Ym mha gyfadran rydych chi’n gweithio?
Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg

Beth yw eich prif faes ymchwil?
Rwy'n fiolegydd esblygiadol â ffocws cryf ar ymlusgiaid ac amffibiaid, yn enwedig nadredd gwenwynig a rhywogaethau gwenwynig. Mae elfen ymarferol gref i ran o’m gwaith, yn enwedig cydweithio â pheirianwyr i wella isadeiledd draenio ffyrdd er mwyn cadwraeth bywyd gwyllt, a chydweithio â gwyddonwyr cymdeithasol a phobl leol i leihau achosion o wenwyno ar ôl brathiad gan neidr mewn cymunedau gwledig yn Uganda ac i alluogi pobl a bywyd gwyllt i gyd-fyw'n well.

Pam mae eich ymchwil yn bwysig?
Does dim modd i ni ddatblygu isadeiledd modern (fel rhwydweithiau ffyrdd) heb gael effaith ar fywyd gwyllt. Felly, mae angen rhyngweithio rhwng swolegwyr a'r peirianwyr sy'n dylunio, yn adeiladu ac yn rheoli'r amgylchedd adeiledig er mwyn lliniaru a lleihau'r effeithiau hynny. Roedd fy ymchwil yn y maes hwn yn canolbwyntio ar botiau draenio ffyrdd sy'n faglau angheuol i anifeiliaid bach, yn enwedig llyffantod, sy'n cwympo i mewn iddynt ac yn methu dianc. Rydyn ni'n dylunio, yn datblygu ac yn profi dyluniadau potiau draenio newydd yn y labordy ac yn y maes i greu opsiynau sy'n draenio'n effeithiol ond yn galluogi anifeiliaid sydd wedi'u dal ynddynt i ddianc.

Mae gwrthdaro rhwng pobl a bywyd gwyllt yn faes economaidd-gymdeithasol, iechyd cyhoeddus a chadwraeth pwysig ledled y byd ac un agwedd bwysig ar hyn (yn enwedig mewn rhanbarthau trofannol) yw brathiadau nadredd gwenwynig. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dynodi gwenwyno yn sgîl brathiad neidr fel Clefyd Trofannol Wedi'i Esgeuluso, gan gydnabod ei "ganlyniadau trychinebus ar iechyd, cymdeithas a'r economi" a'r effaith anghymesur "ar gymunedau tlawd mewn rhanbarthau trofannol". Mae llawer o'r gwaith ar y broblem hon wedi canolbwyntio ar driniaethau newydd a gwell ar ôl i rywun gael ei frathu; ond, hyd yn oed os yw'r rhain yn llwyddo i achub bywyd y dioddefwr, gall brathiad neidr arwain at ganlyniadau difrifol ar gyfer iechyd corfforol ac iechyd meddwl, rhai sy'n gallu newid bywyd a chyfyngu ar iechyd a bywoliaeth y person sy'n cael ei frathu a'i deulu. Yn ddiamau mae atal yn well na thriniaeth. Mae lladd nadredd yn ymateb cyffredin i'r broblem hon ond gall hyn gynyddu'r risg o frathu a bod yn niweidiol i boblogaethau nadredd (mae'r IUCN yn cydnabod 'erledigaeth a rheolaeth' fel rhai o'r bygythiadau cadwraeth mwyaf i nadredd). Mae fy ymchwil yn cyfuno arbenigedd mewn bioleg nadredd ag ymagweddau ymgysylltu â chymunedau er mwyn ysgogi newid mewn ymddygiad dynol i atal brathiadau nadredd, hyrwyddo cyd-fyw rhwng pobl a bywyd gwyllt, er budd pawb, o safbwynt Un Iechyd.

