Wrth galon bywyd myfyrwyr ar y campws, mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin yn da

Gan ddathlu deugain mlynedd o ddifyrru a swyno ymwelwyr, mae Taliesin yn parhau i gyflwyno rhaglen o berfformiadau o safon fyd-eang, gan gynnwys talent o Gymru ochr yn ochr ag artistiaid rhyngwladol.  Yn cynnig y gorau mewn theatr, cerddoriaeth, dawns a ffilm – gan ysbrydoli a rhyfeddu myfyrwyr, staff ac ymwelwyr.

Mae rhaglen ymgysylltu Taliesin yn falch o fod â myfyrwyr a phobl ifanc yn ganolog iddi, gan feithrin ein cymunedau dawnus ac angerddol ar y campws, ac o fewn y rhanbarth. Mae rhaglen gyfranogol o gerddoriaeth, sgyrsiau, gwyliau, gweithdai ac arddangosfeydd yn darparu cyfleoedd unigryw ac ystyrlon.

Rydym yn llawn syniadau newydd ar gyfer y deugain mlynedd nesaf, gyda chynlluniau a fydd yn gwneud Canolfan y Celfyddydau Taliesin yn gonglfaen ddiwylliannol i’r ddinas, a byddem wrth ein bodd petaech yn ymuno â ni i gefnogi cyfleoedd creadigol i’r genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr, pobl ifanc, a chymuned Abertawe.

Cefnogwch ein gwaith trwy gyfrannu yma: https://taliesinartscentre.ticketsolve.com/ticketbooth/products/donation

I barhau i fwynhau rhaglen fywiog Taliesin, cofrestrwch i dderbyn y cylchlythyr rhad ac am ddim: taliesinartscentre.co.uk/cy/