Ashish Dwivedi

Saesneg ac Astudiaethau Animeiddio. Dosbarth 2021.
Myfyriwr PhD Astudiaethau Sinemâu ym Prifysgol Southampton

 

Eich Gyrfa

Academydd ac ymchwilydd/awdur creadigol ydw i ac mae gennyf ddiddordeb mewn golygu deunyddiau creadigol a ffeithiol. Rwy'n gweithio ym Mhrifysgol Southampton ar hyn o bryd, lle rwy'n ymchwilio i sinema boblogaidd, gynnar Bombay ar gyfer fy noethuriaeth. Fy mhrif ddiddordeb yw sinema ganol Guru Dutt, a oedd yn wneuthurwr ffilmiau Indiaidd cynnar, ac rwy'n adolygu'r pwnc hwn yng ngoleuni'r safbwyntiau rhyngdestuniaeth, awduraeth gyfunol ac enwogrwydd. Rwy'n dyheu am fod yn un o'r prif feddylwyr ym myd sinema India ac rwyf wedi ysgrifennu'n helaeth ar y pwnc.

Mae llawer o'm gwaith beirniadol wedi ymddangos mewn amrywiaeth o gyfnodolion academaidd a phoblogaidd, gan gynnwys E-Cine India, Café Dissensus a Silhouette Magazine, ymysg eraill. Rwyf yr un mor ymroddedig i boblogeiddio mathau Indiaidd o sinema yn rhyngwladol ac, i'r perwyl hwn, dechreuais i golofn olygyddol o'r enw, “Ashish’s FaceoftheMonth” sy'n ymddangos ar fy ngwefan er fy mod i wedi creu hon yn ystod fy nghyfnod fel Golygydd Ffilmiau ar gyfer cylchgrawn myfyrwyr.

Crynodeb o'ch profiad ym Mhrifysgol Abertawe

Rhoddodd Prifysgol Abertawe'r sgiliau a'r annibyniaeth i mi roeddwn i wedi bod yn dyheu amdanynt ers amser maith. Dysgais i lawer o bethau newydd a chyffrous ym Mhrifysgol Abertawe, datblygais i rwydwaith rhyngwladol amrywiol o ffrindiau a gweithwyr proffesiynol, enillais i ddigonedd o brofiad proffesiynol a phrofiad o'r diwydiant ond, yn bwysicaf oll, gwnes i ddarganfod fy ngwerth, fy mhersonoliaeth a'm pŵer.

Beth yw eich hoff 3 pheth am Abertawe (y Brifysgol/y ddinas/yr ardal)?

  1. Rwy'n hoffi pobl ac mae'n bwysig i mi gymdeithasu. Ym Mhrifysgol Abertawe ac yn y ddinas, hyd yn oed, roeddwn yn cael gwneud hynny. Mae pawb yn gyfeillgar, yn garedig, yn ddiymhongar ac yn agored i syniadau newydd. Rwy'n credu mai dyna pam mae Prifysgol Abertawe yn hynod ystyriol o anghenion myfyrwyr rhyngwladol ac mae'n haeddu bod yn un o'r prifysgolion prin hynny sydd wir yn gofalu am ei chymuned ryngwladol. Roeddwn i'n ddigon ffodus i gwrdd â rhai pobl anhygoel sydd bellach yn ffrindiau i mi ac rwyf mewn cysylltiad â nhw o hyd.
  2. Natur lled-drefol: Oherwydd bod Abertawe'n dref fawr, mae ei hawyrgylch yn gymysgedd o gyffro dinas a natur gynnes a heddychlon  cefn gwlad. Rwyf wedi dweud hyn dro ar ôl tro ond dyma un o'r pethau gorau am Abertawe. Rwy'n hoff o brifddinasoedd ond rwyf yr un mor hoff o loches anghysbell ac mae Abertawe'n cyfuno'r ddwy elfen hon yn gyson. Ac felly, mae'r ddinas yn cynnig rhywbeth i bawb. . Does neb yn cael ei hepgor.
  3. Teithiau cerdded gyda'r hwyr i'r Mwmbwls neu Barc Gwledig Dyffryn Clun: am brofiad adfywiol!

