Dr Federico Lopez-Terra
Ym mha gyfadran rydych chi’n gweithio?
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Beth yw'ch prif faes ymchwil?
Semioteg ddiwylliannol, cynrychiolaeth argyfyngau, dealltwriaeth naratif, adrodd straeon a chanfyddiad.
Pam mae'ch ymchwil yn bwysig?
Mae integreiddio astudiaethau diwylliannol ag ymchwil i'r argyfwng hinsawdd yn hanfodol i fynd i'r afael â'r heriau amgylcheddol rydyn ni'n eu hwynebu heddiw. Er bod yr argyfwng hinsawdd yn cael ei ystyried yn aml o safbwynt gwyddonol neu dechnolegol, yn ei hanfod, mae'n fater hynod ddiwylliannol. Mae'r naratifau trechaf sydd wedi llunio ein cymdeithasau - dan ddylanwad trwm gwladychiaeth, cyfalafiaeth ac ecsbloetio adnoddau dynol a naturiol - wedi cyfrannu'n sylweddol at y dirywiad amgylcheddol rydyn ni'n ei weld nawr.
Drwy archwilio'r naratifau diwylliannol, y ddynameg pŵer a'r cyd-destunau hanesyddol sydd wrth wraidd ein sefyllfa ecolegol, gallwn feithrin dealltwriaeth well o sut mae gwerthoedd a chredoau cymdeithasol yn llywio ein rhyngweithiadau â'r amgylchedd. Mae'r ymagwedd hon yn datgelu bod yr argyfwng amgylcheddol hefyd yn argyfwng cynrychiolaeth ac, felly, yn argyfwng canfyddiad hefyd. Mae'r ddau dan ddylanwad trwm strwythurau pŵer ecsbloetiol, sy'n parhau ag arferion anghynaladwy, gan gynnwys rhai atebion technegol-optimistaidd sy'n parhau i flaenoriaethu twf.
Mae cydnabod bod anghynaladwyedd yn rhan annatod o'n diwylliant trechaf yn awgrymu na fydd newidiadau o ran polisi neu dechnoleg yn ddigonol. Mae angen trawsnewidiad dyfnach - un sy'n ailddiffinio'r straeon, y trosiadau a'r fframweithiau rydyn ni'n dibynnu arnynt i ddeall y byd ac ymgysylltu ag ef. Mae hyn yn galw am newid diwylliannol sy'n herio'r rhagdybiaethau cyffredinol o gynnydd, twf a goruchafiaeth ddynol dros natur.
Yn ogystal â darparu dealltwriaeth fwy cynnil o'r argyfwng, bydd cynnwys astudiaethau diwylliannol mewn ymchwil i'r hinsawdd hefyd yn meithrin ymagwedd sy'n sensitif yn ddiwylliannol at atebion. Drwy wneud hyn, gallwn ddatblygu strategaethau sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol dirywiad amgylcheddol, yn hytrach nag ymdrin â'i symptomau yn unig.
Pa Nod Datblygu Cynaliadwy y mae eich ymchwil yn cyd-fynd yn agosaf ag ef?
3, 4, 10, 16
Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Ein nod yw datblygu ymagwedd fwy cynhwysfawr ac empathig at fynd i'r afael â heriau byd-eang drwy ddyfnhau ein dealltwriaeth o'r materion dan sylw. Mae hyn yn cynnwys archwilio'r naratifau diwylliannol, y ddynameg pŵer a'r cyd-destunau hanesyddol sydd wrth wraidd ein sefyllfa ecolegol, gan ein galluogi i feithrin dealltwriaeth well o sut mae gwerthoedd a chredoau cymdeithasol yn llywio ein rhyngweithiadau â'r amgylchedd. Drwy gydnabod bod yr argyfwng hinsawdd hefyd yn argyfwng cynrychiolaeth - ac, o ganlyniad, yn argyfwng canfyddiad - gallwn ddeall yn well sut mae strwythurau pŵer ecsbloetiol sy'n parhau ag arferion anghynaladwy'n dylanwadu'n drwm ar y canfyddiadau hyn.
Ein nod yw pontio'r bwlch rhwng safbwyntiau amrywiol, yn enwedig o Ogledd a De'r Byd, er mwyn meithrin cydweithredu a datblygu atebion mwy cynhwysol, cyfiawn ac effeithiol. Drwy integreiddio'r safbwyntiau amrywiol hyn a mynd i'r afael ag achosion craidd y problemau hyn, rydyn ni'n ymdrechu i hyrwyddo atebion cadarnhaol parhaol, sy'n sensitif i gymhlethdodau diwylliannol, hanesyddol a geo-wleidyddol.
A oes elfen drawsddisgyblaethol i’ch ymchwil? Os felly, pwy arall yn y Brifysgol sy'n ymwneud â'r gwaith?
Oes:
Dr Amy Isham
Yr Athro Andrew Kemp
Dr Geraldine Lublin
Dr Chris Pak
Dr Alex Southern
Rory Tucker sy'n ymgeisydd PhD
Rob Yarr sy'n ymgeisydd MA
A oes unrhyw gydweithredwyr allanol eraill yn ymwneud â'r gwaith?
Oes, nifer o bartneriaid yn Ewrop ac America Ladin
Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?
Parhau i ehangu'r ymchwil i gynnwys gwledydd eraill, yn enwedig yn Ne'r Byd. Datblygu deunyddiau addysgeg yn seiliedig ar y canfyddiadau.