Ym mha gyfadran rydych chi'n gweithio?
Rwyf yn yr Ysgol Seicoleg yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd.
Beth yw'ch prif faes ymchwil?
Mae fy ymchwil yn archwilio'r berthynas rhwng lles dynol a chynaliadwyedd ecolegol. Rwyf yn ceisio canfod achosion penodol pan fydd y ddau beth hyn yn gydnaws â'i gilydd (sef cyflawni'r hyn rwyf yn cyfeirio ato fel 'lles cynaliadwy') neu achosion pan allent wrthdaro â'i gilydd. Hyd yn hyn mae'r gwaith hwn wedi cwmpasu amrywiaeth o bynciau gan gynnwys profiadau llif, ymwybyddiaeth ofalgar, gwerthoedd dynol (yn enwedig gwerthoedd materol), diwylliant defnyddwyr, cynhyrchiant, ymyriadau sy'n seiliedig ar fyd natur a newid ymddygiad er budd yr amgylchedd.
Pam mae'ch ymchwil yn bwysig?
Un o'r ffiniau sy'n gallu rhwystro unigolion ac aelwydydd rhag ceisio mabwysiadu ffyrdd o fyw mwy cynaliadwy yw'r canfyddiad y bydd angen iddynt aberthu rhywbeth er mwyn gweithredu mewn ffordd gynaliadwy. Mae pobl yn meddwl bod ffyrdd o fyw'n gynaliadwy'n galw am fwy o ymdrech a chost, neu hyd yn oed yn fwy pryderus, mae rhai’n meddwl y gall byw mewn ffordd gynaliadwy leihau eu hansawdd bywyd. Drwy fy ngwaith rwy'n ceisio dangos potensial byw'n gynaliadwy i wella lles, ac o ganlyniad i hyn, hyrwyddo gweithredu ar yr hinsawdd, gobeithio.
Pa un o'r nodau datblygu cynaliadwy y mae eich ymchwil yn cyd-fynd yn agosach ag ef?
Nod datblygu cynaliadwy 3 sef iechyd a lles da.
Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Rwy'n gobeithio newid y naratif ynghylch ffyrdd o fyw cynaliadwy, gan ei symud i ffwrdd o rywbeth sy'n gyffredin yn unig ymhlith y rhai hynny y mae'r amgylchedd yn bwysig iddynt ar ryw fath o draul iddynt hwy eu hunain, a thuag at rywbeth yr ystyrir ei fod o fudd gwirioneddol i bawb, waeth beth fo'u gwerthoedd amgylcheddol. Mae ymchwil yn nodi bod sawl nodwedd yn ein cymdeithasau defnyddwyr presennol yn niweidio ein lles yn ogystal â bod yn anghynaliadwy, felly mae angen i ni gefnogi newidiadau mewn ffyrdd o fyw gan ffafrio ffyrdd o fyw sy'n cefnogi pobl a'r blaned. Rwyf hefyd am annog ymchwilwyr gyrfa gynnar ac academyddion eraill i ystyried sut mae eu hymchwil yn gallu helpu i fynd i'r afael â heriau amgylcheddol. Am y rheswm hwn, sefydlais i Grŵp Ymchwil Lles Cynaliadwy fel hyb i ymchwilwyr sy'n ceisio cefnogi ffyrdd o fyw mwy buddiol a chynaliadwy.
A oes elfen draws-ddisgyblaethol i’ch ymchwil? Os felly, pwy arall yn y Brifysgol sy'n ymwneud â'r gwaith?
