Ym mha gyfadran rydych chi’n gweithio?
Rwy'n gweithio ar draws dwy gyfadran, sef Meddygaeth, Iechyd a’r Gwyddorau Dynol a'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg.
Beth yw'ch prif faes ymchwil?
Hmm, dyw hi ddim yn hawdd ei ddiffinio!
Mae fy ngwaith yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys lles a grymuso oedolion hŷn. Roedd fy ymchwil gynharach, cyn fy ymchwil PhD a chan gynnwys yr ymchwil honno, yn canolbwyntio ar hybu iechyd, iechyd a llythrennedd dementia oedolion hŷn. Mae eu gwybodaeth nhw yn bwysig! (Rwy'n gweithio ar sail ran-amser yn y Ganolfan Ymchwil i Heneiddio a Dementia (CADR)
Hefyd, gwella mynediad at ynni'r haul (yn enwedig yn India ac Affrica - ac oddi ar y grid yn bennaf) a chynnwys cymunedau yn y modd y dylid cynnal hyn. Ystyried effaith ynni adnewyddadwy ar gymunedau a chroestoriad rhywedd, heneiddio, iechyd a newid yn yr hinsawdd (rwy'n gweithio gyda TEA at SUNRISE am hanner arall fy amser)
A'r rhan sy'n eu cysylltu: mae gen i ddiddordeb arbennig mewn sicrhau bod 'testunau'/buddiolwyr arfaethedig yr ymchwil yn rhan o'r broses. Felly, mae gen i ddiddordeb mewn defnyddio dulliau creadigol a chyfranogol a rôl cyfranogiad a chyd-gynhyrchu cymunedol mewn ymchwil yn gyffredinol.
Pam mae'ch ymchwil yn bwysig?
Mae fy ymchwil i ynni adnewyddadwy (ac felly newid yn yr hinsawdd) yn hollbwysig gan ei bod yn mynd i'r afael â'r angen brys am atebion cynaliadwy yn wyneb amgylchedd byd-eang sy'n newid yn gyflym. Mae cyfranogiad y rhai sy'n debygol o gael eu heffeithio yn aml yn cael ei anwybyddu mewn sgyrsiau (ac mae rhai poblogaethau yn fwy agored i effeithiau negyddol newid yn yr hinsawdd nag eraill, e.e. menywod, plant ac oedolion hŷn).
Drwy'r prosiectau SUNRISE a TEA at SUNRISE bellach, rwy'n gobeithio archwilio manteision cymdeithasol ac amgylcheddol defnyddio ynni solar (drwy ffotofoltäeg) mewn cymunedau gwledig, yn enwedig yn India/Affrica. Gall fy ymchwil dynnu sylw at bwysigrwydd integreiddio gwybodaeth leol a chyfranogiad wrth ddatblygu atebion ynni cynaliadwy.
Mae'r prosiect OPTIC (Deall safbwyntiau a dychymyg pobl hŷn a phobl iau ynghylch newid yn yr hinsawdd) yn tanlinellu arwyddocâd cynnwys oedolion hŷn mewn deialogau am newid yn yr hinsawdd. Drwy gofnodi eu safbwyntiau a'u hymddygiadau sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd, mae'r ymchwil yn sicrhau bod lleisiau cenedlaethau hŷn ac iau yn cael eu clywed mewn ymdrechion cynaliadwyedd byd-eang. Mae hyn yn hanfodol, gan y gall eu profiadau a'u dealltwriaeth arwain at strategaethau hinsawdd mwy cynhwysol ac effeithiol sydd o fudd i gymdeithas gyfan.
Mae fy ymchwil yng nghyd-destun heneiddio yn bwysig oherwydd ei bod yn mynd i'r afael â materion hanfodol sy'n ymwneud â heneiddio a dementia e.e. mae'r amgylcheddau lle rydym yn heneiddio yn effeithio'n sylweddol ar ein hiechyd a'n lles. Drwy ganolbwyntio ar hybu iechyd y cyhoedd/hybu iechyd a llythrennedd dementia, a chynnwys cyfraniadau pobl hŷn at y ddadl, fy nod yw gwella lles a grymuso oedolion hŷn, gan sicrhau eu bod mewn sefyllfa well i reoli eu hiechyd a llywio heriau o ran heneiddio.
Pa Nod Datblygu Cynaliadwy y mae eich ymchwil yn cyd-fynd yn agosaf ag ef?
Yn bennaf, Nod Datblygu Cynaliadwy 7: Ynni Fforddiadwy a Glân Mae'r prosiectau SUNRISE a TEA at SUNRISE, sy'n canolbwyntio ar ynni adnewyddadwy a'i effeithiau ar gymunedau, yn cyd-fynd â'r nod hwn.
