Gydag Amy Brown, Athro Iechyd y Cyhoedd, Polisi a Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe
Er gwaethaf bwriad cryf i fwydo ar y fron, mae llawer o fenywod yn y DU yn rhoi'r gorau i fwydo ar y fron yn y diwrnodau a'r wythnosau cynnar, yn aml cyn eu bod yn barod.
Mae'r rhesymau dros hyn yn gymhleth ond yn canolbwyntio ar gymdeithas er bod bwydo ar y fron yn cael ei hybu, nid yw bwydo ar y fron yn aml yn cael ei ddiogelu. Yn hytrach, mae menywod sydd eisiau bwydo ar y fron yn wynebu cyfres o rwystrau sy'n eu hatal rhag gwneud.
O ddiffyg addysg cyn geni manwl, i ddiffyg buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd a diwylliant nad yw'n deall pwysigrwydd bwydo ar y fron.
Ac eto, mae llawer gormod o ffocws ar addysgu menywod beichiog unigol yn hytrach na newid yr amgylchedd y byddant yn bwydo ar y fron ynddo.
Bydd y drafodaeth hon yn archwilio beth y gallwn ei newid ar lefel systemau, i rymuso a diogelu menywod i fwydo ar y fron am hwy.