Ysgrifennodd y cyn-fyfyriwr Mike Owen yr erthygl isod ar gyfer Blog Cyn-fyfyrwyr Abertawe, am dîm pêl-droed Prifysgol Abertawe’r 1974-75, ac ynddi mae’n cyfweld â chyd-raddedigion am eu hamser yn rhan o'r tîm.

50 mlynedd yn ôl pan oedd David Bowie, Bruce Springsteen, Queen ac Abba yn dod yn enwog... roedd grŵp o fyfyrwyr Abertawe'n dechrau ar un o gyfnodau gorau eu bywydau.

Ym 1974-75, Collin Carr oedd capten unig dîm pêl-droed Prifysgol Abertawe i godi cwpan cenedlaethol y prifysgolion, oedd yn cael ei adnabod ar y pryd fel y Cwpan UAU. Nawr, yn 2014, mae'n gobeithio ailymuno â chyn-chwaraewyr i wylio tîm presennol y brifysgol ar waith.

Roedd llwyddiant ei dîm, yn ôl Collin, yn rhannol yn sgîl dylanwad dyn lleol a oedd wedi gwylio'r tîm, yn gyntaf yn ddienw o'r llinell ystlys, weithiau gyda'i fab a fyddai’n chwarae i Gymru  ddegawdau yn ddiweddarach. Dechreuodd y tad gwybodus hwn gamu ymlaen a chynnig cyngor i'r myfyrwyr.

Yn y diwedd, daeth Roy Saunders, oedd wedi chwarae 150 gwaith i Lerpwl, ac wedi gwneud 94 ymddangosiad ar gyfer Tref Abertawe yn y Gynghrair Bêl-droed, yn hyfforddwr answyddogol y tîm.

dîm pêl-droed Prifysgol Abertawe’r 1974-75
dîm pêl-droed Prifysgol Abertawe’r 1974-75

Meddai Collin: "Byddai ef yn dod i lawr i Sgeti i’n gwylio ni'n chwarae oherwydd ei fod yn mwynhau gwylio pêl-droed. Nid oedden ni’n gwybod pwy oedd e, roedd yn gwneud ambell i sylw roeddwn ni'n ei werthfawrogi."

Nid oedd Google bryd hynny i wirio pwy oedd y dyn gwybodus, awdurdodol tawel hwn.Mae Collin yn cofio: "Wrth gwrs nid oedd gennym ffonau symudol, nac apiau negeseuo.

Fel y capten, byddwn i'n dewis y tîm ar ôl trafodaeth ag eraill, yna'n gosod taflen dewisiadau tîm a wnaed â llaw ar yr hysbysfwrdd yn adeilad Undeb y Myfyrwyr. Roedd yn cynnwys lle a phryd i gwrdd.

Dros amser, daethom i wybod bod Roy yn hyfforddwr wedi ymddeol o Glwb Pêl-droed Abertawe a daethom i adnabod ein gilydd yn dda iawn.Byddai ef yn gwneud sylwadau ac yn rhoi cyngor hanner amser, ac yn y diwedd roedd yn dod i'n sesiynau hyfforddiant ganol yr wythnos ac yn helpu.Daeth yr hyfforddiant yn fwy dwys dan arweiniad Roy ac o ganlyniad roedd ein ffitrwydd yn gwella.Gwnaeth Roy, a fu farw yn 2009, gyfraniad amhrisiadwy at lwyddiant ein tîm. Byddai ef yn dod â'i fachgen ifanc, Dean i wylio. Aeth Dean ymlaen i chwarae i Lerpwl a Chymru. Hoffen ni feddwl iddo fe gael ei ysbrydoli wrth ein gwylio ni!

Sut gwnaethom gyrraedd ffeinal yr UAU (Undeb Athletau Prifysgolion)? Yn gyntaf, roedden ni wedi ennill Pencampwriaeth Prifysgol Cymru, gan guro Caerdydd, Bangor, UWIST, Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth, gan sgorio cyfanswm o 17 gôl a chaniatáu dau yn unig. Roedd hyn wedi'n gosod yn rownd gogynderfynol yr UAU lle roedden ni wedi chwarae Hull oddi cartref. Roedd ganddynt asgellwr o’r enw Tony Galvin, a aeth ymlaen i chwarae 200 gêm i Tottenham Hotspur. Roedd yn gêm anodd oherwydd roedd yn rhaid i ni amddiffyn am gyfnodau hir o amser. Ond roeddem wedi ennill 1-0."

