Ojonoka Agudah. Pennaeth Cyfreithiol a Chwaraeon Menywod yn Integral
Eiddo Deallusol ac Arloesi LLM, Dosbarth 2016
Goresgyn rhwystrau a hyrwyddo chwaraeon menywod
Mae'n bleser gennym gyflwyno Ojonoka, arbenigwr cyfreithiol ac eiriolwr dros chwaraeon menywod.Fel Pennaeth Cyfreithiol a Chwaraeon Menywod yn Integral, mae hi'n creu argraff yn y diwydiant. Darllenwch am ei thaith llawn ysbrydoliaeth ers graddio o Abertawe yn 2016.
Allwch chi ddweud ychydig wrthym ni am eich amser yn Abertawe?
Wrth astudio yn Abertawe, roeddwn i'n byw yn Nhŷ Beck, a oedd yn wych oherwydd bod llawer o'm cyd-fyfyrwyr o'r cwrs yn byw yno hefyd. Mwynheais i fy nosbarthiadau Eiddo Deallusol gydag Andrew Beale OBE yn fawr iawn. Rwyf yn ystyried bod fy nysgu gydag Andrew wedi cael dylanwad mawr ar fy ngyrfa gan ei fod ef wedi fy annog tuag at y llwybr hwn o Eiddo Deallusol ym maes chwaraeon.
Ces i gwrdd â phobl o ddiwylliannau a chefndiroedd gwahanol, a threuliais i amser gyda ffrindiau. Rwy'n dal i fod mewn cysylltiad â llawer ohonyn nhw ac wrth fod ym Mharis ychydig flynyddoedd yn ôl, ymwelais ag un o'm ffrindiau o'r brifysgol. Gan ein bod yn fyfyriwr ôl-raddedig, treulion ni lawer o amser yn y llyfrgell. Mae llawer o'm hatgofion gorau o Abertawe o'r llyfrgell gan mai dyna le roedd llawer o'm cyd-ddisgyblion, ac wrth edrych yn ôl, roedd llawer o eiliadau llawn hwyl rhwng ysgrifennu ein traethodau hir, ond os na fydde ni yn y llyfrgell roedden ni ar y traeth neu'n cwrdd yn fflat rhywun!
Hefyd, ces i gymryd rhan mewn rhaglen gyfnewid gyda 3 o'm cyd-ddisgyblion ym Mhrifysgol Nanjing yn Tsieina. Roedd hwnnw'n brofiad gwych a wnes ei fwynhau'n fawr. Dyfarnwyd Gwobr IP Cymru i mi hefyd am fod y myfyriwr gorau mewn modiwl rheoli asedau deallusol a thrafodion ac roeddwn i ar y trywydd iawn i orffen gyda rhagoriaeth, a daeth y wobr gyda rhaglen lleoliad gwaith fel cynorthwy-ydd ymchwil gydag Andrew Beale. Roedd hynny'n anhygoel, a daeth yn sydyn.
Mae Cinio blynyddol y Gyfraith yn atgof gwych hefyd. Roedd yn gyfle gwych i siarad â'r darlithwyr a'r athrawon mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar.
Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddilyn gyrfa mewn Cyfraith Chwaraeon?
Roeddwn i bob amser eisiau bod yn Gyfreithiwr. Cefais fy magu yn gwylio rhaglenni cyfraith fel Ally McBeal felly roeddwn i'n meddwl fy mod i eisiau bod yn gyfreithiwr ymgyfreitha. Yn yr holl raglenni byddech chi'n gweld cyfreithwyr yn y llysoedd ac roeddwn i'n meddwl mai dyna oedd hi. Wnes i erioed feddwl y byddwn i'n gwneud rhywbeth ym maes chwaraeon. Nid oedd cyfreithwyr chwaraeon yn arbennig o weladwy ar y pryd ac nid oeddwn i'n gweld unrhyw un a oedd yn edrych fel fi felly ni roddais lawer o feddwl iddo.
