Mae’r cyfryngau digidol yn ei gwneud hi’n bosib dod â niferoedd mawr o gyfieithiadau ynghyd ac ymchwilio i sut a ble maent yn wahanol.
Mae dulliau delweddu data yn ei gwneud hi’n bosib i’w harolygu a llywio drwyddynt yn hwylus.
Gellir mapio dadansoddiadau ystadegol o amrywiad mewn cyfieithiadau ar destunau dramâu Shakespeare yn y Saesneg, er mwyn i ni weld lle mae ei waith yn ennyn mwy neu lai o amrywiad mewn cyfieithiadau, pa rannau sy’n debygol o gael eu torri neu ba gyfieithiadau sy’n ehangu ar ba rannau o gymeriadau.
Enw’r cysyniadau arloesol am hwn yw ‘Trefn Cyfieithu’, sef arf soffistigedig ar gyfer creu delweddau o ddiwylliant y byd nad ydym wedi amgyffred â nhw eto.
Mae’r cysyniad hwn yn berthnasol i unrhyw ‘destun diwylliant y byd’ a gyfieithwyd sawl gwaith – boed ym maes llenyddiaeth, crefydd neu athroniaeth. Er mwyn ei roi ar waith, mae angen datrys problemau diddorol iawn o ran alinio testunau lluosog, dadansoddiad algorithmig manwl iawn o amrywiad, delweddu’r canlyniadau a dylunio rhyngwyneb graffig rhyngweithiol.
Dechreuodd y prosiect hwn fel astudiaeth beilot a ariannwyd gan Gronfa Mentrau Ymchwil RIAH. Bydd dyfarniad diweddar gan yr AHRC yn galluogi’r ymchwil i symud i gam newydd a cyffrous.
Dr Tom Cheesman sy’n arwain y tîm ymchwil, sydd hefyd yn cynnwys Dr Robert Laramee, Dr Jonathan Hope a Chynorthwy-ydd Ymchwil ôl-ddoethurol.
Gallwch ddysgu rhagor am Drefn Cyfieithiadau, a dilyn y diweddaraf o ran cynnydd y prosiect arloesol hwn.