BA Sbaeneg a Chymraeg, Dosbarth 1996.
Eiriolwr angerddol Cymraeg, Darlledwr a Storïwr.
Pwy wnaeth eich ysbrydoli chi pan yn oeddech chi’n iau?
Rwyf wedi cael fy ysbrydoli gan nifer fawr o bobl ar hyd fy mywyd. Pobl sydd wedi fy ngharu, fy addysgu a fy mentora ydyn nhw.
-
Fy rhieni a neiniau a teidiau sydd wedi rhoi'r cariad a gofal yna i mi deimlo'n hyderus i fentro - mi roedden nhw'n fy ysbrydoli o bob dydd.
-
Athrawon yr yn ysgol - Mrs Beryl Jones fy athrawes Gymraeg oedd o Lundain yn wreiddiol ac wedi dysgu Cymraeg, roedd gwrando arni'n trafod barddoniaeth a rhannu ei chariad at y Gymraeg yn fy ysbrydoli bob dydd.
-
Olwen Williams fy athrawes Saesneg â'i hangerdd at lyfrau ac at iaith a'r grefft o drafod a mynegi teimladau a barn.
-
Mahmud fy nghyd-athro mewn ysgol yn Istanbul lle fues i'n dysgu Saesneg. Hon oedd fy swydd ddysgu gynta ac roedd arsylwi ei wersi yn gwbl ysbrydoledig - roedd o'n actor ecsentrig oedd yn diddori a diddanu ei fyfyrwyr a chynnau rhyw dân ynddyn nhw i fod eisiau dysgu.
-
Yr Athro Hywel Teifi Edwards ym Mhrifysgol Abertawe â'i wybodaeth eang a'i frwdfrydedd a'i steil gwbl ddi-hafal o ddarlithio a rhannu ei weledigaeth a'i wybodaeth.
-
Dr Robert Owen Jones ym Mhrifysgol Abertawe wnaeth danio fy niddordeb yn y Wladfa ac rwyf wedi bod yn ddigon lwcus i ymweld â Phatagonia sawl gwaith i weithio. Roedd hefyd yn athrylith gyda iaith a gramadeg.
-
Helen Prosser oedd yn fos arna i yn y Brifysgol yng Nghaerdydd pan oeddwn i'n dysgu Cymraeg i Oedolion. Hi ddysgodd y grefft i mi o ddysgu iaith i bobl. Mae hi'n weithgar, yn drwyadl, yn ffyddlon, yn garedig ac yn angerddol.
-
Gwenda Griffith a ddysgodd popeth i mi am fod yn gyflwynydd a chynhyrchydd teledu - hi roddodd y cyfleoedd i mi, yr hyfforddiant, yr arweiniad a hi ddysgodd i mi pa mor bwysig ydy bod yn drefnus ac yn drylwyr ac yn driw i bopeth dw i'n ei wneud.
Pwy yw’r person mwyaf diddorol i chi gwrdd â nhw a pham?
Pan oeddwn i'n gweithio ar cariad@iaith mi gefais gyfle i gyfarfod a threulio amser yn dysgu Cymraeg i bob math o enwogion diddorol fel Gareth 'Alfie' Thomas - oedd yn gariad o ddyn ac yn gystadleuol a gweithgar; Amy Wadge sydd bellach yn ysgrifennu caneuon gyda bob math o artistiaid enwog fel Ed Sheeran; H o Steps oedd yn llawn hwyl ac yn gweithio mor galed. Roedd cwrdd â Janet Street Porter a thrafod y Gymraeg efo hi yn ddiddorol er nad yn hawdd o hyd. Dw i wedi cael busnesa o amgylch tai enwogion Cymru ar y gyfres Adra a chael eu holi am hanes eu bywydau a'u gyrfaoedd diddorol - pobl fel Caryl Parry Jones, Llwyd Owen, Elin Manahan, Myrddin ap Dafydd, Angharad Mair, Heledd Cynwal, Dafydd Iwan, Dafydd Wigley ac Eleanor Bennet, Brynmor Williams ayb. Ond os dw i'n onest yr hyn dw i'n garu ydy mynd i sgwrsio efo bobl gyffredin Cymru. Cymeriadau sydd â rhywbeth i'w ddweud. Dw i'n hynod o frentiedig fy mod wedi cael cwrdd â channoedd o wahanol bobl wrth ffilmio rhaglenni dogfen a chyfresi fel Cwpwrdd Dillad a'r Sioe Frenhinol a Noson Lawen.
Beth yw’ch uchafbwyntiau o ran darlledu ?
Roeddwn wrth fy modd yn gweithio ar cariad@iaith gan mai fy syniad gwreiddiol i oedd o yn ystod yr wythnos gyntaf o ddechrau yn y byd darlledu. I fi roedd yn swydd berffaith oedd yn cyfuno popeth dw i'n ei garu am fy ngwaith - dysgu iaith i bobl, cyflwyno a chynhyrchu. Mae'r tîm yn anhygoel ac roedden ni'n cael hwyl.
Roedd cael teithio i Fangladesh gyda thîm hyfryd a dyn arbennig o'r enw Siragul Islam yn uchafbwynt i mi hefyd. Roedd cael 40 o blant yn ein croesawu canu yn Gymraeg mewn pentre bach yng nghanol Bangladesh a gweld Islam yn cwrdd â'i chwaer a'i nith eto a gweld yr ysgol roedd o wedi'i ariannu am y tro cyntaf yn brofiad arbennig iawn.
Beth yw eich atgofion o cariad@iaith?
