Liam Chivers. Sylfaenydd a rheolwr gyfarwyddwr OP Talent
BSc Seicoleg. Dosbarth 1997
Liam Chivers yw sylfaenydd a rheolwr gyfarwyddwr OP Talent. Sefydlwyd OP Talent yn 2012, a dyma'r cwmni rheolwyr YouTube cyntaf a'r mwyaf blaenllaw yn y DU. Dilynodd Liam gwrs mewn Seicoleg yn Abertawe rhwng 1994 a 1997.
Fe wnaeth Liam gwrdd â'i wraig, April ym Mhrifysgol Abertawe hefyd. Roedd April yn dilyn cwrs mewn Hanes a Saesneg. Maen nhw'n byw gyda'i gilydd yn Swydd Nottingham ac mae ganddyn nhw ddau o blant.
Wnaethoch chi fwynhau eich amser yn Abertawe?
Mae fy nhad yn hanner Cymro a chafodd ei eni yn ysbyty Treforys, felly rydw i bob amser wedi cael y cysylltiad hwnnw â Chymru. Mae gen i atgofion da o'r campws, roedd rhywbeth yn digwydd trwy'r amser ac roedd digon o bethau i'w gwneud. Flynyddoedd yn ddiweddarach, symudais i ac April i Ffordd y Bryn. Mae gen i lawer iawn o atgofion gwych o'r cyfnod hwnnw.
Gadewch i ni ddechrau o'r dechrau. Beth yw dylanwadwr?
Dylanwadwr yw rhywun sydd â'r pŵer i effeithio ar farn pobl eraill oherwydd ei awdurdod, ei wybodaeth, ei safle neu ei berthynas â'i gynulleidfa. Gall rhywun sydd â llawer o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol mewn cyd-destun neu faes diddordeb penodol ddylanwadu ar y bobl sy'n ei ddilyn.
Er ein bod ni'n rheolwyr ar ddylanwadwyr a dyna rydyn ni'n ei wneud fel cwmni, dydw i ddim yn eu galw nhw'n ddylanwadwyr, mae hwnnw'n derm eithaf diweddar y mae'r cyfryngau wedi'i fathu yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Rydw i wedi eu galw nhw'n grewyr ar hyd yr amser oherwydd dyna be ydyn nhw yn y bôn. Eu cynnwys a'u creadigaethau sy'n eu harwain at fod yn ddylanwadol. Rwy'n credu y gallai rhai pobl ddweud, 'Rydw i eisiau bod yn ddylanwadwr', ond dros y deng mlynedd diwethaf, dyw hynny ddim wedi bod yn digwydd. Roedd y doniau bob amser yn dymuno bod naill ai'n grewyr neu'n weithwyr YouTube. Doedden nhw ddim yn dymuno bod yn ddylanwadwyr. Yn anochel, mae pobl yn edrych i fyny at ddylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol i'w harwain gyda'u penderfyniadau eu hunain, wrth i bobl ymgysylltu â nhw. Y rheswm y mae dylanwadwyr yn dod yn ddylanwadwyr yw oherwydd y gall y rhan fwyaf o bobl sy'n eu gwylio uniaethu â nhw. Mae'n eithaf hawdd uniaethu â nhw o gymharu â seleb traddodiadol, sy'n eithaf anghyraeddadwy ac anhygyrch oherwydd does ganddyn nhw ddim mynediad cyfryngau cymdeithasol yn yr un modd ag sydd gan y prif YouTubers. Mae dylanwadwyr ar y cyfryngau cymdeithasol yn bobl sydd wedi adeiladu enw da am eu gwybodaeth neu arbenigedd mewn pwnc penodol. Maen nhw'n creu dilyniant mawr o bobl frwdfrydig, sy'n ymgysylltu ac sy'n talu sylw agos i'w barn.
Beth yw'r heriau mwyaf sy'n eich wynebu wrth reoli dylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol?
