Mae ‘Teithwyr Ewropeaidd i Gymru 1750-2010’ yn brosiect a ariennir gan yr AHRC a ddechreuodd yn 2013. Mae’n brosiect cydweithredol rhwng Dr Kathryn Jones o Brifysgol Abertawe, yr Athro Carol Tully o Brifysgol Bangor a Dr Heather Williams o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.
Mae’r prosiect wedi datgelu nifer helaeth o straeon am deithio i Gymru yn ystod y cyfnod hwn, y rhan fwyaf ohonynt wedi’u hysgrifennu yn Ffrangeg neu’n Almaeneg. Roedd llawer o’r adroddiadau sydd wedi’u rhestru yn y gronfa ddata wedi’u ‘cuddio’ mewn ysgrifennu am deithiau yn Lloegr. Archwiliodd ‘Teithwyr Ewropeaidd’ amrywiaeth o ffynonellau a oedd yn cynnwys teithluniau, llyfrau teithio, dyddiaduron, llythyron a blogiau, ar ffurf argraffedig a llawysgrifau. Darganfu’r ymchwilwyr amrywiaeth eang o resymau a oedd gan deithwyr Ewropeaidd dros ddod i Gymru: rhai yn chwilio am hafan ramantus, eraill yn ysbiwyr diwydiannol yn ystod oes Fictoria a rhai'n ffoaduriaid o Almaen y Natsïaid. Mae hyn yn ein helpu i ddeall Cymru’n well: Mae straeon ffoaduriaid ac alltudion wedi dod i’r amlwg, ynghyd â chronfa o ddisgrifiadau manwl o dirweddau, adeiladau ac adfeilion Cymru. Mae’r rhain yn adnoddau cwbl newydd ar gyfer astudio Cymru, ac maent yn ehangu ysgrifennu teithio i gynnwys mwy na phortreadau o Gymru yn y Saesneg yn unig.
Ymysg yr hyn mae’r prosiect wedi’i gyflawni’n bennaf, ceir:
- allbynnau academaidd. Mae’r testunau sydd wedi’u darganfod gan y prosiect hwn wedi cael eu dadansoddi ac archwiliwyd eu themâu mewn erthyglau cyfnodolion, ac mewn rhifyn arbennig ar Gymru o Studies in Travel Writing ac mewn papurau mewn cynadleddau academaidd. Rydym yn archwilio testunau allweddol a ysgrifennwyd gan deithwyr Ewropeaidd mewn llyfr a ysgrifennwyd ar y cyd, sef Hidden Texts, Hidden Nation: (Re)Discoveries of Wales in Travel Writing in French and German (1780-2018) (Liverpool University Press, 2020). Yn ogystal, ystyriodd cynhadledd tri diwrnod y cyfarfyddiad rhwng hunaniaethau lleiafrifol a diwylliannau mewn ysgrifennu teithio a chynrychiolaeth ohonynt.
- Cronfa ddata. Nodwyd mwy na 400 o destunau yr anghofiwyd amdanynt neu a oedd yn anhysbys (yn Ffrangeg ac yn Almaeneg yn bennaf) ac maent wedi’u casglu ynghyd mewn cronfa ddata sydd ar gael i bawb, gan gynrychioli maes ymchwil newydd a chyfoethog i’w ddatblygu yn y dyfodol.
- Arddangosfa o weithiau celf gan deithwyr Ewropeaidd a ddaeth i Gymru. Roedd yr arddangosfa ‘EuroVisions: Wales through the eyes of European Visitors, 1750–2015’ ar agor i’r cyhoedd mewn tair amgueddfa ledled Cymru rhwng haf 2015 a 2016. Cafodd yr arddangosfa deithiol gefnogaeth gan Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth, Amgueddfa Abertawe a Storiel ym Mangor, gan gynnig rhaglen ychwanegol o ddigwyddiadau am ddim i’r cyhoedd, megis darlithoedd, gweithdai i deuluoedd ac ymweliadau ag ysgolion. Mae adnoddau addysgol ar gael am ddim, yn ogystal ag arddangosfa rithwir ar-lein, sy’n atgyfnerthu EuroVisions.
- Adnoddau addysgol. Cynhyrchwyd e-lyfrau dwyieithog gan ffoaduriaid ar gyfer disgyblion CA2 a CA3 yn seiliedig ar ddeunyddiau’r arddangosfeydd mewn cydweithrediad ag uned addysg Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac maent hefyd ar gael i ysgolion ar Hwb. Cynhaliwyd cyfres o weithdai CA2 gan ymchwilwyr Abertawe, Dr Kathryn Jones a Dr Aled Rees, ar Artistiaid sy’n Ffoaduriaid yng Nghymru mewn ysgolion cynradd ledled de Cymru, a defnyddiodd disgyblion sialc snwcer du er mwyn darlunio fel Josef Herman!
- Teithluniau a gomisiynwyd. Cyhoeddwyd Perthyn i Gymru / Belonging to Wales ym mis Mai 2019 mewn partneriaeth â WalesPENCymru. Comisiynwyd pedwar teithlun newydd yn Ffrangeg, yn Almaeneg ac yn Nhwrceg ar deithiau i Gymru gan awduron, gan gynnwys yr awdures fyd-enwog o Ffrainc, Marie Darrieussecq, ac allud yng Nghymru o Dwrci, Meltem Ariken, ac ymddangosodd y casgliad yng Ngŵyl y Gelli yn 2019. Bu hyn yn ysbrydoliaeth ar gyfer cyfres fawr newydd ar-lein yn the Welsh Agenda hefyd o’r enw Belonging to Wales, sy’n ailgyhoeddi’r teithluniau ac yn comisiynu gwaith newydd ar yr un thema.
- Teithio i’r Gorffennol. Dyrannwyd cyllid ymchwil dilynol gan yr AHRC mewn cydweithrediad â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru i greu adnoddau digidol amlieithog i dwristiaid sy’n ymweld â Chymru. Mae’r adnoddau, wedi’u cyfuno â thechnolegau arloesol, yn amlygu ysgrifennu teithio i Gymru drwy gydol y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. Gyda chyhoeddusrwydd byd-eang, mae ‘Teithio i’r Gorffennol’ yn cynnig llwybrau twristaidd ar-lein, teithiau gigapicsel, lluniau stereosgopig, ‘profiad rhithwirionedd’ o Abaty Tyndyrn ac ailgreadau ac animeiddiadau digidol sy’n cynnwys Gweithfeydd Copr yr Hafod yn Abertawe.
Am ragor o wybodaeth am y prosiect, e-bostiwch Dr Kathryn Jones (k.n.jones@abertawe.ac.uk) ac ewch i’r wefan: http://etw.bangor.ac.uk/welcome