Mae’r Uned Asesu Ieithoedd Modern ac Astudiaethau Celtaidd yn uno staff ymchwil yn adran y Gymraeg a’r adran Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y pryd, ynghyd â rhai aelodau o Astudiaethau’r Cyfryngau ac Astudiaethau Rheoli sy’n rhannu ein diddordebau.
Mae ein diddordebau’n ymwneud ag astudiaethau diwylliannol cymharol, creadigrwydd llenyddol a pherfformiad, cyfieithu a thechnoleg a chaffael a pholisi ieithoedd (lleiafrifol). Mae rhai ymchwilwyr yn gweithio ar brosiectau unigol yn bennaf; mae eraill yn rhan o gydweithrediadau trawsddisgyblaethol cenedlaethol a rhyngwladol.