#WYTHNOSYMWYBYDDIAETHIECHYDMEDDWL
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn ddigwyddiad cenedlaethol blynyddol sy’n rhoi’r cyfle i ganolbwyntio ar sicrhau iechyd meddwl da. Mae wedi tyfu i ddod yn un o’r wythnosau codi ymwybyddiaeth a ddethlir ar draws y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang ac, yn 2021, caiff ei chynnal rhwng 10fed ac 16eg Mai.
Prif nod yr achos yw rhoi llwyfan er mwyn rhannu sgyrsiau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl, i gydnabod y pethau yn ein dyddiau bob dydd sy’n effeithio arno, ac i gynnig cyngor a chymorth ymarferol ar sut i wella iechyd meddwl.
Thema ymgyrch eleni yw 'Natur'. Yn ystod misoedd hir y pandemig, trodd miliynau ohonom at natur. Mae ymchwil wedi dangos mai un o'n prif strategaethau ymdopi yw mynd am dro y tu allan yn a nododd 45% ohonom fod bod mewn mannau gwyrdd wedi bod yn hanfodol i'n hiechyd meddwl. Mae natur mor ganolog i’n hiechyd seicolegol ac emosiynol ei bod bron yn amhosibl gwireddu iechyd meddwl da i bawb heb fwy o gysylltiad â’r byd naturiol a dyna pam yr ydym yn eich gwahodd i gysylltu gyda natur yn ystod yr wythnos hon.
Mae'r digwyddiadau hyn yn agored i bawb ac yn rhad ac am ddim i'w mynychu ond mae cyfle i gefnogi'r ymchwil hanfodol i iechyd meddwl pobl ifanc a gynhelir yma ym Mhrifysgol Abertawe.
Darganfyddwch fwy ac archwiliwch ffyrdd i gefnogi ein gwaith
ym Mhrifysgol Abertawe.
Sylwch fod y digwyddiadau hyn at ddibenion addysgol yn unig. Gallwch ddod o hyd i fanylion am wasanaethau sy'n cynnig help a chefnogaeth a hefyd cyngor iechyd a lles ar gyfer staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe.