#WYTHNOSYMWYBYDDIAETHIECHYDMEDDWL
Am y can mlynedd diwethaf, mae ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn gwneud gwahaniaeth. Wrth inni edrych tuag at ganrif nesaf Prifysgol Abertawe, mae'n glir bod ymchwil yn gydran hollbwysig wrth gyflwyno effaith gymdeithasol sylweddol, gynaliadwy a gwerthfawr ac yn y pen draw, wrth drawsnewid bywydau.
Ac mae trawsnewid bywydau wrth wraidd yr ymchwil a gynhelir heddiw.
Yr Athro Ann John
Mae'r Athro Ann John a'i thîm yn yr Ysgol Feddygaeth wrthi'n archwilio byd iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc drwy ddefnyddio gwyddor data i ddeall ymddygiad hunanladdol a throi’r ymchwil honno’n bolisi bywyd go iawn. Mae'r ymchwil hon yn canolbwyntio ar atal hunanladdiad a hunan-niwed, yn ogystal â'r risgiau a'r canlyniadau gydol oes o ran iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
"Mae'n teimlo fel y gallwn wneud gwahaniaeth, mewn ffordd sydd yr un mor bwysig ond eto'n wahanol iawn i'm dyddiau mewn gofal clinigol uniongyrchol..."
Ddarllen rhagor am hanes yr Athro Ann John o ymarfer cyffredinol i ymchwilydd atal hunanladdiad.
Drwy ddangos eich cefnogaeth heddiw, byddwch yn sicrhau y bydd modd troi cam nesaf yr ymchwil hon yn ymarfer wrth sicrhau hefyd y bydd modd ehangu cyrhaeddiad yr ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus sy'n amlygu'r heriau iechyd meddwl y mae pobl ifanc yn eu hwynebu. Erys cynifer o bethau i'w deall o hyd am achosion, dulliau atal a thrin iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc a chyda'ch cymorth chi gall yr ymchwil arloesol hon barhau felly rhowch rodd nawr i drawsnewid bywydau.
Eich Cefnogaeth. Ein Prifysgol.
Cefnogwch ymchwil ac wythnos ymwybyddiaeth
ym Mhrifysgol Abertawe.