Dechreuodd OP Talent yn swyddogol yn 2012. Yn y dechrau, yr her fwyaf oedd addysgu brandiau ynghylch sut i weithio gyda dylanwadwyr. Yn amlwg, rydyn ni'n dymuno gwneud arian allan o'r cynnwys, adeiladu gyrfaoedd a tharo bargeinion ariannol ar gyfer ein dylanwadwyr trwy alluogi brandiau i gael mynediad i'w dilynwyr a'u dylanwad. Fodd bynnag, weithiau mae brandiau'n eu hystyried fel sianel hysbysebu arall, gan ddweud, 'Ymgyrch hysbysebu yw hon, rydyn ni eisiau miliynau lawer o bobl yn gwylio ac ati', ond dyw e ddim yn gweithio felly.
Mae sicrhau bod llais ac arddull arferol y crewyr yn cael ei gyfleu yn hanfodol. Mae cynnal y cysondeb hwn yn cael effaith ar berfformiad y cynnwys a llwyddiant yr ymgyrch, yn ogystal ag enw da'r dylanwadwr.
Mae angen i frandiau ymddiried yn y dylanwadwyr gyda'u henw da felly mae cael ymddiriedaeth a dealltwriaeth gan y naill a'r llall yn hollbwysig.
Y nod yw rhannu neges y brand gan warchod enw da'r crëwr yr un pryd. Rydyn ni'n sicrhau bod gofynion y brand yn gweddu i gynnwys y crewyr. Yn y pen draw, maen nhw'n greawdwyr yn gyntaf, ac yn ddylanwadwyr yn ail.
Rydyn ni'n cydweithio â nifer o frandiau, asiantaethau a chwmnïau adloniant bob dydd. Rydyn ni'n gwrthod canran uchel o fargeinion, fel arfer os dydyn nhw ddim yn cyd-fynd ag unrhyw un o'n crewyr. Yr her yw sicrhau bod y brand a'r crëwr yn cydweithio'n effeithiol a'u bod yn hapus gyda'r canlyniad. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae brandiau'n gwella yn eu gwaith gyda chrewyr, gan fod yn agored i awgrymiadau newydd ynghylch cynnwys a hyrwyddo eu brand.
Mae pob dylanwadwr yn wahanol. Er enghraifft, fe wnaethom ni reoli KSI am ddeng mlynedd. Roedd eisiau mynd i'r maes bocsio, felly roedd yn rhaid i ni greu diwydiant newydd sef dylanwadwyr yn y gamp bocsio. Aethon ni â'r bocsio i'r brif ffrwd gyda darlledwr chwaraeon mawr, felly doedd e ddim bellach ar YouTube. Yna roedd eisiau mynd i mewn i'r diwydiant cerddoriaeth
Ali A, y gemiwr mwyaf un, a rhywun rydyn ni'n ei reoli'n gyfan gwbl, oedd y person cyntaf un i ni roi cytundeb iddo yn ôl yn 2012, tua phythefnos cyn KSI. Mae wedi rhoi cynnig ar wahanol bethau, ond yr unig beth mae o am ei wneud yw bod yn gemiwr YouTube. Mae wedi cynnal sioeau teledu, wedi ysgrifennu ei lyfrau ei hun, wedi mynd ar deithiau bach. Mae'n ymwneud â “phwy rydyn ni am ei gael fel partner proffesiynol?” ac mae'n rhaid i ni ddysgu'r diwydiannau hyn ein hunain er mwyn gwarchod y crewyr hyn. Os oes rhywun yn dweud, “Dwi eisiau bod yn gerddor”, yna mae'n rhaid i chi ymchwilio i'r maes hwnnw ac alinio â'r bobl orau yn y gofod hwnnw. Mae'r un peth yn wir am y cwmnïau teithio a'r bocsio “Pwy yw'r darlledwyr gorau, pwy sydd yn mynd i wneud y gwaith cynhyrchu?” Rydych chi'n ymdopi â llawer o bethau yr un pryd ac yn dysgu yn y fan a'r lle y rhan fwyaf o'r amser, yn dysgu am y diwydiannau o'r dechrau, oherwydd mae llawer o'r pethau rydyn ni wedi'u gwneud fel dylanwadwyr bocsio wedi'u hadeiladu o ddim byd yn llythrennol, i'r diwydiant fel y mae heddiw.
