Yr Her
Mae gan y rhan fwyaf o gerbydau modern sawl cydran ddigidol ac mae cysylltedd â ffonau symudol a systemau llywio bellach yn gyffredin. Fodd bynnag, mae'n bosib bod modd ecsbloetio’r cysylltedd hwn, gan ganiatáu i gerbydau gael eu rheoli a'u trin o bell, a hyd yn oed bod yn destun ymosodiadau gan feddalwedd wystlo. Ar wahân i hyn, mae'r posibilrwydd o darfu ar systemau a nodweddion mewn cabanau cerbydau hefyd yn peri pryder. O ganlyniad, mae diogelwch ar y ffyrdd yn fater arwyddocaol, ochr yn ochr â chanfyddiadau'r cyhoedd am systemau deallusrwydd artiffisial a'u dibynadwyedd at ddibenion sy'n hollbwysig i ddiogelwch.
Y Dull
Mae'r Athro Siraj Shaikh a Dr Giedre Sabaliauskaite a Dr Hoang Nga Nguyen, ei gydweithwyr o Grŵp Diogelwch Systemau (SSG) yr Adran Gyfrifiadureg, yn cydweithredu â Chyngor Dinas Sunderland ar y prosiect Sunderland Advanced Mobility Shuttle. Bydd y prosiect, a gymeradwyir gan lywodraeth y DU, yn ymchwilio i wasanaeth di-allyriadau hynod awtomataidd a oruchwylir o bell i'w ddefnyddio gan deithwyr yn ninas Sunderland, ynghyd â chreu, treialu a gwerthuso'r gwasanaeth hwnnw.
Bydd y prosiect yn ymdrin ag asesu risgiau i seiberddiogelwch, gan gynnwys datblygu technegau newydd yn y cyd-destun hwn, ac yn y pen draw helpu i roi technoleg cerbydau sy'n gallu gyrru eu hunain ar waith yn fasnachol. Yn ogystal, mae'r diwydiant cerbydau modur yn flaenllaw wrth bennu safonau a chynnal ymchwil arloesol ac mae wedi rhoi technegau soffistigedig ar waith i asesu a phrofi cerbydau, gan adlewyrchu ei ymroddiad i sicrhau diogelwch a thawelwch meddwl, sy'n hollbwysig o ystyried hanfod gyrru.
Yr Effaith
Mae gan gerbydau sy'n gallu gyrru eu hunain at ddibenion cludo teithwyr a llwythi y potensial i weddnewid cludiant cyhoeddus a theithio, er budd pobl nad ydynt yn gyrru, gan gysylltu cymunedau gwledig a lleihau gwrthdrawiadau ar y ffyrdd sy'n deillio o wallau dynol. Yn ogystal, gall y gwasanaethau hyn gludo llwythi'n gyflymach ac mewn modd mwy effeithlon, gan feithrin twf economaidd a hygyrchedd nwyddau mewn ardaloedd anghysbell. Dylai cerbydau sy'n gallu gyrru eu hunain wella diogelwch ar y ffyrdd yn sylweddol drwy gael gwared ar wallau dynol, gan achub bywydau o bosib, a lleihau'r baich ar systemau gofal iechyd. Fodd bynnag, mae mynd i'r afael â phryderon rheoleiddiol, sicrhau seiberddiogelwch a meithrin ffydd y cyhoedd mewn technoleg awtonomaidd yn dal i fod yn heriau hanfodol i'w goresgyn er mwyn gwireddu'r buddion hyn yn llawn.