Syr John Meurig Thomas BSc Cemeg, PhD Sbectrometreg Màs. Blwyddyn Graddio 1957. Cemegydd Cyflwr Solet. Addysgwr. Hanesydd.
Graddiodd Syr John Meurig Thomas â BSc mewn Cemeg gan Abertawe ym 1954. Mae’n wyddonydd, yn addysgwr, yn weinyddwr prifysgol ac yn hanesydd gwyddoniaeth sy’n adnabyddus yn bennaf am ei waith ar gatalysis heterogenaidd, cemeg cyflwr soled a gwyddor arwynebau a deunyddiau.
Mae’n un o sylfaenwyr y ddisgyblaeth cemeg cyflwr soled, gan ddechrau gyda’i waith ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, ym 1958 pan ymchwiliodd i’r ffyrdd amrywiol mae afleoliadau’n dylanwadu ar briodweddau cynyrfonig amrywiaeth o soledau. Roedd yn un o’r bobl gyntaf i ddefnyddio microsgopeg electronau fel offeryn cemeg, yn enwedig i ddiddwytho adweithedd safle gweithredol o dopograffeg arwyneb llawer o fwynau a hydradau crisial.
Yn Aberystwyth (1969-1978), esboniodd gemeg arwynebol diemyntau, mwynau clai, metelau a sylweddau rhyngosodol drwy arloesi spectrosgopeg ffoto-electronau uwchfioled a phelydr X. Arloesodd hefyd ym maes peirianneg crisial moleciwlau organig. Pan oedd yn Bennaeth Cemeg Ffisegol yng Nghaergrawnt (1978-1986), defnyddiodd dechneg ‘troelli ongl hudol’ mewn spectrosgopeg NMR a microsgopeg electronau cydraniad uchel i nodweddu a phennu strwythurau seolitau a chatalyddion nano-dyllog eraill. Fel Athro Fuller Cemeg a Chyfarwyddwr y Sefydliad Brenhinol a Labordy Ymchwil Davy Faraday, defnyddiodd belydriad syncrotron i nodweddu catalyddion newydd in situ, at ddibenion cemeg werdd a thechnoleg lân.
Mae wedi derbyn llawer o wobrau cenedlaethol a rhyngwladol ac, am ei gyfraniad at geocemeg, enwyd y mwyn meurigite er ei anrhydedd. Bu’n Feistr Peterhouse, Prifysgol Caergrawnt (1993 – 2002) a chafodd ei urddo’n farchog ym 1991 “am wasanaethau i gemeg a phoblogeiddio gwyddoniaeth”.