Ym mha gyfadran rydych chi’n gweithio?
Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Beth yw'ch prif faes ymchwil?
Ecoleg, Cadwraeth a Bioamrywiaeth
Pam y mae'ch ymchwil yn bwysig?
Rwy'n defnyddio data genetig ac ymddygiadol i ddeall sut mae anifeiliaid yn ymateb i newid amgylcheddol (newid naturiol ac anthropogenig). Y brif rywogaeth rwy'n ei hastudio yw'r mongŵs rhesog yn Uganda. Yma, rydym wedi dangos bod newidiadau mewn glawiad a thymheredd yn effeithio ar ymddygiad chwilio am fwyd, ymddygiad cydweithredol, atgenhedlu, twf a goroesiad. Rydym wedi darganfod hefyd fod addasiadau anthropogenig i'r cynefin (e.e. ychwanegu adeiladau a ffyrdd) yn effeithio ar amgylchedd thermol y mongŵs. Mae'r canlyniadau hyn yn ein helpu i ddeall sut mae rhywogaethau cyhydeddol yn ymateb i newid anthropogenig, a gallant helpu i lunio strategaethau cadwraeth y dyfodol.
Mae gen i hefyd ddiddordeb mewn defnyddio data genetig i lywio rhaglenni cadwraeth ac ailgyflwyno, ac rydw i wedi gweithio ar ddeall effaith y dirwedd (yn cynnwys nodweddion naturiol megis clogwyni a nodweddion anthropogenig megis ffyrdd) ar ddosbarthiad a symudiad yr asyn Asiaidd gwyllt yn Israel a'r draenog yn y DU. Rydw i hefyd yn gweithio gyda sefydliadau cadwraeth i ddefnyddio geneteg i wella ailgyflwyno brogaod pwll a belaod y coed i'r DU.
Pa Nod Datblygu Cynaliadwy y mae eich ymchwil yn cyd-fynd yn agosaf ag ef?
15 - Bywyd ar y Tir
Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Rwy'n gobeithio y bydd fy ymchwil yn ein helpu i ddeall effeithiau newid anthropogenig ar rywogaethau anifeiliaid, ac y bydd yn gymorth i ddatblygu strategaethau i liniaru effeithiau negyddol.
A oes elfen drawsddisgyblaethol i’ch ymchwil? Os felly, pwy arall yn y Brifysgol sy'n ymwneud â'r gwaith?
Oes. Mae unrhyw waith cadwraeth yn gofyn am ddealltwriaeth o wybodaeth, ymddygiad ac arferion dynol. Rwy'n gweithio gyda Dr Jess Mitchell ym Mhrifysgol Caeredin ar y gwyddorau cymdeithasol mewn perthynas â gwrthdaro rhwng pobl a bywyd gwyllt yn Uganda.
A oes unrhyw gydweithredwyr allanol eraill yn ymwneud â'r gwaith?
Fy mhrif gydweithredwyr ar y prosiect mongŵs rhesog yw'r Athro Mike Cant ym Mhrifysgol Caerwysg, a Francis Mwanguhya ym Mharc Cenedlaethol y Frenhines Elizabeth, Uganda.
Yn y DU, rwy'n gweithio gyda sefydliadau cadwraeth megis Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Vincent, yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid, National England, y Sefydliad Sŵoleg, ac Ysbyty Adar Gŵyr.
Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?
Hoffwn uchafu effaith fy ymchwil drwy wella partneriaethau cydweithredol â sefydliadau sy'n gwneud gwaith cadwraeth ymarferol. Hoffwn hefyd ehangu fy ngwaith ar wrthdaro rhwng pobl a bywyd gwyllt yn Uganda.