Asim Hafeez
BEng Peirianneg Sifil (1995)
Dirprwy Gyfarwyddwr yn y Swyddfa Gartref
Pam daethoch chi i Brifysgol Abertawe?
Cefais i fy ngeni a'm magu yn Birmingham ac es i i'r ysgol yn Solihull. Des i i Abertawe drwy glirio. Roeddwn i am fynd i brifysgol lle gallwn i chwarae rygbi, felly roedd Abertawe'n ddewis amlwg. Ar ôl cyrraedd yno, roedd harddwch naturiol penrhyn Gŵyr, y gymuned leol a chymuned Mosg y Brifysgol yn benodol yn gwneud i mi deimlo'n gartrefol ar unwaith.
Gwnaethoch chi astudio Peirianneg Sifil yn Abertawe. Sut gwnaeth hynny eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y Gwasanaeth Sifil?
Dyw BEng ddim o reidrwydd yn llwybr amlwg i'r Gwasanaeth Sifil, ond mae'n rhoi sylfaen wych i chi o ran sgiliau technegol a dadansoddol. Yna arhosais i ym Mhrifysgol Abertawe i wneud astudiaethau ôl-raddedig ac ymchwil mewn Cysylltiadau Rhyngwladol, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddiogelwch yn y Dwyrain Canol.
Sut gwnaeth eich gyrfa ddatblygu i gael eich penodi’n uwch-aelod yn y Swyddfa Gartref?
Yn 2002, ymunais i â'r Gwasanaeth Sifil yn Llywodraeth Cynulliad Cymru fel ymgynghorydd ar hil a chrefydd. Yna es i ymlaen i arwain yr Uned Cydraddoldebau cyn arwain Strategaeth Cydlyniant Cymunedol Cymru.
Des i'n Gydlynydd cyntaf Prevent ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru a datblygais i Strategaeth Prevent a Chynllun Cyflawni Prevent. Yn 2009, ymunais i â'r Swyddfa Diogelwch a Gwrthderfysgaeth yn y Swyddfa Gartref fel Ymgynghorydd Cymunedol ac yna cefais i fy mhenodi i fy swydd gyntaf yn yr Uwch Wasanaeth Sifil fel Dirprwy Gyfarwyddwr Prevent.
Yn 2011, derbyniais i secondiad am flwyddyn gyda G4S, cwmni diogelwch o fri byd-eang, i gynghori ar wrthderfysgaeth yn ystod y cyfnod cyn Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012 yn Llundain. Yn 2012, dychwelais i i'r Swyddfa Gartref fel Cyfarwyddwr Rheoli Gwybodaeth a Chydymffurfiaeth yn Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI).
Yn y pen draw, derbyniais i swydd Dirprwy Gyfarwyddwr y Tasglu Lloches ac rwyf bellach yn Ddirprwy Gyfarwyddwr y Gyfarwyddiaeth Ymgysylltiadau a Strategaethau Rhyngwladol a Chartref o ran y DU, gwledydd tramor, cyfandiroedd America ac Uned 5Eyes. Mae'r swydd yn mynd â mi i bedwar ban byd wrth i mi ymgysylltu â phartneriaid y DU ynghylch rhannu cudd-wybodaeth, gwrthderfysgaeth a seiberfygythiadau.
Mae'n ymddangos bod eich swydd yn eich cadw'n brysur iawn. Beth rydych chi'n ei wneud yn eich amser rhydd?
Mae'n fy nghadw i'n brysur iawn, ond mae gen i amser i wneud pethau eraill hefyd. Mewn rôl wirfoddol, rwy'n cynnal dosbarthiadau gwybodaeth Islamaidd yn ogystal â thraddodi pregethau ar ddydd Gwener o bryd i'w gilydd mewn lleoliadau amrywiol yn y DU, gan gynnwys ym Mhrifysgol Abertawe. Rwyf hefyd yn cadw mewn cysylltiad â'm ffrindiau o Brifysgol Abertawe, yn enwedig y chwaraewyr rygbi. Mae grŵp mawr ohonon ni'n dal i gadw mewn cysylltiad ac rydyn ni'n bwriadu dychwelyd i Abertawe am aduniad bach yn hwyrach yn y flwyddyn.
Rydych chi wedi dweud bod cymuned y Mosg yn y Brifysgol yn bwysig i chi ac rydych chi wedi cadw mewn cysylltiad byth ers hynny. Allwch chi ymhelaethu ar hynny?
Mae fy ffydd Fwslimaidd yn hynod bersonol ac ysbrydol, a'r mosg sydd wraidd y gymuned yn fy ffydd i. Byddwn i wedi arddel fy ffydd ni waeth ym mha brifysgol y dewisais i astudio, ond roedd y ffaith bod mosg ar y campws yn Abertawe'n ei gwneud hi ychydig yn haws o ran cydbwyso astudio ag addoli.
Yn y mosg roedd hi'n hawdd iawn cwrdd ag addolwyr eraill, sef myfyrwyr fel minnau, staff yn y Brifysgol neu bobl o'r gymuned leol ger Parc Singleton. O ganlyniad i hyn, gwnes i ymgartrefu'n gyflym iawn yn Abertawe. Roedd y mosg hefyd yn integreiddio'n dda â chymuned ehangach y Brifysgol. Dyw hi ddim yn anghyffredin i ddathliadau Eid gynnwys ymwelwyr o Swyddfa'r Is-ganghellor neu'r staff yn Abaty Singleton.
Sut byddech chi'n disgrifio eich profiad ym Mhrifysgol Abertawe mewn cyn lleied o eiriau â phosib?
Anhygoel! Newidiodd fy mywyd y bydda i'n ei drysori am byth.