Y peth i'w gofio bob amser yw'r ffaith bod angen i ni fod yn gwarchod buddiannau gorau'r dalent o ran yr amser, yr arian, y rhwymedigaethau a'r contractau. Dyma'r heriau mwyaf.
Sut ydych chi'n adnabod a dewis y dylanwadwr cywir ar gyfer brand neu ymgyrch?
Mae gennym ni restr o ddoniau sydd â chytundeb ac rydyn ni'n ceisio eu paru nhw ag ymgyrchoedd yn y lle cyntaf. Rydyn ni'n cydweithio â llawer o grewyr hefyd sydd heb gytundeb, ac rydyn ni'n onest iawn am hynny gyda'r brandiau. Os oes prosiect sydd ddim yn gweddu i unrhyw un o'r crewyr sydd â chytundeb â ni, byddwn ni'n helpu'r brandiau i adnabod y crewyr gorau sydd heb gytundeb a'u helpu i gydweithio â nhw. Fodd bynnag, o fewn ein rhestr OP, fe fyddwn i'n dweud ein bod ni'n gallu darparu ar gyfer 99% o'r meysydd o ran cynnwys a pharu demograffeg. Fodd bynnag, weithiau efallai does gan y crëwr ddim diddordeb mewn brand neu ymgyrch benodol, neu ni fyddai ei gynulleidfa’n cael ei denu o reidrwydd. Os na allwn ni baru crëwr â brand yn gywir, yna wrth gwrs mae angen parhau i chwilio mewn mannau eraill neu wrthod yr ymgyrch yn gyfan gwbl. Mae paru crewyr â brandiau yn ymwneud yn gyfan gwbl â demograffeg a diddordebau. A dyna mae OP yn gallu’i wneud. Mae angen i ni ystyried cyllidebau'r brand neu'r ymgyrch hefyd. Dydyn ni ddim yn mynd i wastraffu wythnosau o drafodaethau ar grewyr mawr sydd eisoes â gwahanol ffrydiau refeniw a phrosiectau eraill ar y gweill. Os yw'r gyllideb yn fwy addas i grëwr llai neu i rywun a allai roi ychydig mwy o sylw iddi, yna dyna'r cyfeiriad y byddwn ni'n mynd iddo. Mae amseru’n bwysig hefyd. Er enghraifft, weithiau mae crewyr yn dweud “y peth yw, dwi wedi cael digon o wneud fideos wythnos yma, neu dwi eisiau mynd ar wyliau, neu mae hyn a hyn wedi'i drefnu”. Dyw'r amseru ddim yn iawn bob amser. Yn y pen draw, y dylanwadwr cywir ar gyfer brand yw rhywun sy'n gallu dod o hyd i'r cynnwys cywir, cyd-fynd â'r brand, gan lwyddo i gadw negeseuon y brand heb i hynny effeithio'n andwyol ar y cynnwys.
Felly, o safbwynt masnachol, mae dylanwadwyr yn arwain y ffasiwn, ond a ydych chi'n eu gweld mewn rôl amlwg o ran hyrwyddo cyrff a safbwyntiau amrywiol?
