Hend Mohammed Alhajri

MBA. Dosbarth 2014.
Sylfaenydd Sefydliad WEMA.

Eich gyrfa

Ar ôl i'r cartref plant amddifad, lle roeddwn i'n arfer gwirfoddoli, ddymchwel o ganlynid i'r glawogydd trwm, es i yn ôl i Kuwait i ddechrau ymgyrch codi arian i adeiladu cartref plant amddifad newydd yn Sanzibar - Gweriniaeth Unedig Tanzania.  Ond yn ôl pob sôn, nid prosiect untro ydoedd! Sefydlais i sefydliad nid-er-elw o'r enw Wema (sy'n golygu daioni yn Swahili). Canolbwyntiodd Sefydliad Wema ar ddod â'r "daioni" hwnnw i gymunedau difreintiedig drwy brosiectau â'r nod o sicrhau effaith hir dymor a newid cynaliadwy. 

Crynodeb o'ch profiad ym Mhrifysgol Abertawe 

Bydd Abertawe bob amser yn bwynt cyfeirio yn fy mywyd. Ehangodd fy mhersbectif, a hynny o safbwynt academaidd ac yn bersonol. Darparodd y sbardun mwyaf imi adael fy mharth cysur a phrofi byw dramor ac amrywiaeth: gan gwrdd â phobl newydd trwy'r amser, a hyd yn oed herio'r ffordd rwyf yn ymdrin â busnes a phroblemau bywyd yn gyffredinol.

Beth yw eich hoff 3 pheth am Abertawe (y Brifysgol/y ddinas/yr ardal)?

  • Y glannau bythgofiadwy! Rwyf bob amser wedi dwlu ar y golygfeydd ar bwys y môr. Roedd hi mor therapiwtig gallu cerdded o'r Brifysgol ar bwys y môr ar ôl diwrnod hir!
  • Mynd am dro yn y Mwmbwls gyda'i holl swyn! Y caffis bach a'r siopau lleol.
  • Loncian yn y bore o gwmpas y Marina oedd uchafbwynt fy mhrofiad yn Abertawe.

Pam dewisoch chi astudio eich gradd yn Abertawe?

Cyrhaeddodd Prifysgol Abertawe yr ail safle yng Nghymru ac roedd ymhlith y 50 o brifysgolion gorau yn y DU! Ac mae ei hamrywiaeth enfawr yn denu myfyrwyr rhyngwladol. Roedd yr holl wybodaeth yr oedd ei hangen arnaf i gael lle yn y Brifysgol yn hygyrch ac roedd hi'n hawdd cael y cymorth yr oedd ei angen arnaf. Mae dinas fel Abertawe yn rhoi'r 'profiad gorau i fyfyrwyr' y tu allan i astudio. 

Sut gwnaeth eich cefndir addysgol ym Mhrifysgol Abertawe eich paratoi ar gyfer eich rôl bresennol yn Sefydliad Wema?

Gwnaeth astudio ym Mhrifysgol Abertawe ehangu fy mhersbectif a'm helpu i gael gafael gwell ar broblemau'r byd modern a sut y mae'r rhain yn effeithio ar y rhai hynny sydd mewn angen.  At hynny, gwnaeth fy addysg fy arfogi â'r offer angenrheidiol i ymyrryd a chyflawni fy nyletswydd fel dinesydd byd-eang i fynd i'r afael â'r problemau hyn a chredaf fy mod i wedi ennill yr offer hyn drwy ddilyn y tri ffactor pwysig canlynol y des i i gysylltiad â nhw’n gyson yn ystod fy astudiaethau:

Amrywiaeth: Roedd bod mewn dosbarth clos o 25 o fyfyrwyr gyda mwy na 12 o genhedloedd yn fy ngalluogi i ryngweithio â gwahanol fathau o feddylfryd a luniwyd gan sawl diwylliant gwahanol. Gwnaeth fy helpu i ddeall yn well broblemau byd-eang a sut y mae gwahaniaethau a gwrthdaro’n gallu effeithio ar sefydliad a sut y gall tîm weithredu. Gwnaeth fy helpu i wella fy nulliau cyfathrebu a mynd i'r afael â phroblemau busnes neu brosiectau gydag ymagwedd sydd â'r nod o fapio'r holl randdeiliaid mewn sefyllfa, deall yr hyn a allai ddylanwadu arnynt a'r hyn a allai fod yn destun pryder iddynt, a sut i wneud penderfyniad sy’n foddhaol i'r holl gyfranogwyr amrywiol yr effeithiodd y sefyllfa arnynt. 

