Peter Stead yn sgwrsio ag Elaine Canning – Cyfweliad y Canmlwyddiant
Allech chi ddweud wrthym ychydig am le y cawsoch chi’ch magu ac am eich blynyddoedd yn yr ysgol yn Nhregŵyr, Abertawe?
Ces i fy ngeni yn y Barri ym 1943 ac am dair blynedd ar ddeg roeddwn i’n byw ar ben bryn mwyaf llethrog y dref mewn tŷ â golygfeydd gwych draw i Exmoor. Roedd y tŷ hwnnw ychydig yn uwch yn yr un stryd a ddaeth yn enwog flynyddoedd wedi hynny am fod yn un o brif leoliadau’r gyfres gomedi deledu Gavin and Stacey. Ym 1957, cafodd fy nhad, a oedd yn blismon, ddyrchafiad a symudon ni i Dregŵyr ar ochr arall y wlad. Ar ôl dwy flynedd a hanner yn Ysgol Ramadeg y Barri i Fechgyn, symudais i i’r trydydd dosbarth yn yr ysgol gyfatebol yn Nhregŵyr.
Yn y cyfnod hwnnw roedd Tregŵyr yn dal i fod yn bentref diwydiannol i raddau helaeth, yn hytrach na maestref i Abertawe, ac roedd bywyd yn cylchdroi o gwmpas ei weithfeydd dur, y clybiau rygbi a chriced, ei dair tafarn a’i bum lle addoli. Er hynny, roedd Abertawe taith fer yn unig i ffwrdd (ar y bws neu ddwy linell rheilffordd) ac roedd y dref yn gyfarwydd gan ein bod wedi treulio dau gyfnod gwyliau fel teulu yng nghartref ffrind a oedd yn byw ger Neuadd y Ddinas. Fel ymwelydd ifanc, roeddwn i wedi cael fy hudo ar unwaith gan y glannau gyda’r trenau i Fanceinion, y tram sigledig i’r Mwmbwls, y gemau ar gaeau enwog y Vetch a San Helen a’r gerddoriaeth yn Neuadd Brangwyn. Ychydig a feddyliwn i y byddwn i’n treulio llawer o’m bywyd ar ôl hynny’n byw bywyd i’r eithaf ym 'Mae ysblennydd' Dylan.
Roeddwn i’n dwlu ar fy mhedair blynedd a hanner yn Ysgol Tregŵyr. Roeddem ni i gyd yn ymwybodol mai rygbi a cherddoriaeth glasurol oedd yn sylfaen enw da’r ysgol, a’r rhestr hir o gyn-ddisgyblion disglair a oedd wedi chwarae dros Gymru neu ddod yn gyfansoddwyr, yn ogystal â’r XV Cyntaf a cherddorfa’r ysgol (gan gynnwys Karl Jenkins), a wnaeth gwblhau’r ymdeimlad a oedd gennyf o addysg wedi’i thrwytho mewn diwylliant cyfoethog o’r dyniaethau. Y ddwy flynedd yn y Chweched Dosbarth a bennodd y gwerthoedd academaidd, diwylliannol a chymdeithasol a luniodd fy holl fywyd. Cafodd fy nghariad dilynol at deithio’n rhyngwladol ei feithrin yn y gwersi Daearyddiaeth; roeddwn i’n awyddus i ymweld â phob gwlad a nodwedd a astudiwyd. Rydw i’n ddyledus am gymaint i’r athrawon Saesneg, er eu cof rydw i’n dal i adrodd darnau helaeth gan Chaucer, Wordsworth a Browning. Ces i fy mhrofiad gwleidyddol cyntaf fel ymgeisydd yn yr Etholiad Cyffredinol Ffug ym 1969, ac atodi tasl y swyddog i’m cap ysgol a wnaeth imi feddwl yn gyntaf y dylwn i ystyried mynd i’r Brifysgol.
Pam gwnaethoch ddewis astudio Hanes yn Abertawe?
Byddai’n rhaid imi ddewis hanes fel pwnc. Roeddwn i’n dwlu ar y naratif ac roedd popeth yn aros yn y cof; wedi darllen rhywbeth unwaith, roeddwn i’n ei ddeall ac yn gallu ei ddwyn i gof yn hawdd. Cynigiwyd lle imi ym Mhrifysgol Caerdydd ac roeddwn i ar restr yr ymgeiswyr wrth gefn ar gyfer Nottingham. Ond roeddwn i’n gwybod bod fy rhieni am imi ddewis Abertawe a chymaint oedd enw da'r Athro Glanmor Williams, heb sôn am yr Elyrch, y Crysau Gwynion a Chriced Morgannwg, doeddwn i ddim yn gweld llawer o ddiben bodloni ar ddim byd llai.
"Mae fy ngyrfa wedi rhoi imi gyfle digonol i fyfyrio ar y buddion niferus y mae bywyd ar Barc Singleton wedi eu gwarantu."
Allwch chi ddweud wrthym am eich amser ym Mhrifysgol Abertawe, fel disgybl ac aelod staff?
