Ym mha gyfadran rydych chi’n gweithio?
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Beth yw'ch prif faes ymchwil?
Rwyf yn ymchwilio i ffuglen wyddonol ym maes newid yn yr hinsawdd a straeon am ddaearffurfio a geobeirianneg (sydd, i bob pwrpas, yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd).
Pam mae'ch ymchwil yn bwysig?
Mewn ffuglen wyddonol, caiff y dyfodol ei ragweld a'i ddychmygu. Mae natur ddyfaliadol ffuglen wyddonol yn ein galluogi ni i ystyried ystod eang o gwestiynau cymdeithasol, diwylliannol, gwyddonol, athronyddol a dirfodol mewn perthynas â bywyd dynol yn ei gyfanrwydd, o sut mae cymdeithasau'n gweithredu, sut mae diwylliant yn parhau trwy gydol amser a sut gallai datblygiadau technolegol a gwyddonol ail-lunio cymdeithasau yn y dyfodol. Mae cynaliadwyedd, newid yn yr hinsawdd, ecoleg, esblygiad a bioleg ymhlith rhai o'r themâu mwyaf parhaus mewn ffuglen wyddonol. Gellid hefyd ddadlau bod ffuglen wyddonol yn llywio syniadau cyfoes am newid yn yr hinsawdd. Am y rhesymau hyn, mae deall sut mae ffuglen wyddonol yn rhyngweithio â diwylliant a gwyddoniaeth yn hynod ddiddorol ac yn hanfodol. Ar ben hynny, mae'n ffordd ddefnyddiol iawn o addysgu pobl am y syniadau hyn a syniadau eraill mewn ffyrdd sy'n annog meddwl yn feirniadol.
Pa Nod Datblygu Cynaliadwy y mae eich ymchwil yn cyd-fynd yn agosaf ag ef?
O ran y Nodau Datblygu Cynaliadwy, fel y mae ffuglen wyddonol yn ein haddysgu, mae'r holl elfennau hyn yn gysylltiedig â'i gilydd. Mae llai o anghydraddoldebau a chydraddoldeb rhwng y rhywiau yn mynd law yn llaw, ac mae gweithredu ar yr hinsawdd ac addysg o safon yn fy marn i yn cyd-fynd yn agos â'm hymchwil ym maes ffuglen wyddonol. Ar ben hynny, mae heddwch, cyfiawnder a sefydliadau cadarn hefyd yn cyd-fynd yn agos â'm hymchwil, yn ogystal â defnyddio a chynhyrchu cyfrifol. Fodd bynnag, mae gan ffuglen wyddonol, yn arbennig y gweithiau hynny sy'n ymwneud yn agos â newid yn yr hinsawdd, rywbeth i’w ddweud am yr holl nodau datblygu cynaliadwy. Ond fel y mae fy ymchwil i ddaearffurfio a geobeirianneg yn ei ddangos, nid oes modd eu gwahanu nhw.
Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Yn y bôn, rwy'n gobeithio dangos sut y gallen ni ddefnyddio ffuglen wyddonol i gynyddu ein hymwybyddiaeth feirniadol o'n gorffennol, ein presennol a'n dyfodol posibl, a sut y gallen ddefnyddio'r adnoddau y mae ffuglen wyddonol yn eu cynnig i wella'n hymdeimlad o reolaeth a'n gallu i greu nifer o gymunedau sy'n gorgyffwrdd â’i gilydd ac sy'n ein hannog ni ac eraill i ffynnu.
A oes elfen drawsddisgyblaethol i’ch ymchwil? Os felly, pwy arall yn y Brifysgol sy'n ymwneud â'r gwaith?
Oes, heb os. Yn ei hanfod mae ffuglen wyddonol yn drawsddisgyblaethol. Rydw i wedi bod yn gweithio ar brosiectau sy'n dod ag unigolion at ei gilydd o sawl disgyblaeth yn y Brifysgol a’r tu hwnt iddi. Yn Abertawe, mae'r rhain yn cynnwys Federico Lopez-Terra o Ieithoedd Modern, Amy Isham ac Andrew Kemp o Seicoleg, Geoff Proffitt a Kam Tang o'r Biowyddorau a Clare Wood o Beirianneg Sifil.
A oes unrhyw gydweithredwyr allanol eraill yn ymwneud â'r gwaith?
Rwyf yn rhan o Ganolfan Rhagoriaeth Fioffilig <https://biophilic.wales/> sy'n gweithio gyda phartneriaid allanol megis Hacer Developments, sy'n adeiladu Adeilad Byw Bioffilig Abertawe (BIOSWA) yng nghanol Dinas Abertawe. Mae'r rhwydwaith hwn yn cynnwys ymchwilwyr ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd. Rwyf hefyd yn rhan o rwydwaith Narrating Rural Change, sy'n cynnwys nifer o gydweithredwyr allanol.
Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?
Rwyf yn meddwl am ffyrdd o ddefnyddio ffuglen wyddonol i weithio gydag aelodau o gymuned leol Abertawe i ddychmygu dyfodol ein dinas. Hoffwn wneud mwy o archwilio yn y maes hwn yn fy ymchwil yn y dyfodol. Yn ogystal â pharhau â gwaith ym maes dylunio bioffilig, rwyf hefyd yn parhau i wneud gwaith ymchwil ym maes geobeirianneg a daearffurfio mewn ffuglen wyddonol yn ogystal ag amaethyddiaeth.