Ydyn, yn y pen draw, gallech chi alw dylanwadwr neu'r crewyr mawr, yn fwyhawyr. Dyna maen nhw'n ei wneud, a dyna yw hanfod 'dylanwad'. Maen nhw'n mwyhau negeseuon am eu barn neu bwnc penodol. Gallan nhw gefnogi neu wrthwynebu unrhyw beth y maen nhw'n ei gredu neu'n ei wrthwynebu. Dim ond ar bwnc y maen nhw'n ei adnabod yn eithriadol o dda neu gystal ag unrhyw un arall y bydd crewyr neu y dylai crewyr wneud sylwadau ar ymgyrch brand neu ei hyrwyddo. Fel arall, mae angen osgoi datganiadau ysgubol mawr am agendâu gwleidyddol, rhyfeloedd neu yn wir unrhyw agweddau ar fywyd. Mae'r dylanwadwyr mwy yn ymwybodol iawn bod y llais a’r pŵer hwn ganddyn nhw, ac fe allen nhw beri casineb i rywun pe baen nhw'n dweud rhywbeth negyddol, neu fe allen nhw ennyn llif negyddol o safbwyntiau tuag at frand neu ymgyrch os ydyn nhw'n dweud y peth anghywir.
Gall dylanwadwyr sbarduno mudiadau cymdeithasol ac ymgyrchoedd. Ydych chi'n gweld mwy o rôl iddyn nhw yn y maes hwn?
Dim ond y rhai sydd â gafael cryf ar y cyfrwng, diddordeb, neu farn a dealltwriaeth glir. Fel arall, allan nhw ddim rhoi sylwadau na rhoi barn heb gyd-destun a gwerthfawrogiad llawn o'r maes y maen nhw'n gwneud sylwadau arno. Fe allan nhw gael eu 'canslo' yn hawdd neu dderbyn adborth negyddol eu hunain, gan niweidio eu brand eu hunain os ydyn nhw'n siarad yn ofer heb ddealltwriaeth lwyr. Mae'n hawdd i chi godi ymwybyddiaeth o bwnc, gallwch chi dynnu sylw at drafodaeth ar rywbeth penodol, ond heb roi eich casgliad eich hun arno o reidrwydd. Gall dylanwadwyr ddechrau trafodaethau a mwyhau'r lleisiau.
A oes unrhyw ystyriaethau moesegol rydych chi'n eu hystyried wrth gydweithio â dylanwadwyr?
Oes, yn bendant! Mae'n rhaid i chi fod yn ymwybodol y gall pethau ddod yn ôl i'r brand a'r elfen hyrwyddo. Mae wedi bod yn bosibl gwneud llawer o arian dros y blynyddoedd diwethaf mewn rhai meysydd sydd ddim yn ddiogel nac yn gredadwy o reidrwydd. Er enghraifft, cryptoarian, masnachu forex, neu NFTs. Mae yna gwmnïau a phobl sy'n ceisio talu llawer o arian i grewyr i hyrwyddo eu darnau arian crypto neu eu NFTs, ac fe wnaeth llawer o ddylanwadwyr fachu’r cyfle hwnnw. Fodd bynnag, ni wnaeth yr un o'n rhai ni heb fynd yn agos at y bargeinion hynny a bydden nhw byth yn eu hystyried. Fydden nhw ddim yn mynd yn agos atyn nhw oherwydd allan nhw ddim bod yn sicr pan fyddan nhw'n sôn am fasnachu neu unrhyw beth ariannol y bydd yn llwyddiant neu beidio. Nid dyna eu maes arbenigedd nhw. Wnaethon nhw ddim gwneud yr NFT. Dydyn nhw ddim yn ymwneud â chryptoarian eu hunain. Nid masnachwyr ydyn nhw, dydyn nhw ddim yn arbenigwyr ar forex. Cafodd sawl YouTuber eu 'canslo', am hyrwyddo crypto penodol ac ymgyrchoedd eraill roedden nhw'n credu a allai lwyddo. Roedd y ffi yn dda, roedd yn swnio'n eithaf cŵl, ac fe wnaethon nhw ei hyrwyddo. Fe gymeron nhw lawer o arian ac yna methodd y pethau hynny, a chollodd eu cefnogwyr arian, gan ganslo'r person a'i hyrwyddodd yn y lle cyntaf. Felly eto, mae'n fater o'r hyn sy'n cyd-fynd â diddordebau a phrofiad y crëwr ac osgoi rhoi cyngor gwael i gefnogwyr a dilynwyr y mae'n hawdd gwneud argraff arnyn nhw. Dyma pam rydyn ni'n gwrthod gweithio gyda crypto, Forex ac NFTs a'u hyrwyddo oherwydd, fel cwmni rheoli, does gennym ni ddim profiad ynddyn nhw a does gan y rhan fwyaf o grewyr ddim chwaith oni bai eu bod yn arbenigwr mewn crypto arbenigol, arbenigwr NFT neu arbenigwr masnachu forex. Mae'n iawn i'r bobl hynny adolygu pethau felly oherwydd bod y ddealltwriaeth a'r wybodaeth ganddyn nhw. Nid diddanwyr cyffredinol eang sy'n enwau mawr gyda nifer aruthrol o ddilynwyr yw'r bobl iawn i hyrwyddo'r pethau hynny.