Ychwanegodd yr hanerwr Collin: "Roedd Roy yn graff iawn ond hefyd yn hwyl.Fel amddiffynnwr roeddwn i'n gyflym, roeddwn i'n gallu taclo, yn gallu ennill y bêl gyda fy mhen a threfnu amddiffynfeydd. Fodd bynnag, rwy'n cofio Roy yn dweud wrtha i o flaen pawb, "Pan fo'r bêl wrth dy draed, does gen i ddim syniad lle mae'n mynd nesaf!"

Roedd sylw rhyg gan un o'n hasgellwyr, Andy Zielinski, fel arfer yn dilyn hyn, gyda rhywbeth yn debyg i "Ie a fi sy'n gorfod siasio’r canlyniad yn y diwedd!'

Yn y diwedd, gwnaeth Roy  gyflwyno gosodiad 4-4-2 i ni ar y cae a oedd yn golygu bod rhaid i'n blaenwyr ddod yn ôl i amddiffyn. Roedd yn newid sylweddol i'w greddfau ymosod naturiol. Roedd yn golygu bod yn rhaid i bawb weithio'n galed a gweithio'n ôl, hyd yn oed y blaenwyr. Roedden ni ar flaen y gad. Rwy'n tybio a ddaeth Pep i'n gwylio ni?"

dîm pêl-droed Prifysgol Abertawe’r 1974-75

Roedd y tîm hefyd wedi codi'r faner dros Brifysgol Abertawe yn y Gynghrair Gymreig. Mae Collin, a ddisgrifir gan ei gyd-chwaraewr Mike Chamberlain fel ffigwr sy’n debyg i Tony Adams, yn cofio:"Roedd hwn yn brofiad eithaf gwahanol i'r gemau UAU. Roedden ni'n ymweld â llefydd yn y cymoedd lle roedd yna ysbryd cymunedol gryf.Roedd y gwrthwynebwyr yn gryf ac yn gorfforol bob amser ond hefyd bob amser yn chwarae ag agwedd o degwch.Er dwi'n cofio un gêm lle roeddwn yn chwarae safle cefnwr ac yn marcio asgellwr yr oedd ei fam, neu ei fam-gu efallai, yn gwylio o'r llinell ochr, a rhoddodd ei hymbarél allan i fy maglu."

Gadawodd Prifysgol Abertawe'r Gynghrair Gymreig ym 1985. Nid oedd y Brifysgol wedi chwarae ar gyfer clybiau lleol am 26 blynedd arall. Ond wedyn roedd gan grŵp o fyfyrwyr a oedd yn dwlu ar bêl-droed freuddwyd. Gweld Prifysgol Abertawe'n cyrraedd y brig ym myd pêl-droed domestig Cymru, a elwir heddiw yn Cymru Premier a chystadlu i ennill lle i chwarae yng Nghynghrair Europa.

Gwnaethant gais i Uwch-gynghrair Abertawe a chafodd tîm y Brifysgol ei dderbyn i'r bedwaredd is-adran yn 2011, o dan yr enw Team Swansea. Ar ôl chwech dyrchafiad mewn wyth tymor, roedd Clwb Pêl-droed Prifysgol Abertawe (SUFC) wedi gorffen tymor 2019-20 fel pencampwyr Cymru South, ail haen uchaf pêl-droed Cymru, gan ei osod ar ymyl Cymru Premier, o fewn pellter cyffwrdd Ewrop. Fodd bynnag, roedd materion gweinyddol wedi'i stopio rhag cymryd y cam i fyny.

Ers hynny, mae SUFC wedi dioddef disgyn adran ac wedi dechrau ei ail dymor yn olynol yn y Gynghrair Ardal South West. Wrth gwrs, byddent hefyd yn ceisio ennill y cwpan prifysgolion rhyngwladol, a elwir heddiw yn bencampwriaeth BUCS.

Ond, yn ôl i 1975 lle'r oedd tîm Abertawe yn chwarae Bryste yn rownd gynderfynol UAU.

"Roedden ni wedi sgorio unig gôl y gem gan ddefnyddio symudiad roedd Roy wedi’i ddysgu i ni wrth hyfforddi a oedd yn gweithio'n dda. Roedd yn bas gan Tony Lavender gan gic rhydd i gyrraedd y tu ôl i'r wal. Roedd Andy Zielinski ar ddiwedd y wal ac roedd yn rhaid iddo fwylltidio i dderbyn y pas ac i fod yn y lle cywir ar gyfer y gôl...ac roedden ni yn y rownd derfynol."

Y rownd derfynol oedd y gêm fwyaf ym mywydau llawer o'r chwaraewyr. Cafodd ei threfnu i'w chynnal ar gae Bristol Rovers ond oherwydd tywydd garw a niwed posib i gae'r clwb cynghrair pêl-droed, newidiodd i Brifysgol Caerfaddon, deiliaid cwpan UAU ar y pryd.