Andrew wnaeth i mi ddechrau meddwl am y gyfraith ym maes chwaraeon. Roedd yn gwybod bod cyfraith Eiddo Deallusol o ddiddordeb mawr i mi a rhoddodd hynny yng nghyd-destun yr economi wybodaeth, rôl arloesi a thrwyddedu ac yn enwedig sut roedd hynny i gyd yn berthnasol i chwaraeon. Mae ei addysgu wedi fy helpu i weld ble gallwn i gael effaith ym maes chwaraeon, er bod cyfraith chwaraeon yn faes eang ac rwyf wedi gorfod datblygu fy maes arbenigol i.
Sut fyddech chi'n esbonio eich swydd i rywun sy'n gwybod dim am y Gyfraith?
Fel arfer, cyfreithwyr chwaraeon yw'r bobl y tu ôl i'r llenni. Dydych chi ddim yn eu gweld, ond ni all unrhyw beth ddigwydd hebddyn nhw. Mae popeth a welwch yn seiliedig ar gontractau. Pan welwch chi logo Fly Emirates ar grys Arsenal er enghraifft, y cyfreithwyr sy'n cydlynu hynny i sicrhau bod pob parti'n cael hawliau sy'n fuddiol i'r ddwy ochr, bod pob parti'n cael ei hawliau contract a ddarperir. Neu pan fyddwch chi'n gwylio gêm ar y teledu, cyfreithwyr sydd wedi sicrhau bod y darlledwr sy'n dangos y gêm i chi yn meddu ar yr hawliau angenrheidiol i ddarlledu’r gêm honno i chi yn eich cartref. Er enghraifft, roedd gennyn ni'r hawliau cyfryngau darlledu am ddim ar gyfer yr Uwch-gynghrair yn Nigeria ychydig dymhorau yn ôl ac roeddwn i'n gyfrifol am sicrhau yn gyntaf fod telerau'r contractau yn ffafriol, ein bod ni'n defnyddio eiddo deallusol yr Uwch-gynghrair yn gywir mewn unrhyw gyfathrebu a oedd yn cael ei ledaenu, bod nifer y gemau y cytunwyd arnynt yn cael eu darparu, a mwy. Mewn ffordd, y Cyfreithiwr yw'r glud sy'n dal y strwythur busnes at ei gilydd.
Beth yw rhai o'r heriau mwyaf rydych chi wedi'u hwynebu fel cyfreithiwr ym maes Chwaraeon a Chwaraeon Menywod yn gyffredinol, a sut rydych chi wedi eu goresgyn?
Mae chwaraeon menywod yn Nigeria yn dal i ddatblygu. Mae llawer o weithwyr proffesiynol yn dod i’r maes chwaraeon ond mae'n dal i fod yn farchnad ifanc. Dyw pobl ddim yn deall rôl cyfreithwyr yn y maes hwn o hyd, nac yn gweld y gwerth y mae cyfreithwyr yn ei gynnig i chwaraeon. Hefyd, mae bod yn fenyw mewn diwydiant wedi'i ddominyddu gan ddynion yn her ynddi ei hun, oherwydd yn aml fi yw'r unig fenyw mewn ystafell sy'n llawn dynion. Mae cael pobl i ddeall y gwerth rwy'n ei gynnig yn her pan nad ydyn nhw'n gweld nac yn deall chwaraeon fel busnes.
