BSc mewn Sŵoleg a Chefnforeg, Dosbarth 1977.
Ymgynghorydd Rheoli Prosiectau ac Eigionegydd Brwdfrydig.
Ar ôl astudio am radd gyd-anrhydedd BSc mewn Sŵoleg a Chefnforeg, ymgymerais ag ymchwil ôl-raddedig a ariannwyd gan NERC i effeithiau llygryddion ar ddatblygiad pysgod morol ym Môr Hafren a chael fy PhD ym 1984.
Erbyn 1984, roeddwn wedi ymuno â'r Llynges Frenhinol fel Swyddog Llongwr gan wasanaethu am 8 mlynedd. Ar ôl cwblhau fy nghomisiwn ar ddiwedd y 1980au, gan barhau yn y Llynges Frenhinol Wrth Gefn, dechreuais weithio ym myd diwydiant fel Dadansoddwr Gweithrediadol a thros yr 17 o flynyddoedd nesaf, bûm yn rheoli sawl prosiect llyngesol mawr yn y DU a thramor ac yn benodol gweithio yn Awstralia am dair blynedd gan gyrraedd lefel Cyfarwyddwr Rhaglen a Gweithrediadau.
Rhwng 2005 a'r presennol, rwyf wedi bod yn rhan o rai o'r prosiectau isadeiledd mwyaf a mwyaf cymhleth yn y DU gan gynnwys diweddaru siart digidol yr UKHO, Lloeren Skynet 5, Gemau Olympaidd 2012, Crossrail, HS2 a rhaglenni Hinkley Point C fel uwch-arweinydd rhaglen.
Yn fwy diweddar, rwyf wedi bod yn ymgynghorydd rheoli prosiectau a rhaglenni i ystod o gwmnïau e.e. Rolls Royce, Leonardo Helicopters a Babcock International drwy gwmni cyfyngedig fy nheulu EVMT ProgRess Limited.
Rwyf yn Gymrawd y Gymdeithas Rheoli Prosiectau (APM) yn meddu ar statws Proffesiynol Prosiect Siartredig (ChPP) gyda'r sefydliad hwnnw ac yn aelod o Banel Adolygu ChPP.
Fel rhan o'm hymrwymiad i ddatblygu gweithwyr rheoli prosiect proffesiynol, rwy'n mentora myfyrwyr ym Mhrifysgolion Caerwysg a Solent ac yn cefnogi ysgolion lleol Caerwysg. Drwy EVMT, rwyf hefyd yn cyflogi interniaid ac yn noddi unigolion i gyflawni cymwysterau'r APM. Mae EVMT hefyd wedi noddi menter Iechyd Meddwl gyda'r elusen Cymunedau'n Gyntaf yn Hampshire ac AAI Employability, sefydliad nid er elw yn yr Alban.
Yn ddiweddar, mae EVMT ProgRess wedi cytuno i noddi prosiect ymchwil sy'n cefnogi’r fenter elusennol, Prosiect Morwellt o dan arweiniad Dr Richard Unsworth, gyda'r nod o gyfuno fy mhrofiad rheoli prosiectau a rhaglenni gydag ymrwymiad i gefnogi cadwraeth forol a deall materion newid yn yr hinsawdd.
Rwy'n briod â Heather sy'n Gyfarwyddwr EVMT ProgRess ac mae gennym ddwy ferch - Kate sy'n Rheolwr Peirianneg ac yn weithiwr allweddol yng Ngholeg y Brenin Llundain ac Emma sy'n Gydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Solent.