Ym mha adran rydych chi’n gweithio?
Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Biowyddorau
Beth yw eich prif faes ymchwil?
Ecoleg ac adfer morwellt
Pam y mae eich ymchwil yn bwysig?
Rydym yn creu modelau addasrwydd cynefinoedd i helpu i adnabod y lleoedd gorau i adfer morwellt. Bydd y modelau'n dangos lle mae'r amodau mwyaf addas i forwellt allu tyfu. Mae allbynnau'r prosiect rwy'n gweithio arno ar hyn o bryd (ReSOW) yn mynd i gael eu cyhoeddi ar blatfform ffynhonnell agored rhyngweithiol o'r enw CEEDS (Coastal Ecosystem Enhancement Decision Support). Gobeithio bydd hyn yn darparu tystiolaeth i helpu ymarferwyr penderfynu a chyfiawnhau lleoliadau ar gyfer adfer morwellt. Mae adfer morwellt yn ddatrysiad ar sail natur ar gyfer mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd trwy ddal a storio carbon (carbon glas).
Pa Nodau Datblygu Cynaliadwy y mae eich ymchwil yn cyd-fynd yn agos â nhw?
'Gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd' oherwydd ein bod yn edrych ar adfer morwellt fel datrysiad ar sail natur o ddal a storio carbon, a chefnogaeth bioamrywiaeth. Hefyd 'Bywyd o dan y dŵr'.
Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Darparu tystiolaeth ddefnyddiol a fydd yn helpu ymarferwyr, a gwella llwyddiant adfer morwellt.
A oes elfen draws-ddisgyblaethol i’ch ymchwil? Os felly, pwy arall yn y Brifysgol sy'n ymwneud â'r gwaith?
Oes, ond gydag economegwyr a gwyddonwyr cymdeithasol yn y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol (yr NOC) a Phrifysgol Stirling.
A oes unrhyw gydweithredwyr allanol eraill yn ymwneud â'r gwaith?
Oes, y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol (yr NOC, Southampton).
Beth sydd nesaf o ran eich ymchwil?
Treialu modelau addasrwydd cynefinoedd ar gyfer cynefinoedd arfordirol eraill sydd wedi'u hadnabod fel datrysiadau ar sail natur ac/neu sy’n bwysig ar gyfer gwella bioamrywiaeth forol.