Fotios Pelesis

Ph.D mewn Peirianneg Fecanyddol. Dosbarth 2014.
Rheolwr Gwelliant Parhaus Gweithfeydd.

Eich Gyrfa

Ymunais â Grŵp TechnipFMC yn 2016 a gweithiais fel Peiriannydd Cynwysyddion Gwasgedd a Pheiriannydd Dadansoddi Straen Pibellau, gan ennill gwybodaeth amhrisiadwy yn y sector Olew a Nwy trwy nifer o brosiectau. Yn fuan, yn 2018, cefais fy recriwtio gan Corinth Pipeworks i weithio fel Dadansoddwr Systemau Cynnal a Chadw. Yno, datblygais arbenigedd unigryw mewn Optimeiddio Perfformiad Asedau.

Yn gynnar yn 2020, cefais fy nyrchafu i swydd Rheolwr Gwella Parhaus Gweithfeydd ac arweiniais y Rhaglen Rhagoriaeth Weithredol a arweiniodd at welliannau rhagorol. Rhan o'm cyfraniad personol i oedd rhoi Technoleg Gefaill Ddigidol o'r radd flaenaf ar waith, gan arloesi yn y diwydiant Pibellau Dur yn rhyngwladol. Derbyniodd y cwmni ddwy Wobr Arian am hyn yn y Manufacturing Excellence Awards 2022. Ers dechrau 2023, rwy'n gweithio fel Rheolwr Gwella Parhaus Gweithfeydd yn Hellenic Cables yn un o'r gweithfeydd cebl llong danfor mwyaf mewn maint a mwyaf datblygedig drwy'r byd. Mae Corinth Pipeworks a Hellenic Cables yn is-gwmnïau o Cenergy Holdings, aelod o Viohalco Group.

Sut fyddech chi'n crynhoi eich profiad ym Mhrifysgol Abertawe?

Roedd yn daith addysgol a newidiodd fy mywyd. Roedd amgylchedd amlddiwylliannol y Brifysgol yn brofiad amhrisiadwy na fyddwn i wedi cael ei brofi yng Ngwlad Groeg. Fe wnes i gyfeillgarwch cryf â phobl o bob cwr o'r byd, gan gyfnewid profiadau a thraddodiadau.

Beth yw eich 3 hoff beth am Abertawe?

1) Parc Singleton: Mae'n un o'r parciau mwyaf prydferth a thangnefeddus rwyf erioed wedi ymweld ag ef.

2) Stryd y Gwynt: Os ydych chi'n chwilio am fywyd nos Abertawe, dyna'r lle. Mae llawer o fariau a bwytai i ddewis ohonynt er mwyn mwynhau noson fythgofiadwy gyda'ch ffrindiau.

3) Y Mwmbwls: Unwaith y byddwch yn ymweld â'r Mwmbwls, byddwch wrth eich bodd! Ardal foethus, ond clyd ar lan y môr yn Abertawe.

Pam wnaethoch chi ddewis astudio eich gradd yn Abertawe?

Mae'r Gyfadran Peirianneg ymhlith y gorau yn y DU gan gyfuno addysgu rhagorol, a labordai a chyfleusterau o'r radd flaenaf. Mae'r ddinas yn hynod ddiddorol gyda dewisiadau hamdden a siopa diddiwedd tra bod gan y marina olygfa syfrdanol. Hefyd, mae cyfleusterau chwaraeon y Brifysgol yn rhoi'r cyfle prin i chi ymarfer unrhyw chwaraeon y gallech chi eu dymuno. Does dim rheswm da dros beidio â dewis Abertawe ar gyfer eich astudiaethau!

Fyddech chi'n argymell Prifysgol Abertawe i rywun sy'n ystyried mynd i'r Brifysgol?

Yn sicr, byddwn. Rhoddodd Prifysgol Abertawe’r wybodaeth angenrheidiol i mi adeiladu sylfeini cryf ar gyfer gyrfa broffesiynol lwyddiannus. Roedd y staff academaidd yn gyfeillgar ac yn gefnogol iawn gydol fy astudiaethau. Yn olaf ond nid lleiaf, mae cyfleusterau a phreswylfeydd y campws yn wych tra bod costau byw cyffredinol yn eithaf rhesymol.

Sut wnaeth eich gradd eich paratoi ar gyfer eich gyrfa?

Roedd y radd Baglor mewn Peirianneg Fecanyddol yn cynnwys addysg o'r radd flaenaf ac ystod eang o fodiwlau yn cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol. Hefyd, datblygodd y prosiectau grŵp rhyngddisgyblaethol ein sgiliau meddal fel meddwl yn feirniadol, gwaith tîm a chyfathrebu.

Mae fy nghydweithrediad gydag Imerys S.A. a grŵp Gwent yn ystod fy ngradd Doethur mewn Athroniaeth (Ph.D.) a'r mentora parhaus gan fy ngoruchwylwyr academaidd (Yr Athro D.T. Gethin a'r Athro T. Claypole) wedi cryfhau fy agwedd broffesiynol tuag at arwain drwy esiampl a hyrwyddo grym ar y cyd; rwy’n hynod ddiolchgar a gwerthfawrogol.

Ochr yn ochr â'r radd PhD, penderfynais fynd â fy sgiliau meddal gam ymhellach trwy'r Ysgoloriaeth Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS) 3 blynedd a ddarparwyd gan Brifysgol Bangor a'r Undeb Ewropeaidd.

Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sydd am ddilyn eich gyrfa?

Mae Rhagoriaeth Weithredol a Gweithgynhyrchu Clyfar yn ddau fyd creadigol, llawn ysbrydoliaeth ac mae yna lawr o gysylltiad rhwng y ddau fyd. Datblygwch eich sgiliau proffesiynol yn barhaus i ddod yn Arweinydd sy’n Gwasanaethu go iawn. Canolbwyntiwch ar eich breuddwydion a gweithiwch yn galed i'w gwireddu ond peidiwch ag anghofio cadw cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Mae eich bywyd personol yn rhoi'r pŵer i chi barhau.