Sut ydych chi'n teimlo bod dylanwadwyr yn newid ein diwylliant?
Maen nhw wedi bod yn ei newid ers rhai blynyddoedd bellach. Rwyf wedi bod yn dweud wrth frandiau, cwmnïau adloniant a phlatfformau mai'r crewyr hyn yw prif ffrwd y byd modern. YouTube yw prif ffrwd y byd modern.
Pe byddech chi'n gwneud arolwg gyda myfyrwyr amrywiol cyn iddyn nhw fynd i'r brifysgol, yn gofyn iddyn nhw pa yrfaoedd y maen nhw'n dymuno eu cael, bydden nhw am fod yn feddyg. Bydd rhai yn dweud eu bod am fod yn bêl-droediwr, neu'n ofodwr. Y dyddiau hyn maen nhw'n dweud “Dwi eisiau bod yn YouTuber”. Felly, mae'n rhaid i chi ddweud mai YouTube yw'r brif ffrwd yn y byd sydd ohoni. Mae wedi newid diwylliant ac yn bennaf oherwydd bod y crewyr yn hygyrch i'w gwylio a'u dilyn bob amser. Does dim rhaid i chi aros am brynhawn Sadwrn i wylio David Beckham mewn gêm bêl-droed nac aros am y ffilm Tom Cruise nesaf ymhen chwe mis i'w weld yn y sinema. Mae'r YouTubers ymlaen trwy'r amser, maen nhw’n hygyrch bob amser, a dyna pam mae pobl yn uniaethu â nhw ac yn cael cysylltiad â nhw. Mae diwylliant wedi newid ac mae hynny oherwydd cyflymder a hygyrchedd cynnwys yr YouTubers mawr.
Beth yw rhai o'r tueddiadau sy'n dod i'r amlwg rydych chi'n eu gweld yn y maes marchnata dylanwadwyr, fel micro-ddylanwadwyr neu blatfformau penodol?
Mae yna chwiw ar hyn o bryd sy'n dweud y dylid buddsoddi arian yn y macro-ddylanwadwyr mawr, oherwydd ein bod ni am i filiynau o bobl wybod am ein brand neu ein hachos. Er bod gan facro-ddylanwadwyr apêl a chynulleidfa gyffredinol fwy, maen nhw'n costio mwy hefyd. Mae’r duedd ar hyn o bryd yn ffafrio dylanwadwyr mwy er mwyn ennill cydnabyddiaeth eang i frand, ond mae brandiau llai yn troi at ficro-ddylanwadwyr ar gyfer ymgyrchoedd sydd wedi'u teilwra i raddau mwy ac sydd o fewn eu cyllideb. Mae'r dull hwn yn golygu bod modd targedu'n fwy dethol ac mae'n gwneud yn siŵr bod yna ymgysylltu â darpar gwsmeriaid.
