Llb y Gyfraith. Dosbarth 2011. Partner gyda Chyfreithwyr Enable Law
Beth oedd wedi’ch denu i Brifysgol Abertawe?
Gan fy mod i’n hanu o Gernyw, roedd astudio rywle’n agos i’r môr yn uchel ar fy rhestr o flaenoriaethau. Mae Campws Singleton Prifysgol Abertawe o fewn tafliad carreg i’r môr, felly roedd yn taro tant yn hynny o beth. Roedd y Brifysgol yn meddu hefyd ar y rhinweddau academaidd cywir, ac roeddwn i o’r farn mai hi oedd y lle cywir imi pan deithiais i fyny am ddiwrnod agored. Roeddwn i’n teimlo fy mod i’n mynd i fwynhau byw ac astudio yn Abertawe, a doeddwn i ddim yn anghywir!
"...roedd yn brofiad unwaith mewn bywyd i gael byw yn yr India a gweithio gyda chwmni fel 3M – mae’n rhywbeth rwy’n hynod o ddiolchgar i Brifysgol Abertawe am helpu i’w drefnu."
Beth yw’ch hoff atgofion o’ch cyfnod yn y Brifysgol?
Yn ystod blwyddyn olaf fy ngradd roeddwn wedi cyflwyno cais am interniaeth gyda 3M (cwmni gweithgynhyrchu amlwladol o’r Unol Daleithiau) yn Bengaluru, yr India.
Mae llawer o atgofion gwych gen i o’m cyfnod yn y brifysgol, ond yn bendant roedd yr interniaeth ar lefel arall. Er ei bod yn heriol, roedd yn brofiad unwaith mewn bywyd i gael byw yn yr India a gweithio gyda chwmni fel 3M – mae’n rhywbeth rwy’n hynod o ddiolchgar i Brifysgol Abertawe am helpu i’w drefnu.
Pa lwybr gyrfaol gymeroch chi ar ôl graddio?
Ar ôl graddio, astudiais Gwrs Ymarfer y Gyfraith (LPC) ym Mhrifysgol Plymouth (y mae’n rhaid ichi ei gwblhau os ydych chi yna eisiau mynd yn eich blaen i hyfforddi fel cyfreithiwr)
Dechreuais yr LPC cyn cael contract hyfforddi (sef y contract sy’n cwmpasu’r cyfnod hyfforddi o ddwy flynedd gyda chwmni cyfreithiol a fyddai wedyn yn arwain at gymhwyso’n gyfreithiwr). Felly roedd yn dipyn o fenter o’m rhan i y byddai cwblhau’r LPC yn talu ar ei ganfed yn y pen draw.
Drwy lwc, wedi imi raddio o Brifysgol Plymouth a gweithio fel paragyfreithiwr am 18 mis, cefais gynnig contract hyfforddi gyda chwmni Foot Anstey. Cefais fwy byth o lwc gan nad oedd y contract hyfforddi i fod dechrau am flwyddyn arall, ac roedd hyn yn golygu fy mod i’n gallu gorffen fy ngwaith fel paragyfreithiwr ac yna dreulio blwyddyn yn teithio cyn imi ddechrau’r rhaglen hyfforddi.
Roedd fy hyfforddiant yn parhau am ddwy flynedd, a threuliais amser mewn pedair adran wahanol yn Foot Anstey gan weithio mewn pedair o swyddfeydd y cwmni yn ne-orllewin Lloegr. Cymhwysais i’n gyfreithiwr ym mis Medi 2016 ac roeddwn i’n ddigon ffodus o gael swydd wedi’i chlustnodi ar gyfer rhywun newydd ei gymhwyso yn fy newis swyddfa (Plymouth) ac yn fy newis arbenigedd (Esgeuluster Clinigol).
Beth sydd ynghlwm wrth eich rôl bresennol a sut roedd eich amser yn Abertawe wedi’ch paratoi ar gyfer hyn?
Yn amlwg, roedd fy ngradd israddedig yn y Gyfraith yn hynod o berthnasol i’m hyfforddiant diweddarach a’r daith i gymhwyso’n gyfreithiwr, ac mae’n bur debyg na fyddwn i yn fy rôl bresennol hebddi hi.
Fodd bynnag, ar wahân i’r berthynas amlwg rhwng astudio’r gyfraith yn ddamcaniaethol i’w rhoi hi wedyn ar waith yn ymarferol, roedd fy amser yn Abertawe wedi fy helpu i baratoi ar gyfer yr heriau ehangach sydd ynghlwm wrth fywyd ar ôl y brifysgol.