Fodd bynnag, mae eraill hefyd yn berthnasol ac rwy'n credu bod y rhan fwyaf ohonynt yn rhyng-gysylltiedig
Nod Datblygu Cynaliadwy 11: Dinasoedd a chymunedau cynaliadwy: Mae fy ngwaith ar gartrefi carbon isel a chyfranogiad cymunedol wrth drawsnewid ynni yn ategu gwaith datblygu amgylcheddau byw cynaliadwy.
Nod Datblygu Cynaliadwy 13: Gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd: Mae'r prosiect OPTIC yn ymgysylltu ag oedolion hŷn mewn sgyrsiau am newid yn yr hinsawdd, gan sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu cynnwys mewn ymdrechion ynghylch gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd.
Nod Datblygu Cynaliadwy 3 - Iechyd a lles da (mae gweithio gyda CADR yn aml yn canolbwyntio ar hyn)
Nod Datblygu Cynaliadwy 5 - mae hyn yn hanfodol i bob un o'r uchod fel y mae Nod Datblygu Cynaliadwy 10 - Llai o anghydraddoldeb.
Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Yn bennaf, hoffwn sicrhau bod cyfranogiad ehangach gan y cyhoedd mewn gweithgareddau ymchwil (nid pynciau ymchwil yn unig) ac rydym yn gwneud hyn mewn ffordd sy'n deg, yn bleserus, yn fuddiol ac sy'n cael ei gwerthfawrogi gan bawb.
Nodau eraill yw:
Grymuso cymunedau ac unigolion drwy eu cynnwys yn y broses ymchwil a gwneud penderfyniadau sy'n gysylltiedig ag iechyd, lles a chynaliadwyedd.
Cyfrannu at ddatblygu amgylcheddau byw cynaliadwy a chymunedau sy'n gallu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd.
Sicrhau bod safbwyntiau poblogaethau amrywiol yn cael eu hystyried wrth lunio polisïau ac ymarfer.
A oes elfen drawsddisgyblaethol i’ch ymchwil? Os felly, pwy arall yn y Brifysgol sy'n ymwneud â'r gwaith?
Oes, mae fy ymchwil yn hynod groes-ddisgyblaethol. Rwy'n cydweithio â chydweithwyr o wahanol ddisgyblaethau, gan gynnwys gwyddor amgylcheddol, y gwyddorau cymdeithasol a pheirianneg. Ym Mhrifysgol Abertawe, rwy'n gweithio'n agos gyda thimau ar draws pob cyfadran (y Ganolfan Ymchwil i Heneiddio a Dementia (CADR), TEA at SUNRISE o ran Peirianneg, mae'r Gyfadran Iechyd a'r Gwyddorau Dynol ar fin dechrau ar brosiect bach a ariennir gan MASI dan arweiniad David Pickernell (Sut y gall arloesiadau mewn cynnyrch, prosesau ac ymddygiadau gryfhau gwydnwch y gadwyn gyflenwi gofal iechyd a lleihau risgiau?)
Mae'r dull amlddisgyblaethol hwn yn ein galluogi i fynd i'r afael â materion cymhleth o sawl safbwynt, gan arwain at ganlyniadau ymchwil mwy cyfannol ac effeithiol.
A oes unrhyw gydweithredwyr allanol eraill yn ymwneud â'r gwaith?
Oes, mae sawl cydweithredwr allanol yn rhan o'm hymchwil. Er enghraifft, mae'r prosiect SUNRISE yn cynnwys partneriaid rhyngwladol, gan gynnwys cydweithwyr yn India, ac mae'r cyd-ymchwilwyr ar fy nyfarniad bach gan Gyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC yn dod o Sefydliad Gwyddorau Cymdeithasol Tata, Mumbai a Chaergrawnt yn y DU (lle rydym yn archwilio effaith gosod ynni adnewyddadwy SUNRISE). Mae TEA at SUNRISE yn cynnwys partneriaid cyflawni o Affrica ac mae'r rhwydwaith a sefydlwyd yn ddiweddar yn cynnwys aelodau o dros 10 o wledydd. Yn ogystal, mae'r prosiect OPTIC yn cynnwys cydweithio â rhanddeiliaid a'r cyhoedd i ddeall a lledaenu safbwyntiau pobl hŷn ar newid yn yr hinsawdd.
Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?
Rwy'n brysur gyda TEA at SUNRISE ac After SUNRISE - wedi hynny mae hi bob amser yn anodd dweud - nid oes contract parhaol gennyf felly does dim modd gwybod yn iawn!