George

BSc ac MSc Ffiseg. Blwyddyn Graddio 1930. Arloeswr Radar. Achubwr Ar Gyfleoedd. Seryddwr Radio.

Roedd Edward George  "Taffy " Bowen, CBE, FRS (14 Ionawr 1911 – 12 Awst 1991) [1] yn ffisegydd Cymreig a wnaeth gyfraniad mawr i ddatblygiad radar, ac felly helpodd i ennill brwydr Prydain a brwydr yr Iwerydd. Roedd hefyd yn seryddwr radio cynnar, yn chwarae rhan allweddol mewn sefydlu radioseryddiaeth yn Awstralia a'r Unol Daleithiau.

Daeth Edward i Brifysgol Abertawe ym 1927 i astudio ffiseg a mathemateg ac astudiodd ychydig o Almaeneg yn ei ail dymor hefyd. Ar ôl cwblhau ei radd israddedig aeth Edward ymlaen i gwblhau MSc. Dechreuodd ei PhD yn Abertawe hefyd cyn ei gwblhau yng Ngholeg Kings, Llundain.

Fel rhan o'i waith ymchwil, treuliodd Bowen ran helaeth o 1933 a 1934 yn gweithio gyda 'cathode-Ray'  yng ngorsaf ymchwil radio Slough, ac yno sylwodd Robert Watson-Watt arno a thrwy hynny daeth i chwarae rhan yn hanes cynnar radar. Yn 1935 cafodd ei recriwtio gan Watson-Watt i weithio yn y tîm datblygu radar fel Swyddog gwyddonol Iau.

Ar ôl arddangosiad llwyddiannus ym mis Chwefror 1935 o adlewyrchiad o donnau radio gan awyren, aeth datblygiad radar yn ei flaen, a sefydlwyd tîm o bump o bobl yn cynnwys Bowen yn Orfordness gan esgus eu bod yn gwneud ymchwil ïonosfferig. Gwaith Bowen oedd cydosod trosglwyddydd, gan lwyddo yn gyflym i godi'r pwls-pŵer i dros 100 cilowat.

Ar 17 Mehefin 1935, canfuwyd awyren am y tro cyntaf, ar bellter o 17 milltir.  Erbyn dechrau 1936 ar ôl llawer o welliannau, roedd awyrennau'n cael eu canfod ar bellter o hyd at 100 o filltiroedd. Cafodd Edward, ar ei gais ei hun, ei symud ymlaen wedyn i ymchwilio a ellid gosod radar mewn awyren. Roedd gosod radar mewn awyren yn anodd oherwydd maint a phwysau'r offer a'r awyrol. At hynny, roedd yn rhaid i'r cyfarpar weithredu mewn amgylchedd dirgrynol ac oer. Dros y blynyddoedd nesaf fe wnaeth Bowen a'i grŵp ddatrys y rhan fwyaf o'r problemau hyn. Er enghraifft, datrysodd broblem y cyflenwad pŵer mewn awyrennau drwy ddefnyddio eiliadur peiriant, ac anogodd Imperial Chemical Industries (ICI) i gynhyrchu'r ceblau amledd radio cyntaf gydag inswleiddiad polythen solet.

Parhaodd gwaith mireinio pellach tan fis Medi 1937, pan roddodd Bowen arddangosiad dramatig a heb wahoddiad ar ddefnyddio radar drwy chwilio am Lynges Prydain ym Môr y Gogledd dan amgylchiadau gwelededd gwael, gan ddarganfod tair llong gyfalaf. Yn awr roedd gan grŵp radar awyr Bowen ddau brosiect mawr, y naill ar gyfer canfod llongau a'r llall ar gyfer dal awyrennau. Yn ogystal, arbrofodd Bowen yn fyr gyda defnyddio radar awyr i ganfod nodweddion ar y tir, fel trefi ac arfordiroedd, i gynorthwyo mordwyo.

Ar gychwyn yr Ail Ryfel Byd, symudwyd uned Bowen i Sain Tathan. Un o'r pethau cyntaf wnaeth Bowen yno oedd ceisio canfod llong danfor gyda radar. Erbyn hynny, roedd y magnetron ceudod wedi cael ei wella gan John Randall a Harry Boot, gan wneud radar awyr yn declyn pwerus. Erbyn Rhagfyr 1940, roedd awyrennau gweithredol yn gallu canfod llongau tanfor ar bellter hyd at 15 milltir. Cafodd y dechnoleg hon effaith fawr ar ennill Brwydr yr Iwerydd ac yn y pen draw galluogodd hyn i adeiladu lluoedd arfog morol ar gyfer goresgyniad Ewrop.

