Mae ein staff yn ymwneud â nifer o grwpiau ymchwil
Mae Adran y Clasuron, Hanes yr Henfyd ac Eifftoleg yn amgylchedd ymchwil ffyniannus sydd wedi'i gynnwys mewn rhwydweithiau cenedlaethol a rhyngwladol o ysgolheigion. Mae dau grŵp ymchwil o fewn yr Adran: Canolfan Ymchwil Llenyddiaeth Naratif Hynafol (KYKNOS); a Dehongli Gorffennol yr Aifft yng Nghymru a'r Byd (InEPWW). Ein cryfderau ymchwil yw: llenyddiaeth Roegaidd a Lladin; Hanes ac Archeoleg Groeg a Rhufain; Archeoleg, Hanes a Diwylliant yr Aifft a Nubia; Athroniaeth yr Henfyd; Diogelu Eiddo Diwylliannol mewn Parthau Gwrthdaro.
Mae staff y Clasuron, Hanes yr Henfyd ac Eifftoleg yn ymwneud â nifer o grwpiau ymchwil, gan gynnwys:
- KYKNOS
- InEPWW
- Grŵp Ymchwil Gwrthdaro, Ailadeiladu a Chofio (CRAM)
- Y Ganolfan Ymchwil Canoloesol a Modern Cynnar (MEMO)
Y Ganolfan Ymchwil Rhywedd mewn Diwylliant a Chymdeithas (GENCAS)