i bwrpas rhyw ar-lein ac rydym ni wedi creu llyfrgell lles llawn gwybodaeth a chymorth i hyfforddeion ei chyrchu.

Sylwadau a ddarparwyd yn ystod Astudiaeth Beilot DRAGON-Shield:

“Mae natur ryngweithiol y modiwlau yn ddefnyddiol ac yn ddiddorol iawn"

"Mae cael y cyfle i archwilio arddull gyfathrebu rhwng person sy'n ceisio paratoi rhywun i bwrpas rhyw a'r plentyn a oedd yn darged yn agos fel hyn yn agoriad llygad mawr"

“...yn glir ac yn llawn gwybodaeth, ac yn hawdd ei ddefnyddio. Caiff ei ddisgrifio'n glir, gyda lluniau drwy enghreifftiau a sut a pham, mae plant yn ymgymryd â hyn mewn ffyrdd amrywiol"

“Bydd yr wybodaeth a ddysgais yn ddefnyddiol pan fyddaf i neu unrhyw un yn fy nhîm yn adolygu unrhyw gyfathrebu digidol newydd, megis negeseuon fel rhan o ymchwiliad"

Yn dilyn cyfnod o ddatblygiad a phrofi cadarn, a chan weithio ar y cyd ag adrannau gorfodi’r gyfraith ac ymarferwyr diogelu'n rhyngwladol, mae Prosiect DRAGON-S yn cynnal gwerthusiad trylwyr o offerynnau DRAGON-Shield a DRAGON-Spotter yn 2023.

Os oes gennych ddiddordeb mewn clywed rhagor am ein hofferyn DRAGON-Shield a hoffech chi gysylltu â ni, e-bostiwch prosiect.dragons@abertawe.ac.uk.