The CORE Team

GRŴP CORE

Mae CORE (COmputer science Research Energies) yn grŵp newydd ei sefydlu sy'n trefnu gweithdai ar weithgareddau ysgrifennu ceisiadau am grantiau i helpu ymchwilwyr gyrfa gynnar i symud gam yn nes at gyflwyno ceisiadau am eu grantiau cyntaf. Mae'r grŵp yn gwahodd sgyrsiau gan ymchwilwyr gyrfa gynnar ac uwch-gydweithwyr yn Abertawe, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae'r grŵp hefyd yn galluogi ymchwilwyr sydd newydd eu penodi yn Abertawe i ymgysylltu â chydweithwyr, arddangos eu gwaith a datblygu cysylltiadau yn y brifysgol ac yn rhyngwladol.

Mae CORE wedi arwain a chyd-arwain nifer o weithgareddau, gan gynnwys seminarau a sesiynau ysgrifennu ceisiadau am grantiau wedi'u trefnu'n dda, a gafodd eu recordio ac a oedd ar gael ar hyb cyfrifiadureg Canvas i ledaenu gwybodaeth. Mae seminarau'r grŵp yn ymdrin â thrafodaethau ymchwil a hefyd yn ystyried yr heriau sy'n wynebu cydweithwyr yn fewnol yn Abertawe, megis deall proses y REF yn well neu sut i ysgrifennu 100 gair o gyfraniad yn RIS.

Ar y cyfan, mae CORE yn darparu llwyfan i ymchwilwyr gyrfa gynnar ac eraill yn Abertawe ganolbwyntio ar ysgrifennu ceisiadau am grantiau a gwneud cynnydd da ar eu ceisiadau arfaethedig.

The CORE group at a seminar
The CORE group at an away-day outing