Pa Nod Datblygu Cynaliadwy y mae eich ymchwil yn cyd-fynd yn agosaf ag ef?
Mae'r prosiectau ymchwil hyn yn rhyngwynebu â sawl Nod Datblygu Cynaliadwy ac mae Nod 15 (Bywyd ar y Tir) yn berthnasol i'r ddau linyn. Mae'r ymchwil i ddraenio ffyrdd sy'n llesol i fywyd gwyllt hefyd yn cyfrannu at Nod Datblygu Cynaliadwy 9 (Diwydiant, Arloesi ac Isadeiledd). Oherwydd canlyniadau amrywiol y broblem (iechyd, economaidd-gymdeithasol a chadwraeth) ac integreiddio cymunedau lleol yn yr ymchwil, mae fy ngwaith ar atal brathiadau nadredd mewn rhanbarthau gwledig trofannol yn cyfrannu at sawl Nod Datblygu Cynaliadwy, Nod 3 (Iechyd Da a Lles) yn fwyaf uniongyrchol. Gan fod hyn yn 'glefyd tlodi' sy'n effeithio ar ddiogelwch bwyd a'r gallu i gynnal bywoliaeth yn y cymunedau dan sylw, bydd y gwaith yn helpu i gyflawni Nod 1 (Dim Tlodi) a Nod 2 (Dim Newyn). Yn olaf, drwy weithio'n agos, mewn partneriaeth gyfartal â chymunedau yn Uganda i gynyddu eu gwybodaeth a'u gallu i wella diogelwch eu cyffiniau, mae'r gwaith yn cyfrannu at Nod Datblygu Cynaliadwy 4 (Addysg o Safon), Nod 11 (Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy) a Nod 17 (Partneriaethau i Gyflawni'r Nodau).

Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Fy nod yn y pen draw yw dod o hyd i atebion a fydd o fudd i bawb, er mwyn datrys problemau byd-eang y mae angen mynd i'r afael â nhw ar lefel leol, megis y rhai sy'n ymwneud â gwrthdaro rhwng pobl a bywyd gwyllt yn yr ystyr eang, o gynefinoedd a rennir i ryngweithiadau uniongyrchol. Mae fy ymchwil yn dangos sut mae modd cyd-fyw'n llwyddiannus, pan gaiff y bobl sy'n cael eu heffeithio eu cynnwys a chyda'r cyfuniad iawn o brofiad. Nid yw cadwraeth a lles dynol yn sefyllfa 'sero-swm' - gallwn ni ddyfeisio atebion a fydd o fudd i fywyd gwyllt a phobl mewn ffyrdd amryfal.

A oes elfen drawsddisgyblaethol i’ch ymchwil?  Os felly, pwy arall yn y Brifysgol sy'n ymwneud â'r gwaith?
Yn y Brifysgol, dwi'n cydweithio â'r peirianwyr Patricia Xavier (sydd wedi symud i sefydliad arall bellach) a Vasileios Samaras ar gyfer y gwaith draenio ffyrdd, a'r ecolegydd ymddygiadol, Hazel Nichols, ar gyfer y gwaith ar frathiadau nadredd.

A oes unrhyw gydweithredwyr allanol eraill yn ymwneud â'r gwaith?
Mae'r prosiect draenio ffyrdd yn cael ei gefnogi drwy gydweithrediadau ag ymgynghorwyr a pheirianwyr ecolegol yn Atkins a SWTRA (sy'n gyfrifol am reoli rhwydwaith ffyrdd strategol Llywodraeth Cymru ledled de Cymru).

Yn fy ngwaith ar frathiadau nadredd, dwi'n gweithio gyda chydweithiwr gwyddor gymdeithasol ym Mhrifysgol Caeredin (Jess Mitchell) a hefyd gyda’r cymunedau yn Uganda (yn gyffredinol a chyda phartneriaid allweddol) lle rydyn ni'n gweithio.

Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?
Ar hyn o bryd, rydyn ni'n cynnal treialon maes ar gyfer ein potiau draenio cwteri newydd. Os bydd y rhain yn llwyddiannus, ein nod fydd eu cyflwyno ar draws rhwydwaith ffyrdd y Deyrnas Unedig, gan ddechrau yn ne Cymru, gyda chymorth ein partneriaid allanol.

Rydyn ni hefyd yn gweithio i ehangu ein hymdrechion i atal brathiadau nadredd yn dilyn treialon llwyddiannus o'n hymagwedd ymgysylltu cymunedol at liniaru'r broblem. Bydd hyn yn golygu cael mwy o bartneriaid, paratoi adnoddau fel bydd modd defnyddio ein hymyriadau mewn lleoliadau eraill er mwyn manteisio ar wybodaeth a phrofiadau lleol i leihau'r broblem. Rydyn ni hefyd yn gobeithio paratoi mwy o adnoddau ar gyfer y cymunedau sy'n ffocws ein hymchwil ar hyn o bryd, yn seiliedig ar y ddealltwriaeth ddiwylliannol rydyn ni wedi'i meithrin o'r cymunedau. Bydd y rhain yn cynnwys fideos pwrpasol a defnyddio chwedlau gwerin lleol fel ffordd gynaliadwy o greu incwm i gefnogi ymdrechion i atal brathiadau nadredd, a hyn oll wedi'i ysgogi gan y bobl eu hunain i roi iddynt ymdeimlad o berchen ar yr atebion.

 

Dr Kevin Arbuckle