Ysbryd cymunedol wrth wraidd popeth
Defnyddiwyd yr arian a roddwyd er mwyn cynorthwyo myfyrwyr o nifer o grwpiau gwahanol ag ystod eang o amgylchiadau unigol yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt y tu hwnt i’r hyn a gynigir fel arfer trwy ein dyraniad cronfa galedi.
Y nod cyffredinol oedd adnabod y myfyrwyr hynny a oedd yn fwy tebygol o brofi caledi ariannol sylweddol o ganlyniad i fregusrwydd blaenorol a oedd yn debygol o gael ei waethygu gan yr argyfwng iechyd cyhoeddus a’r cyfnod cyfyngiadau symud cysylltiedig.