Rydyn ni'n gweithio gyda rhai dylanwadwyr llai mewn meysydd eithaf penodol sy'n denu'r cwmnïau sy'n gweithio yn y cylchoedd llai hynny.
Mae yna blatfformau bach y gall crewyr llai fynd arnynt a dod o hyd i noddwr neu bartner brand oherwydd eu bod ychydig yn fwy arbenigol. Ond yn y pen draw, o ran tueddiadau a marchnata dylanwadwyr, mae'r hysbysebwyr yn gwthio ychydig yn fwy i bob twll a chornel o YouTube a'r cyfryngau cymdeithasol i ddod o hyd i'r pocedi hynny o gwsmeriaid allweddol neu bobl a allai fod â diddordeb yn eu gwasanaeth.
Allwch chi roi enghreifftiau o sut mae talent OP wedi hwyluso cydweithio unigryw a digwyddiadau arloesol o fewn y gofod dylanwadwyr?
Mae'r maes dylanwadwyr bocsio yn enghraifft anhygoel o greu diwydiant unigryw. Byddwn i'n dweud mai'r digwyddiad enwocaf a phwysicaf yn y maes dylanwadwyr bocsio a grëwyd gennym ni oedd yr ail ornest KSI yn erbyn Logan Paul yn America. Fe wnaethon ni ei dynnu oddi ar YouTube a defnyddio darlledwr chwaraeon elitaidd am y tro cyntaf, ac fe wnaeth hynny agor drysau'r brif ffrwd i bobl fel KSI. Yn anuniongyrchol, er doedden ni ddim yn rheoli Logan Paul, yn sicr bu hynny'n sylfaen dda i'r ddau ohonyn nhw, i fynd ymlaen i wneud pethau eraill. Fe wnaethon ni drosglwyddo KSI i'w dîm cerddoriaeth oherwydd dyna roedd e am ei wneud. Fe wnes i'r lansiad cyntaf ar Amazon o raglen ddogfen gan un o'r crewyr mawr. Fe wnaethon ni'r rhaglen ddogfen ar KSI ar Amazon Prime, a hynny'n gyfan gwbl oherwydd bod yr ornest focsio wedi agor drysau. Ers hynny, rydyn ni wedi gwneud llawer o focsio, rydyn ni'n rheoli llawer o grewyr eraill sy'n ddylanwadwyr bocsio ac mae wedi bod yn llawer o hwyl. Yna fe wnaethon ni un o deithiau mwyaf y byd gan ddylanwadwr, gyda DanTDM, YouTuber Minecraft mawr. Roedden ni'n arfer rheoli Dan ac fe wnaeth daith fyd-eang, gan gynnwys y DU ac America. Aeth i Awstralia hyd yn oed ac fe wnaeth y tocynnau i'r sioe yn Nhŷ Opera Sydney werthu yn yr amser cyflymaf ond un erioed. Dim ond tocynnau Florence and The Machine yn y Tŷ Opera a werthodd yn gyflymach na hynny. Mae'r rhain yn enghreifftiau o niferoedd a ffigurau mai dim ond enwogion gorau'r gorffennol fyddai wedi gallu eu cyflawni ac mae'n dangos mai dylanwadwyr yw prif ffrwd newydd y byd modern.
