Proffiliau Ymchwil Cynaliadwyedd

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cynnal ymchwil amlddisgyblaethol a thraws-ddisgyblaethol sy'n cyd-fynd â'n hymrwymiad i helpu i greu dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer ein cymuned a'r byd. Dengys y proffiliau canlynol yr ymrwymiad hwn yn ogystal ag amlygu cwmpas a gweledigaeth gwaith ein hacademyddion.

Mae gwaith ein hymchwilwyr yn cydweddu ag 17 Nod Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, gan gynnwys Iechyd Da a Lles (Nod 3); Ynni Fforddiadwy a Glân (Nod 7); Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy (Nod 11); a Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cadarn (Nod 16). Gellir dod o hyd i restr lawn o'r Nodau yma.