Ym mha gyfadran rydych chi’n gweithio?
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol - yr Ysgol Reolaeth - Cyfrifeg a Chyllid
Beth yw'ch prif faes ymchwil?
Mae fy mhrif ymchwil yn canolbwyntio ar gyflogau prif weithredwyr, llywodraethu corfforaethol a materion ESG (Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu) gyda phwyslais penodol ar newid yn yr hinsawdd a datgelu corfforaethol. Dwi'n archwilio sut mae'r ffactorau hyn yn rhyngweithio â'i gilydd ac yn dylanwadu ar ei gilydd er mwyn deall eu heffaith ar arferion a pholisïau corfforaethol yn well.
Pam mae'ch ymchwil yn bwysig?
Mae fy ymchwil yn bwysig am ei bod yn ymdrin â materion hollbwysig yn y croestoriad rhwng llywodraethu corfforaethol, cyflogau prif weithredwyr a ffactorau ESG, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd. Mae deall sut mae'r elfennau hyn yn rhyngweithio yn helpu cwmnïau i ddatblygu gwell polisïau ac arferion sy'n hyrwyddo tryloywder, atebolrwydd a chynaliadwyedd. Drwy ganolbwyntio ar y meysydd hyn, mae fy ymchwil yn cyfrannu at brosesau penderfynu mwy gwybodus ac yn cefnogi'r nod ehangach o alinio ymddygiad corfforaethol â nodau cymdeithasol ac amgylcheddol.
Pa Nod Datblygu Cynaliadwy y mae eich ymchwil yn cyd-fynd yn agosaf ag ef?
Mae fy ymchwil yn cyd-fynd â Nod Datblygu Cynaliadwy 5: Cydraddoldeb Rhywiol, Nod 12: Defnyddio a Chynhyrchu Cyfrifol, Nod 13: Gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Mae'n ymdrin â Nod Datblygu Cynaliadwy 5 drwy archwilio amrywiaeth o ran rhywedd ar fyrddau a phrosesau penderfynu. Ar gyfer Nod 12, mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar wella arferion a datgelu corfforaethol i hyrwyddo gweithrediadau busnes cynaliadwy a thryloyw. Mewn perthynas â Nod 13, dwi'n ymchwilio i sut gall cyflogau prif weithredwyr ac arferion llywodraethu ddylanwadu ar ymatebion corfforaethol i newid yn yr hinsawdd, gan gefnogi ymdrechion i wella cynaliadwyedd amgylcheddol.
Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Gyda fy ymchwil dwi'n ceisio gwella dealltwriaeth mewn sawl maes allweddol: effaith cyflogau prif weithredwyr a llywodraethu corfforaethol ar ganlyniadau ESG, integreiddio amrywiaeth o ran rhywedd mewn arweinyddiaeth ac effeithiolrwydd arferion datgelu corfforaethol. Fy nod yw cyfrannu at arferion busnes mwy tryloyw, atebol a chynaliadwy, gan, yn y pen draw, ddylanwadu ar strategaethau corfforaethol er mwyn mynd i'r afael â heriau amgylcheddol a chymdeithasol yn well. Drwy ddarparu gwybodaeth am y materion hyn, fy ngobaith yw cefnogi datblygiad polisïau ac arferion sy'n cyd-fynd â nodau cynaliadwyedd byd-eang ac yn sbarduno newid ystyrlon mewn ymddygiad corfforaethol.
Oes elfen drawsddisgyblaethol i’ch ymchwil? Os felly, pwy arall yn y Brifysgol sy'n ymwneud â'r gwaith?
Mae fy ymchwil yn mabwysiadu ymagwedd drawsddisgyblaethol drwy gydweithrediadau ag arbenigwyr o sawl sefydliad nodedig. Dwi'n gweithio gyda chydweithwyr o Brifysgol Caerdydd gan ehangu fy ffocws ar lywodraethu a datgelu corfforaethol. Yn Ysgol Fusnes NEOMA yn Ffrainc, dwi'n elwa o arbenigedd mewn cyllid meintiol, econometreg gymhwysol, economeg ynni a'r hinsawdd a chyllid cynaliadwy, sy'n dyfnhau'r dadansoddiad o faterion ESG a materion sy'n ymwneud â'r hinsawdd. Ar ben hyn mae ysgolheigion o Brifysgol Caerwysg yn darparu craffter ar gyllid rhyngwladol a microstrwythur y farchnad gyfnewid dramor, gan gynnig safbwynt byd-eang ar ddynameg ariannol. Dwi hefyd yn rhyngweithio ag arbenigwyr mewn mathemateg ariannol o Universidad de Castilla-La Mancha yn Sbaen, gan ychwanegu dimensiwn meintiol at fy ngwaith. Yn ogystal, mae cydweithrediadau â Phrifysgol Metropolitan Manceinion yn cyfrannu ymchwil i brisio asedau, modelu anwadalrwydd a moeseg busnes, gan ehangu cwmpas fy ymchwil ymhellach. Gyda'i gilydd, mae'r partneriaethau amrywiol hyn yn cynyddu dyfnder ac ehangder fy ymchwil, gan wella ein dealltwriaeth o sut gall arferion ariannol a llywodraethu fynd i'r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd a'u lliniaru.
Oes unrhyw gydweithredwyr allanol eraill yn ymwneud â'r gwaith?
Mae fy ymchwil yn cynnwys cydweithrediadau allanol gwerthfawr, yn benodol gyda chydweithiwr o Brifysgol Metropolitan Manceinion. Gyda chymorth Grant Ymchwil Bach Leverhulme yr Academi Brydeinig, mae'r bartneriaeth hon yn ein galluogi i archwilio'r croestoriad rhwng arweinyddiaeth gorfforaethol a thrawsnewid ESG. Drwy fanteisio ar dechnegau uwch fel data mawr a deallusrwydd artiffisial/dysgu peirianyddol, ein nod yw gwella ein dealltwriaeth o sut gall arferion corfforaethol ysgogi cynnydd yn effeithiol mewn canlyniadau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu. Mae'r cydweithrediad hwn yn cyfoethogi fy ymchwil drwy integreiddio arbenigedd a methodolegau arloesol amrywiol.
Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?
Yn ystod cam nesaf fy ymchwil, fy nod fydd archwilio ymhellach sut i wella llywodraethu corfforaethol ac arferion datgelu i gefnogi nodau ESG a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Bydd hyn yn cynnwys archwilio effaith fframweithiau tacsonomeg ac ehangu'r defnydd o dechnegau dadansoddi uwch. Hefyd, dwi'n bwriadu meithrin cydweithrediadau rhyngddisgyblaethol ehangach. Yn y pen draw, fy nod yw troi'r ddealltwriaeth hon yn argymhellion ymarferol sy'n gallu sbarduno strategaethau cynaliadwyedd effeithiol.