Ym 1940, aeth Bowen i'r Unol Daleithiau gyda Chenhadaeth Tizard ac fe gynorthwyodd i gychwyn datblygiadau aruthrol mewn radar microdon fel arf. Bu Bowen yn ymweld â labordai'r UD gan ddweud wrthynt am radar yn yr awyr a threfnu arddangosiadau. Roedd yn gallu cymryd enghraifft gynnar o'r magnetron ceudod. Gyda chyflymder rhyfeddol sefydlodd yr Unol Daleithiau labordy arbennig, y labordy ymbelydredd MIT ar gyfer datblygu radar o donnau centimetr, a bu Bowen yn cydweithio'n agos â hwy ar eu rhaglen, gan ysgrifennu'r fanyleb ddrafft gyntaf ar gyfer eu system gyntaf. Profwyd y radar awyr 10cm arbrofol Americanaidd cyntaf, gyda Bowen yn yr awyren, ym mis Mawrth 1941, saith mis yn unig ar ôl i Genhadaeth Tizard gyrraedd.

Roedd cenhadaeth Tizard yn hynod lwyddiannus bron yn gyfan gwbl oherwydd y wybodaeth a ddarparwyd gan Bowen. Bu'n gymorth i sefydlu'r gynghrair rhwng yr Unol Daleithiau a Phrydain dros flwyddyn cyn i'r Americanwyr ymuno â'r rhyfel.  Helpodd y llwyddiant o gydweithio radar i sefydlu sianeli cyfathrebu a fyddai'n helpu gyda throsglwyddiadau technoleg eraill i'r Unol Daleithiau fel peiriannau jet a ffiseg niwclear.

Ym misoedd olaf 1943, roedd gwaith Bowen yn yr Unol Daleithiau bron wedi gorffen ac ymosodiad y gelynion ar Ewrop ar fin digwydd. Gwahoddwyd Bowen i fynd i Awstralia i ymuno â labordy Radioffiseg CSIRO, ac ym mis Mai 1946, fe benodwyd yn Bennaeth ar yr Adran Radioffiseg. Bu Bowen yn annerch nifer o gynulleidfaoedd ar ddatblygiad radar, ei ddefnydd milwrol a'i ddefnydd posibl am heddwch i awyrennau sifil, tirfesur a mordwyo morol.

Yn ogystal â datblygiadau radar, ymgymerodd Bowen hefyd â dau weithgaredd ymchwil arall: y dull pwls o gyflymu gronynnau elfennol; ac arweiniodd mordwyo awyr at y cyfarpar mesur pellter (DME) a fabwysiadwyd yn y pen draw gan lawer o awyrennau sifil.

Anogodd Bowen hefyd y gwyddoniaeth newydd o radioseryddiaeth ac ef oedd yn gyfrifol am drefnu bod y telesgop radio 210 troedfedd yn cael ei adeiladu yn Parkes, New South Wales. Yn ystod ymweliadau â'r Unol Daleithiau, cyfarfu â dau o'i gysylltiadau dylanwadol yn ystod y rhyfel, Dr. Vannevar Bush a oedd wedi dod yn Llywydd Corfforaeth Carnegie a Dr. Alfred Loomis a oedd hefyd yn Ymddiriedolwr gyda’r Gorfforaeth Carnegie a sefydliad Rockefeller. Ym 1954, fe berswadiodd Bowen y ddau i ariannu telesgop radio mawr yn Awstralia gyda grant o $250,000. Yn gyfnewid am hyn, aeth Bowen ati i helpu i sefydlu seryddiaeth radio Americanaidd drwy secondio Awstraliaid i Athrofa Technoleg Califfornia.

Chwaraeodd Bowen ran allweddol yn nyluniad y telesgop radio yn Parkes. Yn ei agoriad ym mis Hydref 1961, meddai,  "... Mae chwilio am wirionedd yn un o nodau mwyaf nobl dynolryw ac nid oes dim sy'n ychwanegu at ogoniant yr hil ddynol nac yn rhoi iddi'r fath urddas â'r cymhelliad i ddwyn cymhlethdod eang y bydysawd o fewn dealltwriaeth dyn.  "

Profodd Telesgop Parkes yn amserol ar gyfer rhaglen ofod yr UD a dilyn llawer o chwilwyr gofod, gan gynnwys y teithiau Apollo. Yn ddiweddarach, chwaraeodd Bowen ran bwysig wrth dywys y prosiect Telesgop Eingl-Awstralaidd optegol yn ystod ei gyfnod dylunio. Agorwyd hwn ym 1974.

Cymerwyd o'r dudalen Wikipedia - https://en.wikipedia.org/wiki/Edward_George_Bowen