Roedd y gêm yn wrthdrawiad diwylliannol rhwng Loughborough, y brifysgol chwaraeon bwysicaf ar y pryd, a bechgyn arferol Abertawe.

Mae Collin sydd nawr yn 73 oed yn cofio: "Roedden ni wedi cael cyngor y tymor hwnnw gan ein cydweithwyr yng nghynghrair Rygbi 1af Abertawe. Cyn gêm, byddai pawb yn newid i'w citiau ac yna'n mynd i'r ystafell gawod i redeg yn y fan a'r lle i gynhesu. Bydden ni'n adolygu sut roedden ni am chwarae ac yn annog ein gilydd. Roedd yn dod â ni ynghyd a byddai'r rhedeg yn y stydiau'n creu adlais bywiog. Yna pan roedden ni'n dod allan, bydden ni'n boeth, yn canolbwyntio ac yn barod i chwarae.

Pêl-droed Prifysgol Abertawe’r 1974-75

Gwnaethom hyn yn y ffeinal ac aethom allan ar y cae i weld chwaraewyr Loughborough yn yfed diodydd atchwanegiadau egni arbennig ac yn gwneud rhediadau gwennol mewn topiau tracwisg smart. Ac roedd hyn yn 1975! Roedden ni'n edrych fel criw o fechgyn gwlad arferol ond roedd yn ddelwedd roedden ni'n eithaf falch ohoni."

Ychwanegodd Andy Zielinski: "Rwy'n cofio roedd yna gymysgedd o deimladau wrth fynd i'r rownd derfynol. Roedden nhw'n ffit iawn ac roedd yn un o'r gemau anoddaf i ni chwarae yn erbyn tîm prifysgol. Roedden ni wedi arfer ymosod ar ein gwrthwynebwyr gyda llawer o gyffro. Ond disgyblaeth amddiffyn a threfn a gwydnwch oedd canolbwynt y rownd derfynol. Roedd yn glod i'r chwaraewyr amddiffyn, yn defnyddio'r sgiliau roeddent wedi'u datblygu ar y maes hyfforddiant gyda Roy Saunders."

Meddai Collin: "Yn y rownd derfynol, roedden ni wedi defnyddio gosodiad 4-5-1 yn bennaf oherwydd y pwysau roedd Loghborough yn eu rhoi arnom. Fodd bynnag, am 95% o'r amser roedden ni'n solet iawn. Os dwi'n cofio'n iawn, roedd ein blaenwr canol wedi sgorio gôl arbennig gyda chic isel i'r gornel..am olygfa hardd!"

Roedd Abertawe wedi arwain gydag un gôl nes yr 88fed munud lle daeth Loghborough yn gyfartal.

Dywedodd Tony Lavender fod dau beth wedi glynu yn y cof am y rownd derfynol. "Rydw i'n cofio Andy Zielinski'n rhedeg nerth ei draed lan a lawr yr ystlys, yn dweud erbyn diwedd yr ail haner 'nad oedd wedi'i ddylunio i wneud hyn!' Y peth arall oedd pan aeth eu gôl i mewn, mor agos at y diwedd, a wyneb Collin yn gymysgedd o gynddaredd a diffeithdra."

Roedd y gôl hwyr oedd wedi gwneud hi'n gêm gyfartal wedi arwain at amser ychwanegol. Yn y 30 munud nesaf, ni allai un o'r ddau dîm orfodi gôl yn erbyn y gwrthwynebwyr ystyfnig.

Nid oedd yna ailchwarae, ac roedd gornest ciciadau o'r smotyn yn rhywbeth o'r dyfodol. Cafodd y cwpan ei rannu, gyda'r ddwy brifysgol yn ei gadw  am chwe mis. Roedd yn fuddugoliaeth wych i dîm annewisol Abertawe.

Meddai Collin wrth adlewyrchu: "Dwi'n hoffi meddwl yn gyntaf ein bod yn dîm unedig. Nid oedd yna unrhyw chwaraewyr eithriadol yn cael eu dwyn gan glybiau uwch. Roedden ni'n uned glos a oedd yn parchu ac yn gwerthfawrogi sgiliau ein gilydd, gan chwarae gyda'n gilydd ar gyfer y tîm.

Er bod gennym ein cryfderau a’n gwendidau roedden ni'n parchu'n gilydd am yr hyn roedden ni'n ei gynnig i'r tîm. Mae'n agwedd sy'n hawdd siarad amdani, ond yn anodd ei chyflawni. Roedden ni wedi mwynhau, roedden ni wedi gweithio'n galed, roedd yn llawer o hwyl ac mae'n atgof rydw i wedi'i drysori dros y 50 mlynedd diwethaf, diolch i fy holl gyd-chwaraewyr a'n hyfforddwr mabwysiedig Roy Saunders."