Arweinyddiaeth:  Cafodd fy sgiliau arweinyddiaeth eu llunio yn ystod dosbarthiadau perthnasol yn fy rhaglen MBA ac ar ben hynny, gwnaethon nhw barhau i dyfu trwy gydol fy astudiaethau trwy gael eu herio mewn gwaith dosbarth, prosiectau grŵp a thrafodaethau parhaus ynghylch problemau busnes.    Mae hyn wedi fy ngalluogi i gael mynediad at faes newydd mewn gwlad newydd ag ymagwedd wahanol at gynnal busnes, ond eto bu modd imi alinio rhanddeiliaid gwahanol mewn asiantaethau llywodraethol ac anllywodraethol gan gyfleu’n glir broblemau a nodau iddynt a chan annog pawb i weithio tuag at weledigaeth gyffredin.

Craffter Busnes:  Gwnaeth yr ymagwedd fanwl ym Mhrifysgol Abertawe yn ystod fy rhaglen MBA, drwy ddarlithoedd, deunyddiau a ddarparwyd, problemau a drafodwyd neu a gafodd eu datrys, boed hynny yn ystod y dosbarth neu drwy gyflwyno prosiect mewn grŵp, helpu i lywio'r ffordd rydw i'n rheoli ac yn sefydlu cynlluniau busnes ar gyfer sefydliad.   Yn fy maes gwaith i, gwnaeth hyn fy helpu i ddeall a chynllunio sut i wneud sefydliad nid-er-elw'n gynaliadwy drwy greu ffynonellau amrywiol o incwm a sut i fanteisio ar gyfleoedd busnes er budd buddiolwyr y sefydliad i'w helpu i greu incwm cynaliadwy a chyson ar eu cyfer. 

Dywedwch wrthym am eich rôl yn Sefydliad Wema. Disgrifiwch ddiwrnod arferol a'r prosiectau rydych chi'n ymwneud â nhw neu'r cyfrifoldebau sydd gennych.

Mae Sefydliad Wema yn sefydliad anllywodraethol nid- er-elw sy'n cyfrannu at ddatblygu dynol rhyngwladol - ac mae'r prosiectau y mae'n ymgymryd â nhw'n amrywiol iawn.  O adeiladu ffynhonnau ar gyfer cymunedau difreintiedig yn Tanzania wledig, i addysg, iechyd, bywoliaethau cynaliadwy, ieuenctid a grymuso menywod i greu a chefnogi Tŷ Fatima - cartref plant amddifad sy'n darparu cartref i 46 o blant. 

Mae ymadrodd yn yr iaith Kiswhaili (iaith swyddogol Tanzania) - “fundi kila kitu” - sy'n cyfieithu'n llythrennol i "peiriannydd popeth".  Yn aml rwy'n teimlo bod yr ymadrodd hwn yn disgrifio fy rôl bresennol yn berffaith yn Sefydliad Wema. Ar wahân i fod yn sylfaenydd, yn rheolwr gyfarwyddwr, yn strategydd, yn gyswllt cysylltiadau cyhoeddus WEMA ac yn ysgrifennydd, rwyf hefyd yn ymwneud â rheoli bywydau pob dydd 46 o blant a'r staff yn Nhŷ Fatima - y cartref plant amddifad a adeiladais i 4 blynedd yn ôl lle mae pawb yn fy ngalw i'n Mama Hind - ac mae pawb yn gwybod pa mor anodd yw bod yn fam - yn enwedig i 46 o blant!

Ar wahân i'r tasgau pob dydd, mae'n rhaid i bawb gofio bod gweithio a byw yn Affrica yn unigryw iawn ac mae'n cyflwyno nifer o heriau na fyddai pobl o'r GCC neu Ewrop yn ymwybodol ohonynt ac yn aml iawn mae angen i mi fy atgoffa fy hun am ba mor wahanol y mae amryw ddiwylliannau'n gallu bod. Rhan bwysig o'm gwaith i yw sicrhau fy mod i bob amser yn ymwybodol o wahaniaethau cymdeithasol - mae angen aildrefnu'ch ymennydd er mwyn dod i ddeall a dysgu am ddiwylliant y Gorllewin lle cefais fy addysg a diwylliant Affricanaidd, a chyfuno’r ddau.  Mae hyn i gyd er budd Wema a'r bobl y mae'n eu gwasanaethu oherwydd pe bawn i wedi mynd ati i roi'r wybodaeth a'r profiad ar waith yn llym heb ystyried gwerthoedd, diwylliant a thraddodiadau lleol, byddai'r gwaith wedi cael ei wneud yn hynod araf neu byddai wedi bod yn amhosib ei gyflawni o gwbl.

Yn eich barn chi, beth yw'r sgiliau pwysicaf y mae angen i weinyddwr busnes feddu arnynt?

Ar wahân i'r holl sgiliau "traddodiadol" a werthfawrogir: cyfathrebu, rheoli amser, datrys problemau (ac mae datrys problemau'n hynod bwysig!), goruchwylio, dirprwyo, ac ati. Hefyd mae angen bod yn ddyneiddiwr, yn enwedig yma yn Affrica lle mae gwerthoedd cymdeithasol traddodiadol yn sail i fywyd pob dydd o hyd. Cymerodd sbel i mi ddod i ddeall y gwahaniaethau hyn a'u defnyddio er budd Wema a'm gwaith, ond erbyn hyn mae'n rhaid i fi roi sylw cyfartal i fod yn weinyddwr busnes a dyneiddiwr gan fod y ddau faes hyn yn hanfodol er mwyn cynnal a chadw sefydliad fel Wema yn llwyddiannus yn Affrica. 