Pan roeddwn i'n iau roeddwn i'n dwlu ar chwaraeon ac mae fy nghariad at chwaraeon yn trechu popeth, mae'n angerdd i mi felly hyd yn oed os na fyddem yn gweithio mewn maes sy'n gysylltiedig â chwaraeon, byddwn i'n dal i fod yn gwylio ac yn cymryd rhan rywsut, felly mae fy angerdd am chwaraeon a chariad at yr hyn rwy'n ei wneud yn fy nghadw i fynd. Rwy' hefyd yn gweld y pethau sy'n bosibl, y rôl y gallaf ei chwarae yn y diwydiant. Rydych chi hefyd yn cyrraedd pwynt lle rydych chi'n sylweddoli nad yw'n ymwneud â chi yn unig. Rwy'n gwybod bod llawer o ferched ifanc sy'n dwlu ar chwaraeon a allai gael gwybod bod chwaraeon ar gyfer dynion. Ond, os byddan nhw'n gweld bod rhywun fel fi neu fenywod eraill yn y maes hwn, mae'n bosib iddyn nhw freuddwydio am weithio mewn chwaraeon a'i bod hi'n naturiol iddyn nhw fod yn y maes hwn. Does dim o'i le ar fenywod yn caru, yn chwarae ac yn gweithio ym maes chwaraeon.
Sut rydych chi'n gweld maes cyfraith chwaraeon yn datblygu dros y 5-10 mlynedd nesaf? Yn enwedig o ran chwaraeon menywod?
Wrth i faes chwaraeon menywod barhau i dyfu, rwy'n credu ei bod hi’n dda bod cyfreithwyr yn gonglfaen o'r dechrau gyda chyfle i chwarae rhan wrth feithrin y maes hwnnw yn organig. Mae maes chwaraeon dynion yn enfawr ac mae cyfreithwyr yn gweithio mewn maes mwy sefydledig. Fodd bynnag, ym maes chwaraeon menywod, rwy'n credu bod cyfreithwyr yn cael cyfle i dyfu gyda nhw, i helpu i roi strwythurau ar waith ac osgoi'r camgymeriadau a wnaed ym maes chwaraeon dynion.
Hefyd, rwy'n credu bod chwaraeon mewn man lle mae angen cyfreithwyr arnynt yn fwy nag erioed ac nid bob amser yn llym yn yr ystyr gyfreithiol, ond gallan nhw helpu gyda'r strwythurau masnachol a chyfreithiol i gynnal tryloywder a fydd yn hanfodol i lywodraethu a thwf masnachol dros y 5 i 10 mlynedd nesaf. Yn y rhan fwyaf o sefydliadau chwaraeon rhyngwladol a hyd yn oed ffederasiynau er enghraifft, mae'n ymddangos eich bod yn canfod bod y bobl sydd wrth y llyw o ran hawliau masnachol neu hawliau'r cyfryngau yn aml yn gyfreithwyr drwy hyfforddiant ac mewn swyddi fel y rhain rwy'n credu bod deall ochr fasnachol ac ochr busnes chwaraeon, ochr yn ochr â gwybodaeth gyfreithiol, yn hanfodol iawn.
Beth yw wythnos nodweddiadol yn eich swydd chi?
Does dim dau ddiwrnod yr un peth. Y rhan fwyaf o'r amser, gall fod yn anrhagweladwy ac yn brysur iawn. Mae llawer o waith adolygu contract neu lunio contractau. Gallwn i fod mewn trafodaethau negodi â chleientiaid a chan ein bod yn gwmni marchnata a rheoli chwaraeon gwasanaeth cyflawn, gallwn i hefyd fod yn delio ag athletwyr yn trafod contractau neu’n gweithio ar ymgyrchoedd marchnata brandiau i gyd ar yr un pryd. Gallwn i hefyd fod i ffwrdd o'm desg llawer yn gweithio gyda chydweithwyr ar actifadu cleientiaid neu hyd yn oed yn sgowtio am chwaraewyr.
