Ydych chi’n adnabod eich hun fel unigolyn LGBTQ+ neu ydych chi’n rheolwr neu’n gyflogwr sy’n ceisio cynyddu eich gwybodaeth er mwyn rhoi cefnogaeth well i’ch aelodau staff yn y maes hwn?
Ymunwch â ni wrth i banel o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe rannu eu gwybodaeth a’u profiadau o fod allan yn y gweithle.
- Allai bod allan yn y gweithle niweidio eich gyrfa?
- Ydy dod allan yn y gweithle yn digwydd unwaith yn unig?
- Oes gennych chi reolaeth gyfan dros fod allan yn y gweithle ai peidio?
- Pa fath o ymateb y gallaf ei ddisgwyl os byddaf yn penderfynu dod allan?
- Ydy dod allan yn haws gydag amser?
- Beth yw’r manteision sydd ynghlwm â bod allan yn y gweithle?