Ym mha gyfadran rydych chi’n gweithio?
Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg

Beth yw'ch prif faes ymchwil?
Cemegwr synthetig ydw i sy'n gweithio'n bennaf ym meysydd cemeg arsugnyddion a chaenau gweithredol. Mae fy mhrif faes ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu deunyddiau sy'n gallu gwaredu hydrogen sylffid o ffrydiau nwyon.

Pam mae'ch ymchwil yn bwysig?
Mae hydrogen sylffid yn nwy tocsig sy'n arogleuo'n ffiaidd ac sy'n peri risg i fywyd ar grynodiadau mor isel â 500 ppm. Fe'i cynhyrchir yn fiolegol fel sgil-gynnyrch o dreulio proteinau ac yn anaerobig gan facteria sy'n rhydwytho sylffadau. Gellir dod i gyswllt â hydrogen sylffid mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd ac mae'n achosi problem wrth drin dŵr gwastraff, mewn ffynhonnau olew a nwyon ac i gatalyddion a ddefnyddir mewn adweithiau cynhyrchu hydrogen. Mae ef hefyd yn bryder mawr i gleifion ostomi oherwydd bod rhyddhau'r nwy o'u dyfeisiau, megis bagiau colostomi, yn achosi cywilydd mawr ac yn effeithio'n negyddol ar ansawdd eu bywydau.

Pa Nod Datblygu Cynaliadwy y mae eich ymchwil yn cyd-fynd yn agosaf ag ef?
Mae fy ymchwil yn cyd-fynd yn agosaf â Nod Datblygu Cynaliadwy 12 sef sicrhau defnyddio a chynhyrchu'n gynaliadwy. Mae'n canolbwyntio ar ddatblygu deunyddiau arsugnol newydd ar gyfer dyfeisiau ostomi a fyddai'n cynyddu eu hirhoedledd yn sylweddol. Mae'r rhan helaeth o'r dyfeisiau hyn yn untro ac maent wedi'u gwneud o blastig yn bennaf. Byddai defnyddio arsugnydd perfformiad uwch yn y dyfeisiau'n eu galluogi i gael eu defnyddio am lawer hwy a byddai hyn yn lleihau maint y plastig sy'n cyrraedd safleoedd tirlenwi o lawer.

Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Rydym yn gobeithio addasu dyluniad cyfredol y dyfeisiau fel y gall ymgorffori'r arsugnyddion hyn, gan alluogi'r deunyddiau hyn i wella bywydau cleifion ostomi. Yn fwy eang, hoffem hefyd ymestyn y defnydd o'r deunydd arsugnol hwn i feysydd eraill lle mae H2S yn achosi problem, megis trin dŵr gwastraff neu gatalyddion cynhyrchu hydrogen.

A oes elfen drawsddisgyblaethol i’ch ymchwil?  Os felly, pwy arall yn y Brifysgol sy'n ymwneud â'r gwaith?
Rydym wedi bod yn gweithio gyda'r Athro Shareen Doak a'i thîm o Ysgol y Biowyddorau i fynd i'r afael ag unrhyw ystyriaethau ynghylch ein deunyddiau caenu yn ystod eu cylchred oes.

A oes unrhyw gydweithredwyr allanol eraill yn ymwneud â'r gwaith?
Mae ein hymchwil yn cael ei hariannu a'i chynnal mewn cydweithrediad â Salts Healthcare Ltd, sef un o'r prif weithgynhyrchwyr dyfeisiau ostomi.

Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?
Ar hyn o bryd, ffocws ein hymchwil yw datblygu caenau hirbarhaus sy'n ymgorffori ein deunyddiau arsugnol. Bydd datblygu caen cadarn yn ei wneud yn haws i'w ddefnyddio yn ystod y cam gweithgynhyrchu a bydd yn helpu i sicrhau dibynadwyedd i ddefnyddwyr y dyfeisiau.