Oes, mae wedi bod yn fuddiol dros ben i mi gydweithio â chydweithwyr ar draws adrannau yn Abertawe. Cefnogwyd llawer o'r cydweithrediadau hyn gan brosiectau a ariannwyd drwy Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan – MASI. Er enghraifft, rwyf wedi bod yn gweithio gydag ymchwilwyr ym meysydd Iechyd y Cyhoedd a Gofal Iechyd a Chymdeithasol ar brosiect lle rydym yn defnyddio methodolegau celf i archwilio'r mathau o amgylchoedd sy'n cefnogi lles orau. Ar y cyd â chydweithwyr yng Nghyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol, rydym yn archwilio sut mae gwahanol fathau o naratif am yr hinsawdd yn gallu hyrwyddo gweithredu ar yr hinsawdd ar draws Gogledd y Byd a De'r Byd. Ac ar y cyd ag ymchwilwyr yn yr Ysgol Reolaeth, rydym wrthi’n profi'r ffactorau sy’n gallu dylanwadu ar y ffordd y mae pobl yn gwaredu eu gwastraff fferyllol yn eu cartrefi. Dyma rai enghreifftiau'n unig o brosiectau lle rydym yn gweithio mewn timau amlddisgyblaethol ar draws y Brifysgol.
A oes unrhyw gydweithredwyr allanol eraill yn ymwneud â'r gwaith?
Mae gweithio gyda chydweithredwyr allanol, yn enwedig y rhai hynny y tu allan i'r byd academaidd, wedi bod o gymorth mawr wrth ddatblygu fy ngwaith a meddwl am ei effaith bosib. Mae gan ein grŵp ymchwil bartneriaethau â byrddau iechyd lleol, sefydliadau cymunedol, elusennau a busnesau. Am nifer o flynyddoedd rwyf wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â chydweithredwyr ym Mhrifysgol Middlesex ar brosiect ar y cyd ag IKEA, lle rydym yn archwilio sut mae ei ymyriad Live Lagom yn gallu helpu i annog ffyrdd mwy cynaliadwy o fyw ymhlith ei gwsmeriaid. Ar y cyd â'r Athro Andrew Kemp a Dr Luke Jefferies mewn Seicoleg, rwyf yn datblygu corff o waith am y buddion amrywiol posib sy'n gysylltiedig ag ecotherapi ac i wneud hyn rydym yn gweithio gyda sawl sefydliad megis Cae Felin, menter cymorth amaethyddiaeth leol ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent. Y llynedd, gwnaethom gynnal Digwyddiad Pennu Agenda yma yn Abertawe ar y thema “Creu a Chyfleu Gweledigaethau Cadarnhaol o Ddyfodol Cynaliadwy”. Roedd cynrychiolwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru, Adnoddau Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru (ymhlith eraill) yn bresennol yn y digwyddiad a llwyddodd i feithrin syniadau newydd ynghylch sut y gallem gyfleu posibiliadau ar gyfer lles cynaliadwy.
Beth sydd nesaf o ran eich ymchwil?
Hoffwn dreulio mwy o amser yn archwilio'r cysyniad o lif, sef yr hyn y mae fy noethuriaeth a'm gwaith ôl-ddoethurol wedi canolbwyntio arno, ond rwyf wedi cael llai o amser i'w roi iddo ers i mi ddechrau fy narlithyddiaeth. Mae llif yn cyfeirio at gyflwr o drochi dwys mewn gweithgaredd ac rwyf yn ceisio cofnodi sut y gellir hwyluso hyn drwy weithredoedd mwy cynaliadwy, gan arwain yn y pen draw at berthnasoedd mwy adeiladol â'n hamgylchoedd. Rwyf hefyd eisiau ehangu ffocws fy ngwaith i gyd-destunau rhyngwladol. Ar hyn o bryd mae gennyf dipyn o ddata ar ffyrdd o gyflawni lles cynaliadwy gan bobl yn y DU a gwledydd Ewropeaidd eraill ond llai o data am farn pobl yn Ne'r Byd ynghylch yr hyn y mae ei angen arnynt i fyw'n dda ac i ba raddau mae hyn yn cyd-fynd â thargedau cynaliadwyedd. Rwyf wedi dechrau prosiect lle rydym yn gofyn i bobl ledled y byd ddisgrifio beth mae 'bywyd da' yn ei olygu iddynt ac yn gobeithio parhau i gofnodi canfyddiad posib o ran lles cynaliadwy ym mhedwar ban byd.