Prif Swyddog Gweithredol Cyfreithiol, Morgan Stanley
Y Gyfraith ac Almaeneg,1999
Sut gyrhaeddoch chi Brifysgol Abertawe?
Wrth gael fy magu yn Llundain ac yng Nghaerfaddon, doeddwn i ddim erioed wedi bod i Gymru. Hefyd, roeddwn i am osgoi mynd i'r brifysgol yn Llundain. Roeddwn i am archwilio rhannau eraill o'r wlad. Roeddwn i am astudio'r Gyfraith gyda ffocws ar Almaeneg. Nid yw llawer o bobl yn gwybod imi gael fy ngeni yn Fienna, Awstria, ac roeddwn i'n awyddus i barhau i astudio Almaeneg. Roedd Abertawe yn cynnig yr opsiwn hwnnw a phan ddes i i ymweld â'r campws, cwympais mewn cariad â'r ddinas, â'r traethau ac â'r campws. Roedd y campws yn fendigedig, ac yn ddigon bach i deimlo fel cymuned. Hefyd, roedd elfen o amrywiaeth a oedd yn syndod i mi. Roeddwn i'n tybio wrth fynd i Brifysgol yng Nghymru na fyddai'n amrywiol ond wrth gerdded o gwmpas y campws gwelais agwedd ar amrywiaeth a wnaeth imi deimlo'n fwy cyfforddus am gyflwyno cais a mynd yno.
Beth oedd y pethau gorau am eich cwrs?
Heb os, Ruth Costigan! Darlithydd mor ysbrydoledig.
Beth yw eich hoff atgofion o'ch amser yn Abertawe?
Y traethau, byw yn y Mwmbwls (Milltir y Mwmbwls), dysgu rhagor am Gymru a chwrdd â ffrindiau am oes! Roedd fy mhreswylfa yn gastell (Castell Clun). Beth wnaeth ichi benderfynu astudio'r Gyfraith? Mae gen i gefndir o Nigeria a bydd unrhyw un sy'n adnabod diwylliant Nigeria yn dweud wrthych fod tri opsiwn. Gallwch astudio Meddygaeth, Cyfrifeg neu'r Gyfraith. Dydw I ddim yn hoff o waed ac rydw i'n ofnadwy gyda rhifau, felly yr unig opsiwn oedd y Gyfraith mewn gwirionedd. Ond rydw i'n dwlu ar ysgrifennu, rydw i'n dwlu ar ddarllen, rydw i'n dwlu ar ddadlau ac yn dwlu ar feddwl am safbwyntiau gwahanol, ac rydw i wrth fy modd yn defnyddio damcaniaeth, gan ei rhoi ar waith. Hefyd, rydw i'n frwdfrydig iawn am hawliau dynol a sifil, ac rydw i'n credu bod y Gyfraith wedi galw arnaf yn y bôn. Roeddwn i wir am ddeall sut mae'r Gyfraith yn gweithio, sut rydych chi'n cymhwyso'r Gyfraith ac yn ei defnyddio i gefnogi ac amddiffyn hawliau pob unigolyn.
Beth wnaethoch chi ar ôl graddio?
Es i ymlaen i astudio ar gyfer fy LLM yn yr Unol Daleithiau, ac efallai dyma le mae fy nhaith ychydig yn anhraddodiadol. Cyn yr LLM, gwnes i interniaeth dros yr haf am gyfnod o chwe wythnos yn un o gwmnïau'r cylch hudol yn Llundain. Pan gerddais drwy'r drws, roeddwn i'n gwybod ar unwaith nad dyna'r lle roeddwn i am fod. Roedd e'n dipyn o brofiad negyddol. Pan edrychais o gwmpas, doeddwn i ddim yn gweld neb â'r un olwg â mi. Doedd dim modelau rôl, roedd yr holl interniaid eraill ar y cwrs yn dod o Rydychen a Chaergrawnt. Doedd dim ymdeimlad o berthyn gen i. Wrth edrych yn ôl, nawr bod amrywiaeth wrth wraidd popeth yn yr holl gwmnïau cyfreithiol efallai byddai fy mhrofiad yn wahanol, ond ar y pryd gwnaeth wir effeithio ar fy safbwynt a'm cymhelliad. Roeddwn i'n gwybod nad oeddwn i am weithio mewn cwmni cyfreithiol. Felly, es i i Brifysgol Tulane yn New Orleans ar gyfer fy LLM. Dangosodd imi ddiwylliant newydd a ffordd newydd o feddwl am y gyfraith. Hefyd, roeddwn i'n gallu ehangu fy niddordebau o hawliau dynol i agweddau eraill ar y gyfraith. Hefyd, penderfynais yr oeddwn i am weithio mewn cwmni byd-eang lle byddai modd imi ddefnyddio fy ngwybodaeth a'm sgiliau er mwyn creu effaith ar y gymdeithas rywsut, wrth ddefnyddio fy sail gyfreithiol hefyd.
Ble ydych chi'n gweithio nawr, a sut beth yw diwrnod nodweddiadol?
