Fel rhan o'n partneriaeth barhaus â’n timau chwaraeon rhanbarthol mae'n bleser gennym gynnig cyfleoedd unigryw am weddill tymor 2024/25. Gallwch nawr brynu tocynnau â gostyngiad ar gyfer y Gweilch a'r Scarlets. Yn ychwanegol, mae gennym 50 o docynnau am ddim i gemau Dinas Abertawe, y gellir eu hawlio ar sail y cyntaf i'r felin (telerau ac amodau yn berthnasol).
Côd Disgownt Y Gweilch
Gall pob aelod o staff hawlio gostyngiad o 20% ar brisiau tocynnau rygbi'r Gweilch ar gyfer Tymor 2024/25.
I brynu tocynnau bydd angen i chi ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost Prifysgol a dyfynnu cod SU20.
Cliciwch yma i archebu
Côd Disgownt y Scarlets
Gall staff Prifysgol Abertawe gael gostyngiad o 40% ar docyn Scarlets gwerth £25. Uchafswm 4 y person. Uchafswm 50 y gêm.
I hawlio'ch gostyngiad ffoniwch neu e-bostiwch y swyddfa docynnau a chadarnhau eich bod yn aelod o staff Prifysgol Abertawe. Bydd angen anfon e-docynnau i gyfeiriad e-bost Prifysgol Abertawe.
01554 292939
tickets@scarlets.cymru
Tocynnau Dinas Abertawe
Gall staff hawlio 2 docyn y gêm fel y manylir drwy ddilyn y ddolen isod. Mae 10 tocyn ar gael ar gyfer pob gêm. Bydd tocynnau ar gael yn y swyddfa docynnau yn Swansea.com ar ddiwrnod pob gêm. Bydd angen bathodyn adnabod staff Prifysgol Abertawe wrth gasglu.
Hawliwch eich tocyn yma