BA Saesneg. Blwyddyn Graddio 1965. Academydd. Hanesydd Diwylliannol. Aelod Gorsedd y Beirdd.
Pam dewisoch chi astudio ym Mhrifysgol Abertawe a pham llenyddiaeth Saesneg?
Hap a damwain oedd dod i Abertawe. Anelu at Rydychen yr oeddwn, ond bu fy nhad farw'n annisgwyl iawn a finne ar drothwy lefel-A, a doedd fy mam ddim yn medru hawlio ceiniog o bensiwn. Felly, doeddwn i ddim am wastraffu blwyddyn ychwanegol yn yn y chweched. Hefyd fe chwalwyd mam yn seicolegol gan y sioc, a theimlais mai gorau oll fydde aros yn agos at adre. Fe fu ond y dim ifi ddewis gwneud Hanes ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Ron i'n ei chael hi'n haws o lawer trin y pwnc hwnnw na Saesneg, er i fi wneud llawn cystal yn y naill a'r llall. Doeddwn i ddim yn ffyddiog fod gen i ddawn yn Saesneg, ond fe wyddwn mai dyna'r pwnc agosaf at fy nghalon, ac felly fe fentrais ddewis hwnnw, gan dderbyn na fyddwn yn disgleirio.
Beth yw eich prif atgofion o fod yn fyfyriwr yn Abertawe?
Does gen i ddim atgofion llachar. Roedd fy ffrindiau i i gyd yn dal yn byw yn fy hen gynefin. Ond mae gen i gof clir am ambell aelod o staff. Bu'r ysgolheigion ifainc disglair Howard Erskine-Hill, a ddaeth i amlygrwydd yn ddiweddarach fel Athro ym Mhrifysgol Caergrawnt, a'r Americanwr George Dekker, a gafodd yrfa ddisglair yn Stanford, yn ysbrydoliaeth arbennig. Ac oni bai am anogaeth Rhys (R.R.) Davies, a aeth wedyn yn arbenigwr a enillodd bri cydwladol yn Rhydychen am ei waith ar Gymru'r Oesau Canol, rwy'n credu y gallwn fod wedi digalonni'n lan ar ddiwedd fy mlwyddyn gyntaf. Ac yna roedd cymeriadau fel Isabel Westcott, 'hen ferch' yn null Agatha Christie a fu'n aelod o'r Adran ers yr ugeiniau. Yn ystod y rhyfel, a'r cyrch awyr ar Abertawe, bu'n gofalu am y puteiniaid truain yn ardal y Strand. Ac yn fy nghyfnod i, arferai ddwyn hufen ia mewn tebot i'r stafell arholiadau, a'i gynnig fesul llwy de i'r myfyrwyr chwyslyd.
Beth yw eich atgofion o fod yn fyfyriwr Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe?
Fy mod i'n teimlo fy mod i wedI fy ynysu mewn môr mawr o Seisnigrwydd -- estron fyd: culture shock. Ond fe ges ymgeledd hefyd, gan fy mod yn medru dilyn cwrs Hanes yn y flwyddyn gyntaf a'r ail drwy gyfrwng y Gymraeg -- diolch i Rhys Davies yn yr achos cyntaf a John Davies (Bwlch-llan) yn yr ail.
"...mae'r Gymraeg bellach yn cael ei chydnabod a'i gwerthfawrogi, nad oedd yn wir yn fy nyddiau cynnar i."
Sut mae’r Brifysgol wedi newid ers eich cyfnod fel myfyriwr - ac yn ystod eich gyrfa hir yma?
Cwestiwn amhosib i'w ateb mewn ychydig eirIau.
Bu'r newidiau'n llawer rhy 'sgubol a lluosog -- a chwyldroadol -- i fi fanylu. O safbwynt y Celfyddydau a'r Dyniaethau nid 'prifysgol' mo'r sefydliad erbyn hyn ond corff hyfforddi sy'n cael ei redeg fel busnes gan ddosbarth newydd o reolwyr a gweinyddwyr. (Eilradd yw'r athrawon a'r ysgolheigion.) Fe all bron pobun erbyn bellach fynychu prifysgol, a thorfol yw'r dysgu.
Canran bitw, a hynod ddethol, o'r boblogaeth oedd yn mynychu prifysgol yn fy nghyfnod i -- dim ond 3,500 o fyfyrwyr oedd yma -- ac fe roedd y gofynion yn llym a'r cystadlu yn ddidostur ar hyd y daith, o'r 'eleven plus' ymlaen. Fe fu'n rhaid i fi sefyll arholiadau a fydde'n pennu fy ffawd ar ddiwedd pob blwyddyn y bûm i yn y coleg, ac adeg arholiadau gradd rhaid oedd eistedd un arholiad y dydd am deirawr am un diwrnod ar ddeg. Dim ond unwaith bob hanner dwsin o flynydde bydde myfyriwr/wraig yn cael Gradd Dosbarth Cyntaf. Un Athro (Professor) oedd mewn adran. Roedd dau neu dri yn cael cyfarfod a tiwtor. Ac yn y blaen ac yn y blaen...