Cyrhaeddais i Barc Singleton fel ‘glas fyfyriwr’ ym 1961, graddio ym 1964 ac ar ôl dwy flynedd fel myfyriwr ôl-raddedig, ymuno â’r staff ym 1966, gan ymddeol o’r Adran Hanes yn y diwedd ym 1997. Mae fy mhenodiad fel Cymrawd er Anrhydedd yn golygu bod fy nghysylltiad â Phrifysgol Abertawe wedi parhau am bron trigain mlynedd. Mae fy ngyrfa wedi rhoi imi gyfle digonol i fyfyrio ar y buddion niferus y mae bywyd ar Barc Singleton wedi eu gwarantu.
Yn gynnar ym 1962 ar ddechrau fy ail dymor, gwnaeth yr Heddlu drosglwyddo fy nhad a chartref fy nheulu i Bontypridd ac roeddwn i’n ffodus i gael lle yn Neuadd Sibly, neuadd ar y campws a oedd wedi agor bedwar mis ynghynt. Byddwn i’n treulio dwy flynedd israddedig ‘mewn neuadd’ a nes ymlaen, pan oeddwn i’n ddarlithydd, pedair blynedd yn gyfagos yn Neuadd Lewis Jones fel tiwtor.
Yn gyntaf, roeddwn i wedi fy syfrdanu gan nifer y myfyrwyr yn y neuadd a oedd wedi dod o ysgolion gramadeg a phreswyl yn Lloegr. Roedd fy ffrindiau newydd yn hanu o’r cefndir hwnnw’n bennaf, ac mewn gwirionedd byddai fy nghyfeillion oes agosaf yn dod o ysgolion Seisnig da ond roeddent yn feibion i dadau o Gymru, proffil sydd wedi rhoi i Abertawe lawer o’i myfyrwyr gorau. Yn ystod fy mlynyddoedd israddedig, dechreuais i deimlo fy mod yn dysgu cymaint gan fy nghyd-fyfyrwyr â chan ddarlithoedd. Gan fyw ar y campws, roeddwn i bob amser yn dysgu am yr hyn oedd yn mynd ymlaen mewn pynciau eraill a dysgais i sut i adnabod y darlithwyr a’r ysgolheigion mwyaf disglair mewn cyfadrannau eraill. Gwnaeth yr ymdeimlad hwn o berthyn i gymuned fach o ysgolheigion ddwysáu pan ddes i’n diwtor - ar y pryd, roeddwn i’n byw gyda grŵp o ddarlithwyr o adrannau eraill ac yn cwrdd â’u gwesteion yn ystod ciniawau ffurfiol gyda’r nos. Dyma sut cwrddais i â chydweithwraig o’r Adran Fathemateg a ddaeth yn wraig imi ym 1971. Ar ôl i mi esbonio fy mod yn ‘arbenigwr ar Derfysgoedd Tonypandy’, atebodd hi ei bod yn ‘fyfyrwraig y Cyfanfyd’!
Roedd Parc Singleton yn ehangu fy ngorwelion byth a beunydd. Gwnaeth yr Adran Hanes fy annog i dreulio amser yn Llundain am lawer o’m hail flwyddyn ôl-raddedig ac yn ddiweddarach am gyfnodau pellach i ymchwilio mewn archifau yn Llundain. Gwnaethant ganiatáu imi dreulio dwy flynedd wahanol yn Unol Daleithiau America ar Gymrodoriaethau Fulbright ac i fynychu nifer o gynadleddau academaidd yn Ffrainc, Sbaen, yr Almaen, yr Eidal ac Awstria. Yr ymdeimlad hwn o berthyn i gymuned ryngwladol o ysgolheigion yw’r rhodd fwyaf mae gyrfa academaidd yn ei chynnig.
P’un yw eich atgof mwyaf hyfryd?
Efallai ei bod hi’n anochel fy mod yn meddwl am Barc Singleton yn y ffordd orau bosib. Cwrddais i â’m darpar-wraig yno a chafodd gwledd ein priodas ei chynnal yn Ystafell Fwyta Tŷ Fulton. Ces i fy addysgu gan sawl ysgolhaig rhagorol ac roedd rhai o’m cydweithwyr yn ffrindiau agos ond hefyd byddent yn sicr o gael eu hystyried i fod ar fy rhestr o ‘gymeriadau mwy bythgofiadwy’.
Yn fy nyddiau cynnar, roeddem ni’n ymwybodol o ddimensiwn Kingsley Amis (roedd ef wedi gadael ychydig cyn imi gyrraedd) ac roeddem ni bob amser yn clywed mai 'hwn a’r llall' oedd y model am Lucky Jim. Am ryw ddegawd roedd yr holl drafodaeth yn ymwneud â ‘nofel y campws’ a oedd yn go ffasiynol - efallai gwnaethom ni ddechrau ymddwyn fel pe tasen ni’n gymeriadau yn yr hyn a fyddai’r enghraifft orau a mwyaf doniol o’r genre, siŵr o fod, unwaith y byddai’n cael ei hysgrifennu! Blynyddoedd o chwerthin oedd y rhain: roedd athro a’i wraig a oedd yn arfer torheulo’n noeth, a straeon di-rif am deithiau myfyrwyr i Blas Gregynog. Gwnaeth sawl tyst sylwi ar sut, bob tro y cwrddais â ffrind o’r Adran Economeg ar y Rhodfa, byddem yn cwympo ym mreichiau ein gilydd dan chwerthin.