Mae LSR Bloodhound yn brosiect yn y DU sydd â'r nod o dorri record cyflymder y byd ar dir gan ddefnyddio'r car rasio llinell syth mwyaf datblygedig erioed.
Bydd Dr Ben Evans, sy'n aelod o dîm dylunio'r prosiect Record Cyflymer ar Dir Bloodhound, yn cynnig cipolwg hynod ddiddorol ar uchafbwyntiau ac isafbwyntiau datblygu car cyflymaf y byd, a sut dylai datblygiadau mewn dylunio peirianyddol a thechnolegau arloesol newydd alluogi'r tîm i gyflawni cyflymder dros 800 mya, a chreu record y byd newydd am gyflymder ar dir.
"Rydym bellach yn hyderus iawn bod y car yn gallu cyrraedd cyflymderau uwch na'r record presennol (763 mya)... Y cwestiwn mawr fydd pa mor bell gallwn ni ei wthio y tu hwnt i hyn!" - Dr Ben Evans
Magwyd Dr Evans yn Abertawe ac astudiodd Beirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Caergrawnt, cyn dychwelyd i astudio am ei PhD mewn Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe.
Heddiw, mae'n Athro Cysylltiol mewn Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae'n aelod o dîm dylunio Bloodhound, y prosiect i dorri'r record cyflymder ar dir, â chyfrifoldebau am fodelu aerodynamig.
Mae diddordebau ymchwil Dr Evans yn amrywio o optimeiddio siâp drwy ddulliau cyfrifiadol a modelu aerodynameg cyflymder uchel i ddynameg nwy moleciwlaidd, ac mae wedi gweithio gyda chwmnïau gan gynnwys Rolls-Royce, Airbus a Reaction Engines.
Gallwch ddarllen mwy am Dr Evans, prosiect LSR Bloodhound, a'i atgofion am Brifysgol Abertawe yma.