Gwaith caled iawn ac oriau hir, lot o hwyl a chwerthin, angerdd, tân, bwyd blasus, canŵio, syrffio, coginio, dawnsio, dysgu'r anthem, trafod cenedlaetholdeb a chariad at iaith a hanes ein gwlad ni efo selebs, gweld cynnydd ieithyddol rhyfeddol mewn amser byr, mwynhad pur!
Sut mae cynhyrchu yn cymharu gyda chyflwyno a beth sy’n well gennych?
Mae cyflwyno yn llawer haws na chynhyrchu! Dim ond troi i fyny a sgwrsio sydd rhaid i mi. Dw i wrth fy modd yn cyflwyno. Dw i'n sylweddoli pa mor freintiedig ydw i i gael gwneud y gwaith a chael holi pobl am bob math o bynciau. Dw i hefyd wrth fy modd yn cynhyrchu - gweld syniad yn cael ei wireddu, gweithio gyda thîm o bobl, trefnu, gweinyddu, cyfathrebu efo pobl a dod i nabod pobl newydd o hyd.
Yr hyn sy'n rhoi'r pleser mwyaf i mi ydy'r amrywiaeth. Dw i'n cyflwyno, cynhyrchu, cyfieithu, dysgu, golygu llyfrau plant a dysgwyr a sgriptio ac mi ydw i wrth fy modd bod bob wythnos yn wahanol, bob prosiect yn wahanol a phob profiad yn dysgu rhywbeth newydd i mi ac yn fy herio mewn gwahanol ffyrdd. Dw i'n ystyried fy hun yn lwcus iawn.
Rydych chi wedi teithio’n helaeth yn ystod eich gyrfa. Pa un oedd eich hoff wlad?
Mae hwn yn gwestiwn anodd iawn! Mae na rhywbeth arbennig iawn am Dde America. Dw i wrth fy modd efo'r bobl, y gerddoriaeth, y diwylliant a be well bod na Gymraeg yno hefyd ym mhen draw'r byd. Ond mae ‘na hefyd rhywbeth arbennig iawn am Nepal - natur heddychlon a hapus y bobl. Ynghanol eu tlodi mae ganddyn nhw rhyw gyfoeth o fath gwbl wahanol.
Pa heriau sy’n wynebu’r Gymraeg heddiw a sut mae eu taclo ?
Cwestiwn mawr! Mae bob math o heriau yn wynebu'r Gymraeg heddiw - rhieni sy'n siarad yr iaith ac yn dewis peidio trosglwyddo'r Gymraeg i'w plant, mewnfudo, tai haf yn prisio pobl leol allan o'r farchnad dai, diffyg hyder dysgwyr a siaradwyr i ddefnyddio'r iaith, cael plant a phobl ifanc i ddefnyddio'r iaith y tu allan i ffiniau'r ysgol...mae'r heriau rif y gwlith. Sut mae eu taclo? Gyda chariad a pharch at ein gilydd. Drwy drafod. Drwy addysgu pobl. Drwy wynebu'r realiti ac yn fwy na dim drwy ddyfalbarhau. Mae angen cynllunio ieithyddol, mae angen parhau gyda'r holl waith gwych sy'n digwydd ar hyd a lled Cymru. Yn y diwedd pobl brwdfrydig angerddol gydag egni rhyfeddol a dycnwch ac argyhoeddiad sydd â'r gallu i newid pethau. Mi ydw i'n hyderus ein bod yn mynd i'r cyfeiriad iawn...mae jyst angen dal ati.
Pam fod seicoleg addysg yn eich diddori?
Mae addysg yn gallu newid bywydau pobl. Dw i'n caru'r syniad bod potensial i bob dydd unwaith mae rhywun yn meddwl mewn ffordd agored am addysg. Mae dylanwad athro neu athrawes wych yn bell-gyrhaeddol ac yn parhau am byth. Mae'r athrawon sydd wedi ein hysbrydoli yn ran o'n bywydau ni am byth. Mae'r hyn sy'n digwydd mewn dosbarth yn fy rhyfeddu ac yn dal i fy synnu. Mae rhywbeth arbennig yn digwydd pan mae pobl yn dod at ei gilydd i ddysgu rhywbeth. Mae'r rhannu egni a gwybodaeth a ffeithiau a chariad a phoenau meddwl yn tynnu pobl at ei gilydd. Yn aml mae pobl yn dysgu am gymaint mwy na'r pwnc maen nhw'n ei astudio. Mae'r grefft o ddysgu yn fy nghyfareddu - pawb â'i steil a'i ddull o gofio pethau, pawb â'i ffordd unigryw ei hun o fynd ati. Dw i wrth fy modd efo'r holl broses. Dw i'n ymddiddori yn y cof a'r ymennydd a sut mae'n gweithio hefyd a'r seicoleg o sut mae ein meddylfryd ni, ein hagwedd ni yn gallu trawsnewid y dysgu hefyd. Mae o mor amlochrog.
Beth yw eich atgofion o fod yn fyfyriwr Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe ?
Mae fy atgofion o fod yn fyfyrwraig yn y Brifysgol yn rhai hapus iawn. Yn academaidd - dw i'n teimlo fel fy mod wedi dysgu a blodeuo a datblygu syniadau newydd a thrin a thrafod a bwydo'r angerdd oedd gen i tuag at ein hiaith a'n diwylliant a'n hanes. Yn gymdeithasol dw i'n cofio'r hwyl a'r chwerthin, y barbeciws ar lan y môr, y gemau pêl-rhwyd, y Mumbles Mile, parc Singleton yn yr hydref yn ei liwiau euraidd. Mae gen i ffrindiau bore oes o'r cyfnod hwn ac mae meddwl yn ôl i'r cyfnod yn gwneud i mi wenu heb os.