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?

Gwnes i MPhil mewn Llenyddiaeth Saesneg ac Astudiaethau Animeiddio ym Mhrifysgol Abertawe a gellid dweud mai fy mhrif oruchwyliwr oedd un o'r prif resymau pam dewisais i'r brifysgol hon. Mae ei ymchwil ar animeiddiadau a nofelau graffig yn cyd-weddu'n dda â'm hymchwil i ac mae'n un o'r ymchwilwyr datblygol gorau yn ei faes. Roeddwn i'n meddwl y byddai'n fraint cael fy nhywys gan un o'r goreuon.

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i rywun sy'n meddwl mynd i'r Brifysgol?

Yn bendant! Byddwn i'n argymell Prifysgol Abertawe yn gryf ac mae'n enwog am lawer mwy o bethau na'i hallbwn academaidd nodedig yn unig. Byddwn i hefyd yn ymffrostio am harddwch golygfeydd y ddinas, lletygarwch y bobl, blas y bwyd lleol, pwerau adfywiol y traeth a'r parciau bytholwyrdd, amrywiaeth y cyfleoedd ar gyfer ennill sgiliau y mae'r Brifysgol yn eu cynnig, ei hawyrgylch hamddenol a'r teimlad o bŵer sydd ynghlwm mewn awyrgylch o'r fath. Byddwn i'n dweud, "Ewch i Brifysgol Abertawe os ydych chi am ffynnu". Mae gan y Brifysgol hon lawer o ddoniau sy'n gallu trawsnewid myfyrwyr ac ymwelwyr yn emosiynol ac yn ysbrydol.

Sut gwnaeth dy radd dy baratoi ar gyfer dy yrfa?

Des i i'r Brifysgol ar ôl i mi gwblhau MA Saesneg yn llwyddiannus ond roeddwn i heb ddatblygu sgiliau ymchwil eto. Roedd dau reswm dros beidio â neidio yn syth i mewn i’r PhD: (1) roedd fy nhad, ac yntau’n Athro mewn prifysgol, wedi fy nghynghori'n gryf i beidio â chyfeiliorni o'r hyn roedd ef yn ei alw'n “llwybr traddodiadol addysg uwch”; ac (2) nid oeddwn i'n teimlo'n barod yn academaidd ar gyfer astudio PhD. Roeddwn i'n credu'n gryf mai MPhil oedd y ffordd gywir, i mi o leiaf, o baratoi ar gyfer PhD oherwydd bod hon yn fy mharatoi fel ymchwilydd ac awdur academaidd (ac mae hyn yn wir yn amlwg!). Gwnaeth yr MPhil lywio fy ngalluoedd creadigol a beirniadol yn sylweddol, gan fy ngalluogi i baratoi at gyhoeddi fy noethuriaeth fel monograff yn y dyfodol. Nid wy'n credu y byddwn i wedi gallu cynhyrchu gwaith o sylwedd heb effaith ddofn fy mhrofiad o'r MPhil.

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sydd am ddilyn eich gyrfa?

  • Peidiwch â gwastraffu blynyddoedd eich PhD neu eich MPhil drwy ganolbwyntio ar eich traethawd ymchwil yn unig; dylech chi amrywio eich diddordebau a'ch profiadau.
  • Dylech chi fynd i o leiaf un gynhadledd bob blwyddyn a chyhoeddi eich gwaith (boed hynny ar ffurf trafodion cynadleddau neu draethodau cyflawn).
  • Adolygwch eich gallu i addysgu a gweithio yn y diwydiant.
  • Gwirfoddolwch mewn digwyddiadau adrannau gwahanol drwy drefnu digwyddiadau, rhoi syniadau ar waith neu ddarparu cymorth.
  • Archwiliwch yr hyn y mae'r Brifysgol yn ei gynnig i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig o ran cymrodoriaethau, interniaethau, rolau arweinyddiaeth neu gyflogaeth ran-amser hyd yn oed.
  • Ehangwch eich rhwydwaith proffesiynol; dylech chi ddatblygu eich proffil LinkedIn.
  • Ar ddiwedd y dydd, dylech chi weithio tuag at rymuso eich CV.