Rwy’n cofio’r cymorth a gefais ynghyd â’r holl agweddau eraill ar ddod o hyd i gyflogaeth ar ôl y brifysgol, a sut roedd hyn yn destun pwyslais penodol yn ystod fy ngradd israddedig. Cafwyd cyfleoedd hefyd y tu allan i’r ystafell ddarlithio, megis fy interniaeth yn yr India, a oedd yn rhoi’r cyfle i’r myfyrwyr ychwanegu rhywbeth at eu CV er mwyn eu helpu i ddenu sylw pobl eraill atyn nhw.
"...y rhan o’m gwaith sy’n rhoi’r boddhad mwyaf imi yw gweld yr hyn y mae setliad llwyddiannus yn ei olygu yn ogystal â gweld yr effaith y mae’n ei chael arnyn nhw a’u teuluoedd."
Yn eich barn chi beth yw’r elfen sy’n rhoi’r boddhad mwyaf ichi yn eich gwaith fel cyfreithiwr?
Rwy’n cynrychioli hawlwyr mewn hawliadau sy’n ymwneud ag Esgeuluster Clinigol. Felly rwy’n gweithredu ar ran cleifion, neu ar ran teuluoedd y cleifion (os yw’r claf wedi marw).
O ystyried yr hyn sydd ynghlwm wrth hawliadau esgeuluster clinigol, sydd yn aml yn anafiadau difrifol iawn sy’n newid bywydau, gall fod yn anodd gweld yr helyntion y bydd yn rhaid i’n cleientiaid ymgodymu â nhw. Fodd bynnag, y rhan o’m gwaith sy’n rhoi’r boddhad mwyaf imi yw gweld yr hyn y mae setliad llwyddiannus yn ei olygu yn ogystal â gweld yr effaith y mae’n ei chael arnyn nhw a’u teuluoedd. Mae’n rhywbeth na fyddech chi o reidrwydd yn cael gweld pe baech chi’n gweithio i fusnes neu gleient corfforaethol.
Allwch chi ddweud rhywbeth wrthon ni am eich achos mwyaf cofiadwy neu heriol hyd yn hyn?
Pan roeddwn i’n hyfforddi ac yn gweithio mewn meysydd gwahanol yn y gyfraith, deuthum i sylweddoli’n gyflym ei bod yn well gen i gynrychioli unigolion yn hytrach na chwmnïau ac endidau corfforaethol. Y cleientiaid eu hunain felly, yn hytrach na swm yr iawndal neu’r cymhlethdodau cyfreithiol, yw’r eiliadau mwyaf cofiadwy yn fy ngyrfa hyd yn hyn.
Rwy’n cofio un digwyddiad yn benodol, yn y cyfnod cyn y Coronafeirws, pan aethon ni gyda chleient a oedd wedi dioddef anaf i’w ymennydd, i weld tŷ a oedd ar werth. Roedd yn chwilfrydig am faint o le a oedd yn y groglofft. O ganlyniad i’w anaf roedd wedi mynd yn fwy byrbwyll ac aeth e rhagddo i fy nghodi gerfydd fy ngwasg imi gael cipolwg ar y groglofft er mwyn asesu faint o le a oedd ar gael. Gwnaeth e hyn oll heb rybudd, ond hoffwn i feddwl imi ymateb yn dda i’r sefyllfa a gwneud asesiad da ar ei gyfer. Serch hynny, dw i ddim yn meddwl iddo fe brynu’r tŷ yn y pendraw…
"...beth bynnag y byddwch chi’n ei wneud ar ôl gadael y brifysgol, canolbwyntiwch a byddwch yn benderfynol ac yn ddyfalbarhaus!"
Pa gyngor byddech chi’n ei roi i raddedigion newydd?
Haws dweud na gwneud, ond beth bynnag y byddwch chi’n ei wneud ar ôl gadael y brifysgol, canolbwyntiwch a byddwch yn benderfynol ac yn ddyfalbarhaus!
Dechreuais i gyflwyno ceisiadau ar gyfer contractau hyfforddi yn ystod fy ail flwyddyn yn y brifysgol, ond cymerodd bedair blynedd arall nes imi fod yn llwyddiannus. Roedd y broses honno wedi dysgu imi pa mor bwysig yw bod yn benderfynol (a pheidio â gadael i droeon trwstan eich llorio), bod yn ddyfalbarhaus (roedd fy nhri chais cyntaf i Foot Anstey yn rhai aflwyddiannus), a chanolbwyntio ar yr hyn rydych chi’n dewis ymroi iddo.
Pan ymadewais â’r brifysgol, roedd yr economi’n parhau i adfer yn araf yn sgîl yr argyfwng ariannol. Hwyrach bod yr amgylchiadau diweddar wedi bwrw’r cyfnod hwnnw, a oedd bryd hynny yn ymddangos yn sefyllfa anodd, i’r cysgod ond rwy’n credu bod fy nghyngor yr un mor berthnasol erbyn hyn, neu’n fwy perthnasol hyd yn oed.