MSc Rheoli Busnes, Dosbarth 2007.
Medalydd Aur Paralympaidd. Hyrwyddwr cyflogaeth.
Mae Elizabeth ‘Liz’ Johnson yn nofiwr Prydeinig o safon fyd-eang sy’n fwyaf adnabyddus am ei llwyddiant yng Ngemau Paralympaidd Beijing 2008, gan ennill medal aur yn y nofio dull broga 100m SB6 i fenywod. Mae Liz yn un o’r ychydig bobl sydd wedi ennill medalau aur yn y Pencampwriaethau Paralympaidd, Byd ac Ewropeaidd.
Ganwyd Liz Johnson yng Nghasnewydd, yn ne Cymru ym 1985 ac yn 3 oed anogodd mam Liz hi i ymuno â grŵp ar gyfer nofwyr anabl. Yn fuan, cwympodd Liz mewn cariad â'r gamp ac nid ydyw erioed wedi edrych yn ôl, gan gystadlu fel nofiwr SB6 a chafodd ei dewis i gystadlu dros Dîm Prydain Fawr yn 14 oed. Mynychodd Liz Brifysgol Abertawe yn 2008 a chwblhaodd radd mewn Rheolaeth Busnes a Chyllid. Yn 2014 rhoddodd Prifysgol Abertawe gymrodoriaeth anrhydeddus i Liz am ei llwyddiannau ym myd chwaraeon fel cyn-fyfyriwr, gan dynnu sylw at y berthynas agos rhwng y brifysgol a Liz. Wrth dderbyn ei gwobr dywedodd Liz ‘Roedd Prifysgol Abertawe wedi chwarae rhan bwysig yn fy llwyddiant yn y byd chwaraeon ac roeddwn i wrth fy modd yn ystod fy nghfnod yno’.
Ym Mhencampwriaethau Nofio’r Byd yr IPC 2006 yn Durban, De Affrica, enillodd Liz aur yn y nofio dull broga 100 metr (unigolyn) a dwy aur ras gyfnewid. Yn yr un bencampwriaeth yn 2009, aeth Liz ymlaen i dorri record y byd. Yn 2008 cyrhaeddodd y Gemau Paralympaidd Beijing ac enillodd Liz aur yn y nofio dull broga 100 metr SB6, carreg filltir bwysig arall yn ei gyrfa wych. Yng Ngemau Paralympaidd Llundain 2012, enillodd Liz efydd a gosod record Paralympaidd newydd ar ei ffordd i'r rownd derfynol.
Mae llwyddiannau ac ymrwymiadau Liz yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r pwll nofio. Yn 2018, dechreuodd Liz weithio gyda ‘The Ability People’, sefydliad sy’n ymroddedig i rymuso’r boblogaeth anabl ddawnus fyd-eang . Yn rôl bresennol Liz fel Rheolwr Gyfarwyddwr a Llysgennad Cleientiaid, mae Liz yn arwain y tîm ac yn cynrychioli’r sefydliad gyda phartneriaid corfforaethol, gan amlinellu ac ymgorffori’r gwerthoedd sy’n gwneud ‘The Ability People’ yn unigryw.