Eich awgrymiadau gorau ar gyfer dechrau gyrfa mewn gweinyddu busnes.

Mae gweinyddu busnes yn rôl anodd - yn enwedig gan fod y byd yn 2023 yn lle cystadleuol iawn ac er mwyn llwyddo mae angen i chi fod yn hyblyg ac yn benderfynol.

Yn fy marn i, dylech chi ddechrau drwy ystyried chi eich hun: Pwy ydw i?, Beth ydw i'n ei hoffi?, Beth yw fy nghryfderau a'm gwendidau?, Ydw i'n gallu arwain eraill? Ydw i'n teimlo'n gyffyrddus pan fyddaf yn cymryd cyfrifoldeb am bobl eraill? Ydw i'n ddigon creadigol i feddwl am ffyrdd unigryw o gynnal busnes? Os ateboch chi ydw i'r uchod, yna byddai'n hanfodol i chi ddilyn addysg a fyddai'n caniatáu i chi ddeall cymhlethdodau sefydlu'ch nod a/neu ei gyflawni'n llwyddiannus. Byddai MBA o Brifysgol Abertawe yn ddefnyddiol yn sicr.

Ar ôl i chi ennill eich gradd, byddwn yn argymell eich bod yn canolbwyntio arnoch chi eich hun eto. Byddwn yn meddwl am yr hyn sydd o ddiddordeb imi a'r hyn rwyf am ei wneud hyd yn oed os nad wyf yn cael fy nhalu amdano. Os dewch chi o hyd i faes rydych yn angerddol amdano, ni fydd angen i chi weithio mwyach - y cyfan y bydd angen i chi ei wneud yw mynd ar drywydd rhagoriaeth yn y pwnc sy'n eich llenwi â gorfoledd fel y dywedodd E.Hemingway: “ find something that you love and the money will follow”

Y cam nesaf imi fyddai sicrhau interniaeth - dod o hyd i le sy'n gwneud yr hyn yr hoffech chi ei wneud ac ymgolli ynddo.  Dechreuwch yn isel a magu'ch profiad ar gynifer o'r camau i fyny'r ysgol ag sy'n bosibl fel bod eich persbectif yn helaeth. Bydd yn fuddiol yn y dyfodol.

Ar ôl hynny i gyd - byddwch chi ar eich ffordd a phob lwc ichi! 

 Beth yr hoffech ei gyflawni yn y dyfodol yn eich maes arbenigedd?

Nid yw fy nghynlluniau'n gyfyngedig i'r hyn yr wyf eisoes yn ei wneud - mae llawer mwy y gall Wema ei wneud i helpu mwy o bobl; plant, menywod a chymunedau difreintiedig. Ar hyn o bryd rwyf yn canolbwyntio ar greu model hunangynhaliol ar gyfer Tŷ Fatima a fydd yn caniatáu imi roi mwy o sylw i feysydd eraill megis Wema Scholar a Wema Academy. Rydym yn bwriadu creu glasbrint ar gyfer Tŷ Fatima a mentrau Wema fel y gellid rhoi'r mentrau hyn ar waith yn unrhyw le, a chroesi bysedd heb ormod o ymgysylltiad ymarferol gennyf i! Credaf yn gryf, er y byddwch weithiau'n clywed i’r gwrthwyneb, y gallwch gyflawni llawer os ydych chi wir eisiau. Ond mae gwir angen i chi eisiau ei gyflawni!

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i rywun sy'n ystyried mynd i'r Brifysgol?

Un ateb i'r cwestiwn hwn oedd gan ffrind y cwrddais i ag ef yn ystod gwibdaith wirfoddoli yn Sansibar. Esblygodd gwestiwn syml am hyn i siarad am ein huchelgeisiau, ein syniadau am ddefnyddio busnes a masnach i wella amodau byw pobl mewn angen, sut yr hoffem drawsnewid ein gyrfaoedd i fod yn rolau sy'n llawer mwy ystyrlon er mwyn mynd i'r afael â heriau cymdeithasol dybryd a sut y gwnaeth fy addysg ym Mhrifysgol Abertawe fy helpu i ehangu fy nealltwriaeth a'm safbwyntiau ar y pynciau hyn. Ar ôl sawl mis, daeth fy ffrind yn ôl ataf i roi gwybod imi ei fod wedi penderfynu dilyn gradd ôl-raddedig a dechreuon ni ar y daith gyda'n gilydd pan helpais i fe gyda'i geisiadau ac wrth iddo baratoi ar gyfer symud dramor.