30 Ysgol Fusnes Gorau yn y DU ar gyfer Rhagoriaeth Ymchwil (REF 2014)
Ym Mhrifysgol Abertawe, caiff rhaglenni Rheolaeth a Chyllid eu haddysgu yn yr Ysgol Reolaeth, sy'n un o'r 30 o Ysgolion Busnes Gorau yn y DU. Lleolir yr Ysgol Reolaeth ar Gampws y Bae sydd, yn ogystal â bod yn gartref i addysgu o'r radd flaenaf, yn lleoliad busnes a diwydiant hefyd. Mae Fujitsu eisoes wedi sefydlu Hyb Arloesi a thîm ymchwil a datblygu yn yr Ysgol ac rydym yn gartref i Gomisiwn ac Academi Bevan ac mae rhagor o bartneriaethau â diwydiant yn yr arfaeth. Ym Mhrifysgol Abertawe, gall ein dysgwyr elwa o arbenigwyr academaidd mewn Rheolaeth, Arweinyddiaeth a Chyllid, a chael eu trochi ar yr un pryd mewn amgylchedd sy'n llawn arweinwyr diwydiannol yn y byd go iawn.
Arweinyddiaeth ION
Dyluniwyd rhaglen arweinyddiaeth ION i ddatblygu a gwella sgiliau arwain perchnogion, rheolwyr a llunwyr penderfyniadau allweddol busnesau sydd wedi'u lleoli ledled rhanbarth Cydgyfeirio Gorllewin Cymru a'r Cymoedd.
Mae arweinyddiaeth ION yn cynnig 3 chwrs newydd dwys, gafaelgar ac effeithiol wedi'u teilwra ar gyfer pobl â gwahanol lefelau o brofiad arwain.
Mae'r cyrsiau yn cael eu cyflwyno gan arbenigwyr busnes ac yn seiliedig ar ddysgu ymarferol, trwy brofiad o fewn grŵp dibynadwy o gyfoedion ac maen nhw'n canolbwyntio ar ddod o hyd i atebion iawn ar gyfer y materion iawn y mae arweinwyr, ar bob lefel, yn eu hwynebu bob dydd.
Dan arweiniad Prifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, cefnogir prosiect arweinyddiaeth ION gyda £2.7m o Gronfa Gymdeithasol Ewrop.