Byddwn i'n dweud mai un o fy hoff brosiectau brand yn y dyddiau cynnar oedd helpu i gyd-lansio'r Porche Cayman gydag Ali-A. Byddai rhai yn meddwl ei fod yn frand fyddai ddim o fewn cyrraedd i ddylanwadwr YouTube 16 neu 17 oed weithio arno. Roedd yn rasio o amgylch dociau gyda dronau rasio yn ei erlid â laserau, gan geisio taro'r Porsche ddigon o weithiau cyn iddo gyrraedd llinell derfyn. Mae'r fideo cyfan yn gyflym iawn, ac mae'n amlwg yn cyrraedd y diwedd yn gyntaf ac yn trechu'r dronau, ond mae'n amlwg yn debyg i gemau. Roedd yn gydnaws iawn â chynnwys gemio Ali-A, roedd yn apelio'n fawr at ei gynulleidfa. Yna dywedodd pobl, “ond pam fyddai unrhyw un o gynulleidfa Ali-A, (sydd ag oedran cyfartalog rhwng 15 a 18 oed), yn gallu fforddio Porsche”. “Pam fyddai Porsche yn gwario arian ar Ali-A i helpu i lansio'r ymgyrch hon?” Wel, oherwydd ei fod, yn y pen draw yn ddarn o waith pwysig a dyheadol iawn. Pan o'n i'n blentyn roedd gen i bosteri o geir ar fy wal, roedd gen i Lamborghini. Drwy gael Ali i gydweithio â Porsche a Ferrari, maen nhw'n creu'r dyheadau hyn. Mae cael Ali i gydweithio â Porsche a dweud, “mae hwn yn frand cŵl dros ben, edrychwch arna i'n gweithio gyda nhw, gyda'r holl gynnwys cŵl yma”, mae'n diogelu dyfodol y brand hwnnw. Gyda demograffig enfawr o filiynau o bobl a fydd, ymhen ychydig flynyddoedd, yn gallu dewis rhwng Porsche neu ei gystadleuwyr, efallai y byddan nhw'n cofio hynny. Roedd y cynnwys yn wych ac fe wnaeth hynny helpu sianel Ali oherwydd ei fod wedi'i gynhyrchu'n dda, gyda gwerthoedd cynhyrchu uchel ac roedd yn gwbl gydnaws ag arddull Ali. Mae hwnnw'n un o'r astudiaethau achos arloesol cynnar hynny y gallwch chi wedyn eu dangos a'u rhannu ag unrhyw frand sy'n dweud, “pam ddylwn i weithio gyda'r dylanwadwr hwnnw?”, neu “gyda phwy y mae wedi cydweithio o'r blaen?” Mae wedi cydweithio a Porsche, sy'n frand haen uchaf. Mae’n astudiaeth achos ddefnyddiol i ddangos eu pŵer bob amser. Fe wnaeth Google adolygiad o'r ystadegau gyda Porsche ar yr ymgyrch ac ar y fideo, ac roedd yn fwy llwyddiannus nag unrhyw un o'u hysbysebion teledu ar yr un cynnyrch ar y pryd. Yna aeth Google a Porsche ar fideo i ddweud, “roedd hyn yn anhygoel oherwydd XYZ a dyma ein hymchwil sydd y tu ôl i hynny”. Rydych chi'n rhoi hynny gyda'r cynnwys a chynnwys cŵl Ali-A, a dyna chi. Mae hyn yn bwerus dros ben. Roedd yn ddatblygiad pendant iawn.
Ar gyfer darpar entrepreneuriaid ac unigolion sydd â diddordeb mewn ymuno â'r diwydiant dylanwadwyr, pa gyngor fyddech chi'n ei roi iddyn nhw ar sail eich profiadau a'ch dealltwriaeth eich hun o OP Talent?
Os ydych chi'n YouTuber neu'n rheolwr dylanwadwr, rhaid i chi fod yn driw i chi eich hun a'r crëwr. Y cynnwys sy'n dod gyntaf, dros unrhyw gytundebau ariannol. Os ydych chi'n cael cynnig gwobr ariannol gyflym ond dyw e ddim yn gydnaws, bydd y cefnogwyr yn gweld trwyddo. Yna bydd y crëwr a'r rheolwyr yn colli hygrededd yn gyflym iawn. Felly mae'r cynnwys yn allweddol. Byddwch yn gyson fel crëwr a chanolbwyntio bob amser ar ansawdd y cynnwys fel rheolwr bob amser. Mewn gwirionedd, mae yna nodweddion tebyg i unrhyw ddiwydiant. Etheg gwaith yw e.