Rydw i'n gweithio i Morgan Stanley, sy'n fanc buddsoddi. Rydw i'n Brif Swyddog Gweithredol i'r Adran Gyfreithiol Ryngwladol, yn ogystal ag Adran Gyfreithiol Rheoli Buddsoddiadau yn fyd-eang. Bydd diwrnod nodweddiadol yn amrywiol ac yn anrhagweladwy, ac rydw i'n dwlu ar hynny. Fy mhrif ffocws yw sicrhau bod yr adran yn gweithredu'n hwylus, yn effeithiol ac yn effeithlon. Mae bwcedi gwahanol o ran cyflawni hynny. Y cyntaf yw pobl - mae'n golygu gwneud yn siŵr bod gennych y bobl gywir a'u bod yn teimlo bod y gefnogaeth ganddynt i wneud eu gwaith gorau ac i gyflawni a chefnogi'r busnes. Yr ail yw edrych ar strwythur yr hyn rydym ni’n ei wneud a'r swyddogaethau. Oes gennym y swyddogaethau cywir, ydyn ni'n gwneud pethau yn y ffordd fwyaf effeithlon ac os nad ydym ni, oes angen inni newid pethau? Mae'r trydydd yn ymwneud â'r dechnoleg yr ydym yn ei defnyddio. Mae cryn dipyn o newidiadau wedi bod o ran y proffesiwn cyfreithiol a nawr mae'n golygu ystyried sut rydym ni'n defnyddio technoleg a deallusrwydd artiffisial er mwyn gwneud y gwaith o ddydd i ddydd yn fwy effeithiol o safbwynt gweithredol. Mae llawer o'm gwaith yn cynnwys craffu ar y gorwel er mwyn gweld i ba gyfeiriad y mae'r proffesiwn cyfreithiol yn mynd. Rhan fawr arall o'm diwrnod yw amrywiaeth a chynhwysiad. Ym Morgan Stanley, rydw i'n Gadeirydd Cynghrair Fusnes Affrica a'r Caribî. Rydw i'n frwdfrydig iawn am hynny. Rydw i'n credu bod pawb yn sylweddoli bellach y bydd sefydliadau'n ffynnu pan fydd gweithlu amrywiol ganddynt, a bydd pawb yn teimlo'n rhan ohono. Roedd y rhwydwaith yr ydw i'n ei gadeirio’n arfer bod yn grŵp cymdeithasol ond nawr rydym ni wedi dod yn weithgor ymgynghori strategol ynghylch sut rydym ni'n recriwtio, sut rydym yn cadw dawn amrywiol ac yn ei hybu. Yn y rhwydwaith, rydw i wedi gwylio cydweithwyr yn tyfu'n broffesiynol, yn ehangu eu rhwydweithiau ac yn derbyn mwy o gyfrifoldeb, sy'n wych. Ochr yn ochr â hynny, rydw i'n frwdfrydig iawn am symudedd cymdeithasol. Sut ydym ni'n gwneud yn siŵr bod dawn o gefndiroedd sy'n llai symudol yn gymdeithasol yn cael sedd o gwmpas y bwrdd ac yn gallu ffynnu? Mae angen inni wneud yn siŵr bod y modelau rôl a'r cymorth cywir ar waith. Cefais swydd y Prif Swyddog Gweithredol ar ddamwain. Treuliais ddeng mlynedd ym maes troseddau ariannol. Mae fy ngradd yn y Gyfraith dal yn sail i'r ffordd rydw i'n gweithredu'n broffesiynol, mae'r sgiliau dadansoddi yn hanfodol, ond mae'r rôl hefyd yn fy ngalluogi i ganolbwyntio ar bobl ac amrywiaeth, cynhwysiant a symudedd cymdeithasol.
Oeddech chi'n aelod o gymdeithasau i fyfyrwyr? Wnaethoch chi gymryd mantais o gyfleoedd eraill?
Roeddwn i'n aelod o'r Gymdeithas Affro-Garibïaidd a chwaraeais i hoci am ychydig.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i rywun sy'n ystyried astudio yn Abertawe?
Ces i amser bendigedig yn Abertawe. Roedd fy amser yno yn gyfle i ddysgu a chwrdd â phobl o bob cefndir, diwylliant a phrofiad. Hefyd, mynd i Abertawe oedd fy nghyflwyniad cyntaf i Gymru a'I diwylliant, ac rydw i wedi dod i drysori hynny dros y blynyddoedd. Byddwn i'n annog yn gryf unrhyw un sy'n ystyried astudio yn Abertawe i fynd amdani! Hefyd, byddwn i'n annog myfyrwyr I gadw mewn cysylltiad â'ch ffrindiau o'r brifysgol - maen nhw'n rhwydwaith gwych - a defnyddiwch rwydwaith y cyn-fyfyrwyr. Wrth wneud hynny, dylech chi fod yn ymwybodol o bwy rydych chi'n rhwydweithio â nhw. Beth sydd ei angen arnoch ganddyn nhw, dylech chi barchu eu hamser ond cofiwch yr hyn rydych chi'n gallu cynnig i'r berthynas. Mae gennych chi wybodaeth a phrofiad sy'n werthfawr i'w rhannu hefyd.