Un enghraifft o brosiect cofiadwy efallai oedd pan roedden ni'n gweithio ar Gwpan Menywod y Byd FIFA yn Ffrainc yn 2019. Fe'n penodwyd yn unig asiant gwerthu ar gyfer lletygarwch gemau yn Nigeria ar gyfer Rhaglen Lletygarwch Swyddogol Cwpan Menywod y Byd FIFA Ffrainc 2019. Dyma'r tro cyntaf y penodwyd asiant yn Nigeria ar gyfer Rhaglen Lletygarwch Swyddogol Cwpan Menywod y Byd FIFA ac roedd yn teimlo'n dda i fod yn chwarae ein rhan fach wrth hyrwyddo pêl-droed menywod yn Nigeria. Roedd mynd â chefnogwyr o Nigeria i wylio a chefnogi'r Nigeria Super Falcons yn Ffrainc a mwynhau profiad arbennig i gefnogwyr yn foment wych. Gwyliodd mwy o bobl Gwpan Menywod y Byd yn Ffrainc yn 2019 na'r Superbowl felly roedd yn wych gallu cyfrannu at dwf gêm y menywod ar raddfa fyd-eang. Roedd yn wych gweld pobl o Nigeria ac ar draws y byd yn teithio y tu allan i'w gwlad eu hunain i wylio chwaraeon menywod.
Beth yn eich barn chi yw’r her fwyaf ym maes chwaraeon menywod heddiw, a pha rôl gall y gyfraith ei chwarae wrth fynd i'r afael â hynny?
I mi, byddwn i'n dweud y diffyg buddsoddiad a ysgogir gan y canfyddiad nad oes neb yn gwylio chwaraeon menywod.
Fodd bynnag, edrychwch ar March Madness 2023 pêl-fasged menywod yn yr UD. Denodd gyfartaledd o 9.9 miliwn o wylwyr ar gyfer pob gêm. Gellir cymharu hynny â gemau'r NBA, a dyna bêl-fasged menywod y colegau yn unig. Hefyd, mae cynulleidfaoedd ar gyfer cynghrair pencampwyr y menywod yn tyfu'n gyson, a gêm derfynol Pencampwriaeth Agored Menywod Awstralia 2023 oedd y gêm gyda'r nifer uchaf o wylwyr.
Felly, nid yw'n wir nad oes neb yn gwylio chwaraeon menywod. Mae pobl yn gwylio, yn enwedig pan fydd yn hawdd ei wylio a mynd i gemau, ond y canfyddiad yw na fydd yn denu cymaint o adenillion ar fuddsoddiad. Ond er mwyn cael adenillion ar fuddsoddiad, mae angen buddsoddi ac, wrth reswm, yn gyntaf mae'n rhaid bod y cynnyrch yn un y gellir ei farchnata, sef cyfrifoldeb deiliad yr hawliau.
Gall y rôl y gall cyfreithwyr ei chwarae yn yr achos hwn, ac mae'n debyg i'r hyn rwy'n ei wneud yn gyffredinol o ran cyfraith eiddo deallusol wrth helpu'n rhagweithiol i adeiladu eiddo masnachol, o gofrestru'r hawliau IP (nodau masnach, hawlfreintiau ac ati), i becynnu a rheoli'r hawliau masnachol, hawliau cyfryngau, nawdd, trwyddedu etc a all helpu i wneud chwaraeon menywod yn eiddo gwerthadwy ac yna feithrin brandiau athletwyr benywaidd, gan eu gwneud yn enwau cyfarwydd cymaint â'u cymheiriaid gwrywaidd. Mae'r rhain i gyd yn gofyn am gyfranogiad gan bob rhanddeiliad yn y busnes a bod yn onest. Rwy' wrth fy modd â'r hyn a wnaeth Nike gyda'u hymgyrch Dream Crazier. Gwnaethon nhw roi menywod wrth wraidd yr ymgyrch, gan herio stereoteipiau. Mae'r Guardian a'r BBC bellach yn neilltuo amser i chwaraeon menywod, maen nhw'n eu gwneud yn hygyrch, felly mae pobl yn eu gwylio ac yn eu gweld pan fyddan nhw'n agor eu papur newydd. Mae'r pethau hyn yn helpu i ail-fframio chwaraeon menywod. Gyda'r gemau yn fwy hygyrch a'r cyfryngau'n chwarae eu rhan i sicrhau gwelededd, bydd buddsoddiad yn dilyn ac os byddwn ni gyd yn gweithio gyda'n gilydd, gallwn wneud newid.