Wrth gwrs, bu ambell i welliant hefyd. Mae'r darlithwyr yn gweithio llawer iawn caletach. Mae llai o snobyddiaeth -- er yn anffodus ar draul safonau. Mae mwy o werth ar ddysgu -- ond yswaeth gyda'r 'cwsmeriaid' (!) yn fwyfwy ddisgwyl cael y cyfan ar blat, sy'n lladd y cariad at lenyddiaeth yn syth. Ac mae'r Gymraeg bellach yn cael ei chydnabod a'i gwerthfawrogi, nad oedd yn wir yn fy nyddiau cynnar i.
Beth oedd eich rhesymau dros aros ymlaen yn Abertawe ar ôl graddio?
Cael fy mhenodi, a hynny'n cwbl annisgwyl, yn aelod o staff pan oeddwn i ond yn 21, ac ar ganol gwaith ar gyfer gradd uwch. Yna fe wnes ddewis aros am fod fy ngwreiddiau i yn ddwfn nid yn y coleg ond yn yr ardal leol.
Rydych chi’n awdur nifer fawr o gyfrolau ar ddwy lenyddiaeth Cymru a llenyddiaeth Americanaidd - pa un ydych chi fwyaf balch ohoni?
Wn i ddim ai 'balch' yw'r gair, a does gen i ddim un ffefryn. Ond mae gen i bedair sy'n arddangos rhywchwant fy ngwaith -- fe rydw i'n sgrifennu hanes diwylliannol yn ogystal a dehongliadau llenyddol (mae'n gas gen i'r term llipa 'beirniadaeth lenyddol') ac yn cwmpasu barddoniaeth y Taleithiau yn ogystal a dwy lenyddiaeth Cymru.
Felly: The Lunar Light of Whitman's Poetry (Harvard, 1987); CorrespondIng Cultures (Gwasg Prifysgol Cymru, 1997); In the Shadow of the Pulpit (Gwasg Prifysgol Cymru, 2010); R.S.Thomas: Serial Obsessive (Gwasg Prifysgol Cymru, 2013). Ond dwy yn unig a fydd yn fy ngoroesi i, a'r rheini i bob pwrpas gan awduron eraill -- Emyr Humphreys ac R.S.Thomas!
Rydych chi wedi dysgu cenhedlaethau o fyfyrwyr Abertawe erbyn hyn, pam mae darlithio yn rhoi boddhad i chi?
Roedd fy nhad a fy mam yn athrawon cynradd, roedd wncwl yn athro yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn yn Llanelli, a dau arall yn athrawon prifysgol! Ac eto, o wirfodd calon y dewisais i, a bod yn athro cymen oedd pennaf yn fy meddwl i o'r cychwyn, ac nid bod yn awdur. Y tristwch yw fod yr awydd angerddol hwnnw -- a'm cynhaliodd i bron ar hyd fy ngyrfa -- wedi pylu'n llwyr erbyn y diwedd, a hynny am fy mod i'n ei chael hi'n fwyfwy anodd i ennyn yr egni a'r brwdfrydedd eithafol sy bellach eu hangen er mwyn cyffroi diddordeb myfyrwr nad oes ganddyn nhw ronyn o ddiddordeb mewn testunau llenyddol.
Sut brofiad oedd derbyn eich OBE a chael eich urddo i Orsedd y Beirdd?
Mae'r OBE wedi bod yn embaras llwyr o'r dechrau. Es i ddim i'r palas i'w dderbyn, ac fy nau reswm dros dderbyn yn y lle cyntaf oedd fod ceredigion anhysbus wedi mynd i'r drafferth -- nid bach, fe wn -- i lunio enwebiad (heb i fi wybod, wrth gwrs) a'r gobaith y gallai fod o gymorth wrth gefnogi ceisiadau grantiau eraill a oedd, fel finne, yn gweithio ym maes ymylol diwylliannau Cymru. Fydda i byth yn arddel yr OBE ond yn y cyswllt hwnnw. Ond rwy'n ofni mai ofer fu fy ngobeithion.
Y gwrthwyneb yn llwyr oedd yr Orsedd. Fe ges fy enwebu gan fy hen ffrind annwyl Hywel Teifi Edwards, a hynny gyda golwg benodol ar fy urddo yn ei 'Eisteddfod ef,' sef Eisteddfod gofiadwy Llanelli, 2000. Felly mae'n dal yn anrhydedd yr ydw i'n ei werthfawrogi'n enbyd.
"Fe weddnewidiwyd fy ngyrfa pan y'm gwnaed yn Gymrawd yr Academi Brydeinig yn 1995 -- anrhydedd prin iawn, ac anrhydedd pennaf unrhyw ysgolhaig yn y Celfyddau a'r Dyniaethau."
Beth yw uchafbwynt eich gyrfa academaidd ( hyd yma!)
Cwestiwn anodd dros ben. Fe weddnewidiwyd fy ngyrfa pan y'm gwnaed yn Gymrawd yr Academi Brydeinig yn 1995 -- anrhydedd prin iawn, ac anrhydedd pennaf unrhyw ysgolhaig yn y Celfyddau a'r Dyniaethau. Hefyd bu fy nghyfnod fel Athro yn Harvard yn newid byd eithriadol gyffrous, ac yn hwb enfawr i'm hyder. Ac yna ces y fraint o fod yn un o'r llond dwrn a sefydlodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a'r fraint o fod yn Is-Lywydd cyntaf.