Ym mha gyfadran rydych chi’n gweithio?
Yr Adran Peirianneg Electronig a Thrydanol, y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg

Beth yw'ch prif faes ymchwil?
Integreiddio, rheolaeth a rheoli systemau ynni adnewyddadwy
Gridiau Clyfar
Micro/nano-gridiau
Strategaethau Rheoli Ynni
Cymuned Ynni, masnachu rhwng cymheiriaid a gridiau trawsweithredol
Gwasanaethau ategol

Pam mae'ch ymchwil yn bwysig?
Mae lliniaru newid yn yr hinsawdd yn fater brys ac nid yw'n ddewis, sy'n golygu na all y ddynolryw fforddio defnyddio tanwyddau ffosil mwyach. Yr unig ffordd o gyflawni hyn yw gan ddefnyddio mwy o ynni adnewyddadwy a thrwy ddatblygu systemau ynni mwy effeithlon a chlyfar.

Pa Nod Datblygu Cynaliadwy y mae eich ymchwil yn cyd-fynd yn agosaf ag ef?
Nod Datblygu Cynaliadwy 7: Ynni Fforddiadwy a Glân
Nod Datblygu Cynaliadwy 11: Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy
Nod Datblygu Cynaliadwy 13: Gweithredu ar newid yn yr hinsawdd

Beth rydych chi'n gobeithio y bydd eich ymchwil yn ei gyflawni?
Gwrthdroi effeithiau newid yn yr hinsawdd drwy gyflawni systemau ynni sero net a datblygu model strwythurol a gweithredol cynaliadwy a theg i'r perwyl hwnnw.

A oes elfen drawsddisgyblaethol i’ch ymchwil?  Os felly, pwy arall yn y Brifysgol sy'n ymwneud â'r gwaith?
Drwy CARI, rwyf wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr o ddisgyblaethau gwahanol gan gynnwys Cyfrifiadureg, y Gwyddorau Cymdeithasol a'r Ysgol Fusnes.

A oes unrhyw gydweithredwyr allanol eraill yn ymwneud â'r gwaith?
Grid Cenedlaethol ESO.

Beth sydd nesaf ar gyfer eich ymchwil?
Mae systemau ynni modern yn datblygu'n endidau byw sy'n llywio ein dewisiadau ffordd o fyw, datblygiadau technolegol, ffactorau  economaidd-gymdeithasol ac amodau amgylcheddol, ac sydd hefyd yn cael eu llywio ganddynt. Mae systemau ynni sero net yn cynnwys llawer o is-systemau deinamig sy'n datblygu'n barhaus ac sy'n rhyngweithio â'i gilydd. Felly, er mwyn optimeiddio system fyw mor gymhleth, mae angen dealltwriaeth ddofn o'r rhyngweithiadau hyn a'r gallu i'w modelu'n gywir.

Gan fod is-systemau sero net yn rhyngweithio'n ddeinamig, mae angen deall a modelu'r rhyngweithiadau rhwng yr ysgogwyr gwahanol gan gynnwys ffactorau technolegol, masnachol, cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd er mwyn creu system ynni sy'n gweithio i'r holl randdeiliaid. Ar ben hynny, oherwydd na fydd datblygiad systemau ynni'n dod i ben ar ôl iddynt gyrraedd sero net, mae angen astudio a modelu rhyngweithiadau y tu hwnt i sero net hefyd er mwyn sicrhau eu cynaliadwyedd a'u gwydnwch yn y tymor hir. Mae hyn yn cynnwys ymchwilio i effaith tueddiadau a thechnolegau datblygol a tharfol ar ysgogwyr sero net.  

 

Dr Meghdad Fazeli