"Rwy' wrth fy modd â'r hyn a wnaeth Nike gyda'u hymgyrch Dream Crazier. Gwnaethon nhw roi menywod wrth wraidd yr ymgyrch, gan herio stereoteipiau."
Sut byddech chi'n mynd ati i eirioli dros hawliau menywod a chydraddoldeb rhwng y rhywiau yn eich gwaith fel cyfreithiwr?
Ie, mae angen cydbwyso. Ond ar ddiwedd y dydd, hyd yn oed drwy fod yn fenyw fy hun, mewn lle gyda'r dynion, bod mewn sefyllfa lle gallwch chi gynnig barn amrywiol, gallwch chi wneud gwahaniaeth.
Pan rydych chi'n fenyw sy'n deall mai dyma beth rydw i'n ei brofi fel menyw, felly dyma beth mae'r athletwyr benywaidd yn ei brofi, mae'n haws gallu eirioli dros yr hawliau hynny. Mae'n haws gallu gweld bod yr hawliau mamolaeth hynny, er enghraifft, yn bwysig wrth greu diwylliant sy'n galluogi athletwyr benywaidd i ffynnu. Ydyn ni'n ei gwneud hi'n hawdd i fenywod ddod yn ôl ar ôl genedigaeth? Gwelodd bawb Serena Williams yn dod yn ôl ac ennill Camp Lawn ar ôl rhoi genedigaeth a dyma beth dylen ni fod yn ei alluogi. Felly, fel menywod, weithiau nid yw hyd yn oed yn golygu bod yn eiriolwr bwriadol o reidrwydd, ond gallu rhoi barn amrywiol mewn mannau sy'n cael eu dominyddu gan ddynion i raddau helaeth. Weithiau, o ran dod ag anghydraddoldeb i'r amlwg neu dynnu sylw at hynny, gall y problemau y mae menywod yn eu hwynebu wneud gwahaniaeth.
Pa gyngor sydd gennych chi ar gyfer menywod ifanc sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y gyfraith neu ym maes cyfraith chwaraeon?
Yn gyntaf oll, mae angen gwybod ei bod hi’n berffaith iawn eisiau gweithio mewn chwaraeon. Ac yn bersonol, i mi, rwy'n credu yr hyn sydd wedi fy helpu i oresgyn yr heriau o fod mewn maes sy'n cael ei ddominyddu gan ddynion, yw bod angen i chi ddeall yn llawn y maes rydych chi'n gweithio ynddo. Mae angen i chi fod yn gyfredol â'r hyn sy'n digwydd yn eich maes, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n wybodus ac yn meithrin eich arbenigedd.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gweithio'n galed, felly pan fyddwch chi'n dod i'r maes, hyd yn oed os mai chi yw'r unig fenyw, os ydych chi'n gwybod beth rydych chi'n ei wneud, yn gwybod am beth rydych chi'n siarad, bydd pobl yn gwrando. Felly, mae'n bwysig bod yn wybodus. Mae'n bwysig darllen yn eang fel y gallwch chi fod ar ben yr hyn sy'n digwydd yn y diwydiant, a deall yn iawn y diwydiant a'r busnes rydych chi ynddo, yn enwedig pan fyddwch chi'n gwnselydd mewnol.
O ran eirioli dros rywedd a chydraddoldeb yn y maes, rhaid i chi gofio bob amser, cyn belled â'ch bod yn y maes hwnnw, eich bod chi'n gynrychiolydd, nid yn unig ar gyfer merched ifanc. I mi, rwy'n credu bod y gynrychiolaeth hyd yn oed yn fwy i fechgyn ifanc weld ei bod hi'n normal cael cyfreithiwr sy'n fenyw. Mae'n normal cael hyfforddwr sy'n fenyw. Hefyd, nid yw cynrychiolaeth yn golygu eich bod chi'n rhoi unrhyw bwysau arnoch chi'ch hun i wneud rhywbeth anghyffredin, ond mae bod yn y maes hwnnw bob dydd yn golygu eich bod chi'n cynrychioli cydraddoldeb.